Miloedd yn gorfod ymdopi ar ben eu hunain ar ôl gadael ysbyty iechyd meddwl, yn ôl ymchwil newydd gan Mind

Mae ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi gan Mind yn dangos nad yw un ym mhob deg person  sydd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn dilyn argyfwng,  yn derbyn apwyntiad dilynol o fewn wythnos ar ôl gadael – ac mae hyn yn gyfystyr ag o leiaf  11,000 o bobl bob blwyddyn.

Roedd Mind wedi danfon ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i’r 56 ymddiriedolaeth iechyd meddwl yn Lloegr  (roedd 54 ymddiriedolaeth wedi ymateb) gan ofyn am wybodaeth ynglŷn â pha mor gyflym y mae pobl yn derbyn apwyntiad dilynol ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

Mae’r apwyntiad dilynol hwn – naill ai ymweliad wyneb i wyneb neu alwad ffȏn – yn cynnig dolen gyswllt barhaus ac yn sicrhau bod y cymorth cywir parhaus yn cael ei gynnig.

Mae  canllawiau cyfredol y National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE)  yn datgan y dylid gwneud apwyntiad dilynol o fewn saith diwrnod gan fod pobl mewn peryg uchel o hunanladdiad yn ystod yr wythnos gyntaf.  Mewn gwirionedd, mae mwy o dystiolaeth gan y  National Confidential Inquiry into Suicide and Homicide yn dangos bod y rhan fwyaf o gleifion – a fu farw yn yr wythnos gyntaf ar ôl cael eu rhyddhau – wedi marw ar y trydydd diwrnod.

Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol am yr angen brys am apwyntiad dilynol amserol fel mesur allweddol er mwyn atal hunanladdiad, gyda’r Ymchwiliad a Phwyllgor Dethol Iechyd  Tŷ’r Cyffredin yn galw am apwyntiadau dilynol cynt i bobl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Mae canllawiau  NICE yn awgrymu apwyntiad  dilynol o fewn 48 ar gyfer rhai cleifion yn unig. Mae Mind yn gofyn am ymestyn y cyfnod 48 awr i bawb sydd yn gadael yr ysbyty ar ôl profi argyfwng iechyd meddwl.

Roedd Mind hefyd wedi danfon ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i holl Fyrddau Iechyd Cymru  ac wedi canfod mai ond un bwrdd a oedd wedi medru darparu’r data. Roedd Aneurin Bevan wedi dweud wrth Mind eu bod yn cynnal apwyntiadau wyneb i wyneb gyda mwy na  hanner y bobl  (55 y cant) o fewn y cyfnod amser hwn, ond nid oeddynt yn medru cynnig darlun cyflawn. Mae Mind yn galw ar Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol i fynd i’r afael â’r diffyg data sydd yn cael ei gofnodi fel bod yna dryloywder am apwyntiadau dilynol a’r math o berfformiad a geir yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru.

Roedd Mind hefyd wedi cynnal arolwg gyda mwy 850 o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl am eu profiadau ar ôl gadael yr ysbyty. Mae’r bleidlais yn dangos fod y sawl nad oedd wedi derbyn apwyntiad dilynol priodol ar ôl gadael yr ysbyty (ar ôl saith diwrnod neu heb dderbyn apwyntiad  o gwbl) ddwywaith yn fwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad a thraean yn fwy tebygol o geisio niweidio eu hunain, a hynny o gymharu â’r sawl a ddywedodd eu bod wedi derbyn apwyntiad dilynol o fewn saith diwrnod ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae canfyddiadau Mind hefyd yn dangos fod y diffyg apwyntiadau dilynol yn gosod pwysau sylweddol ar y GIG gan nad yw pobl yn derbyn yr help sydd angen arnynt er mwyn gwella. Mae’r rhai hynny na sydd yn derbyn apwyntiadau dilynol ddwywaith yn fwy tebygol o fynd i’r Uned Damweiniau Brys o ganlyniad i’w hiechyd meddwl, a hynny o fewn wythnos yn unig  ar ôl cael eu rhyddhau. Mae data gan y GIG yn dangos fod mwy nag un ym mhob ugain person (65%) sydd â phroblem iechyd meddwl ac wedi ei ryddhau o’r ysbyty, yn gorfod dychwelyd i’r ysbyty o fewn 30 diwrnod.

