Astudiaeth y Sefydliad Iechyd Meddwl yn awgrymu bod dau ym mhob tri oedolyn yn wynebu problemau iechyd meddwl

Mae’r mwyafrif o bobl Prydain yn dweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl ar ryw bwynt yn eu bywydau, gyda chenedlaethau wedi eu heffeithio’n benodol, a hynny yn ôl ymchwil newydd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Mae’r astudiaeth newydd hon ar iechyd meddwl y genedl yn datgelu fod y mwyafrif o bobl Prydain  (65%) yn dweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl – megis pwl o banig neu iselder. Mae’r astudiaeth wedi canfod fod hon yn broblem sydd yn gwaethygu, gyda phobl iau yn fwy tebygol na rhai hynny sy’n hŷn na 55 i ddweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl.

Roedd y rhai hynny rhwng 18 a 54 mlwydd oed yn fwy tebygol o lawer o ddweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl  (70% o bobl rhwng 18 a  34 mlwydd oed a 68% o bobl rhwng 35 a 54 mlwydd oed) o gymharu â’r rhai hynny sydd yn hŷn na 55 mlwydd oed (58%).

Mae’r astudiaeth,  a lansiwyd er mwyn dathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd meddwl, a’n gwyntyllu’r niferoedd o bobl sydd yn profi problemau iechyd meddwl ar draws eu bywydau, yn datgelu lefelau iechyd meddwl positif y bobl ac yn amlinellu’r gweithgareddau y mae pobl yn ymgymryd â hwy er mwyn delio gyda bywyd beunyddiol. Mae hefyd yn datgelu:

  • dim ond lleiafrif bychan o bobl Prydain (13%) sydd yn byw gyda lefelau uchel o iechyd meddwl positif; mae mwy na chwarter o bobl (26%) yn dweud eu bod wedi cael pwl o banig a rhwng traean a hanner  (42%) yn dweud eu bod wedi profi iselder.
  • mae menywod yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl  (70% o fenywod o gymharu â 60% o ddynion)
  • roedd bron i dri chwarter o bobl (73%) sydd yn byw ar yr aelwydydd incwm isaf  (llai na £1,200 y mis) yn dweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl o gymharu â 59% o’r rhai sydd yn byw ar yr aelwydydd incwm uchaf  (mwy na £3,701 y mis); mae cyfran sylweddol o’r rhai hynny sydd yn ddi-waith  (85%) yn dweud eu bod wedi profi problem iechyd meddwl o gymharu â 66% sydd yn gweithio a 53% o bobl sydd wedi ymddeol.
  • mae’r rhai hynny sydd yn 55 mlwydd oed a’n hŷn yn fwy tebygol o gymryd camau y maent yn gwybod sydd yn dda ar gyfer eu hiechyd meddwl a lles – gan gynnwys cael digon o gwsg, bwyta’n iach a threulio amser gyda ffrindiau a theulu.

Dywedodd Jenny Edwards CBE, Prif Weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl:

“Mae ein hadroddiad yn datgelu pa mor fawr yw’r broblem hon.  Nid yw hwn yn rhywbeth sydd yn effeithio ar y lleiafrif yn unig. Ar ryw bwynt yn ein bywydau, mae’r rhan fwyaf o bobl yn debygol o brofi problem iechyd meddwl. Ar yr un pryd, nid oes digon ohonom yn ffynnu gydag iechyd meddwl da.   Rydym yn gwybod mai ond lleiafrif o bobl sydd yn profi afiechyd meddwl sydd yn cael mynediad at gymorth proffesiynol ac mae hyn yn golygu bod angen i ni ddyblu ein hymdrechion er mwyn atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu yn y lle cyntaf.”

“Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, rydym am roi’r offer i bobl sydd yn galluogi  pobl i symud o oroesi i ffynnu. Y ffon fesur ar gyfer unrhyw genedl yw iechyd a hapusrwydd ei phobl. Rydym wedi gwneud camau breision o ran iechyd ein cyrff, ond mae angen i ni gyflawni’r un peth o ran ein meddwl.”

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi amlinellu cynllun pum pwynt er mwyn creu DU ffyniannus – cynllun sydd yn dweud bod angen i ni flaenoriaethu ein hiechyd meddwl gymaint â’n iechyd corfforol.

Mae’r Sefydliad yn galw am gyflwyno sgrinio  “iechyd 100% “- sydd yn ymgorffori sgrinio iechyd i mewn i raglenni sgrinio iechyd cyfredol, rhaglen gadernid sydd yn seiliedig yn y gymuned, a chyllid cynyddol ar gyfer ymchwil iechyd meddwl gyda phwyslais ar ataliaeth. Maent hefyd yn galw am Gomisiwn Brenhinol er mwyn ymchwilio’r datrysiadau ar gyfer atal afiechyd meddwl, gyda ffocws ar leihau risg, ac adroddiad blynyddol ar gyflwr iechyd meddwl y genedl.