Mae’r elusen iechyd meddwl Gymreig, Hafal, wedi cyhoeddi canllaw newydd ‘hawdd ei ddefnyddio’ ar gyfer Cod Ymarfer Cymru ar Ddeddf Iechyd Meddwl Cymru 1983.
Diwygiwyd y Cod yn 2016 er mwyn adlewyrchu barn y budd-ddeiliaid a fynegwyd yn ystod ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â newidiadau yn y gyfraith a phractis proffesiynol. Daeth y Cod diwygiedig i rym ym mis Hydref 2016.
Tra bod y Cod Ymarfer newydd yn 303 o dudalennau, mae canllaw newydd Hafal yn 12 tudalen ac yn darparu trosolwg o holl benawdau’r Cod, yn cynnig sylwadau ar yr hyn sydd wedi newid o’r Cod blaenorol.
Lluniwyd y canllaw hwn gan reolwr Deddf Iechyd Meddwl Hafal, Jane Jannotti ac Eve Piffaretti, sef Partner yn y cwmni cyfreithiol Blake Morgan, a oedd hefyd wedi darparu’r cyllid ar gyfer y cyhoeddiad.