Dywedodd Sophie Corlett, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol gyda’r elusen Mind:

“Nid yw miloedd o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn Lloegr  yn derbyn apwyntiadau dilynol priodol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Nid yw hyn yn ddigon da. Mae’n drasiedi fod cynifer o bobl sydd wedi gadael gofal yr ysbyty yn ddiweddar yn colli eu bywydau.

“Mae’r Llywodraeth wedi gosod atal hunanladdiad  fel mater diogelwch allweddol i gleifion ar gyfer y GIG cyfan ac mae wedi addo i leihau cyfraddau hunanladdiad o 10 y cant yn y pum mlynedd nesaf. Byddai apwyntiadau dilynol mwy amserol ar ôl i gleifion adael yr ysbyty yn medru helpu i gyflawni hyn.

“Os nad ydych yn derbyn y gofal cywir ar ôl i chi adael, neu os ydych yn cael eich gadael i ymdopi ar ben eich hun, mae modd i chi gael eich dal mewn cylch dieflig  gan ddychwelyd yn syth i’r ysbyty neu fod mewn peryg o ladd eich hun. Rydym yn galw ar NICE i ddiweddaru ei ganllawiau a dal ymddiriedolaethau iechyd meddwl lleol yn Lloegr a Byrddau Iechyd Meddwl yng Nghymru yn atebol fel bod pob person sydd yn gadael yr ysbyty ar ôl profi argyfwng iechyd meddwl yn cael apwyntiad dilynol o  fewn  48 awr.

“P’un ai eich bod wedi bod yn yr ysbyty am rai diwrnod neu am rai misoedd, rydych angen y gofal a’r cymorth cywir er mwyn eich helpu i gadw’n iach. Rhan hanfodol o hyn yw sicrhau bod rhywun yn cysylltu gyda chi’n gynnar  er mwyn sicrhau eich bod yn iawn a’n derbyn y cymorth parhaus sydd angen arnoch. Mae saith diwrnod yn rhy hir i aros pan fydd adferiad rhywun mewn peryg. Mae angen i ni leihau’r cyfnod apwyntiad dilynol i 48 awr.”

Dywedodd yr Athro Louis Appleby, Cyfarwyddwr  yr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Hunanladdiad a Dynladdiad:

“Mae pobl sydd yn gadael yr ysbyty yn medru teimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi wrth iddynt fynd yn ôl i’r  problemau sydd wedi arwain  atynt yn gorfod mynd i’r ysbyty yn y lle cyntaf. Maent yn wynebu’r peryg mwyaf o hunanladdiad yn ystod y diwrnodau cyntaf ar ôl iddynt gael eu rhyddhau – mae apwyntiad dilynol o fewn 7 diwrnod wedi helpu ond mae angen mynd ymhellach. Dyma’r cam unigol pwysicaf y mae’r gwasanaeth yn medru cymryd er mwyn gwella diogelwch i gleifion.”

Mae Imani yn 36 mlwydd oed ac wedi gorfod mynd i’r ysbyty deirgwaith fel claf gwirfoddol pan oedd yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad.

Dywedodd Imani:

“Pan oeddwn wedi cael fy rhyddhau, roeddwn yn meddwl: rwyf newydd fod yn yr ysbyty ac wedi bod yn teimlo fel lladd fy hun –  rwy’n sicr o dderbyn cant y cant o ran y gefnogaeth sydd angen arnaf. Mae mynd yn ôl i’r byd mawr eto, gyda rhyddid a bod ymhlith pobl eraill, yn medru bod yn dipyn o faich ar ôl i chi gael profiad a fu bron â’ch lladd.

“Nid wyf yn cofio bod mewn cysylltiad gyda’r ysbyty ar ôl i mi gael fy rhyddhau – dim galwad ffȏn nac ymweliad – ac roeddwn angen gweld rhywun. Nid oedd y cymorth proffesiynol a dderbyniais yn agos at yr hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl, a hynny o feddwl am yr hyn yr oeddwn newydd ei brofi. Bu’n rhaid i’m gŵr gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith a bod yno er mwyn fy nghadw’n ddiogel.”