Cysylltu afiechyd meddwl difrifol gyda “risg dipyn uwch” o afiechyd cardiofasgwlaidd

Mae astudiaeth ryngwladol o fwy na 3.2 miliwn o bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol wedi awgrymu fod pobl ag afiechyd meddwl difrifol  mewn tipyn mwy o beryg o ddatblygu afiechyd  cardiofasgwlaidd o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.

Mae’r ymchwil, sydd wedi ei arwain gan King’s College, Llundain, yn dangos fod pobl ag afiechyd meddwl difrifol, gan gynnwys sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac iselder difrifol,  yn meddu ar risg uwch o 53 y cant o ran dioddef afiechydon cardiofasgwlaidd, gyda risg uwch o 78 y cant o ddatblygu afiechyd cardiofasgwlaidd dros yr hirdymor. Mae’r ymchwil hefyd yn dangos fod y risg y maent yn wynebu o farw o’r afiechyd yn  85 y cant yn uwch na’r bobl sydd mewn oedran tebyg a’n rhan o’r boblogaeth gyffredinol.

Wedi ei gyhoeddi ar-lein yn World Psychiatry, mae’r canfyddiadau yn amlygu’r pwysigrwydd  o sgrinio cleifion ag afiechyd meddwl difrifol yn rheolaidd ar gyfer risgiau cardiofasgwlaidd ac maent yn cyfeirio at nifer o ffactorau risg posib y mae modd eu haddasu.

Mae ystadegau wedi awgrymu ers tro byd fod pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn meddu ar ddisgwyliad oes hyd at 10 i 15 mlynedd yn is na’r boblogaeth gyffredinol, a hynny’n bennaf yn sgil  afiechydon cardiofasgwlaidd, gan gynnwys clefyd y galon, trawiad ar y galon a strôc.

Yr astudiaeth newydd hon yw’r dadansoddiad meta mwyaf erioed o afiechydon meddwl difrifol ac afiechydon  cardiofasgwlaidd gan gynnwys mwy na 3.2 miliwn o gleifion a mwy na  113 miliwn o bobl o’r boblogaeth gyffredinol. Roedd yr ymchwilwyr wedi  ystyried 92 astudiaeth ar draws pedwar cyfandir a 16 gwlad wahanol gan gynnwys yr UDA, DI, Ffrainc, Awstralia a Sweden. Roedd 10 y cant o’r bobl ag afiechydon meddwl difrifol yn meddu ar afiechyd  cardiofasgwlaidd gyda chyfraddau ychydig yn uwch o ran sgitsoffrenia (11.8 y cant) ac iselder (11.7 y cant) o gymharu ag anhwylder deubegynol (8.4 y cant), gyda risg sylweddol fwy o ddatblygu afiechyd  cardiofasgwlaidd dros amser.

Roedd yr ymchwilwyr wedi canfod rhai ffactorau pwysig sydd yn cynyddu’r risg  o afiechyd  cardiofasgwlaidd, gan gynnwys y defnydd o gyffuriau gwrthseicotig a  mynegai mas y corff uwch.

Yn seiliedig ar y canlyniadau yma, mae’r astudiaeth yn awgrymu y dylai clinigwyr, lle’n bosib, ddewis cyffuriau gwrthseicotig sy’n llai tebygol o arwain at bobl yn magu pwysau, pwysau gwaed uwch ac annormaleddau glwcos a dylent hefyd sgrinio ar gyfer afiechyd  cardiofasgwlaidd sy’n datblygu ac sydd yno eisoes, ynghyd â rheoli ffactorau risg, megis pwysau a mynegai mas y corff, mewn modd rhagweithiol.

Dywedodd Dr Brendon Stubbs o Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth yn King’s College Llundain: “Mae’r canfyddiadau yma yn ein hatgoffa ni fod pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn cael eu gollwng ar ôl, a hynny ar adeg pan mae iechyd y boblogaeth gyffredinol yn elwa o fentrau iechyd meddwl er mwyn atal y baich o afiechyd  cardiofasgwlaidd. Rydym wedi canfod fod amlygrwydd yr afiechyd  cardiofasgwlaidd mewn pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn uwch mewn astudiaethau mwy diweddar, sydd yn awgrymu bod ein hymdrechion hyd yma wedi bod yn aflwyddiannus o ran lleihau’r gagendor iechyd rhwng pobl ag afiechyd meddwl difrifol a’r boblogaeth gyffredinol.

“Mae pobl ag afiechydon meddwl difrifol yn marw dipyn ynghynt na’r rhai hynny heb unrhyw anhwylderau, ac eto, mae modd atal y mwyafrif o’r marwolaethau cynamserol yma gyda gofal sydd yn blaenoriaethu newid mewn ffyrdd o fyw, megis cadw’n heini, maetheg well a rhoi’r gorau i ysmygu, ynghyd â bod yn ofalus wrth ddefnyddio cyffuriau gwrthseicotig.”