Arolwg Mind yn canfod fod dynion yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl sydd yn ymwneud â’u swyddi

Mae ymchwil newydd gan Mind yn awgrymu fod dynion ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl yn sgil eu swyddi, a hynny o gymharu gyda phroblemau y tu allan i’r gwaith.

Mae traean o ddynion (32 y cant) yn dweud bod eu problemau iechyd meddwl wedi eu hachosi gan eu swyddi, a hynny o gymharu ag un ym mhob saith o ddynion (14 y cant) sydd yn dweud mai problemau y tu allan i’r gwaith sydd yn achosi hyn. Ar y llaw arall, mae merched dweud bod eu swyddi a phroblemau y tu allan i’r gwaith yn gydradd o ran achosi problemau iechyd meddwl, mae un ym mhob pump o ferched yn dweud mai eu swyddi sydd yn gyfrifol am achosi problemau iechyd meddwl, sef yr un ganran ag sydd yn dweud mai problemau y tu allan i’r gwaith sydd ar fai (19 y cant).

Mae’r ymchwil yn deillio o arolwg o fwy na 15,000 o gyflogeion ar draws 30 o fudiadau. Mae’r data hefyd yn dangos fod dynion yn llai tebygol na merched o chwilio am help a chymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. Tra bod dwy o bob pum merch (38 y cant) yn teimlo fod y diwylliant yn y gweithle yn ei gwneud hi’n bosib iddynt drafod eu problemau iechyd meddwl yn agored, dim ond un ym mhob tri dyn (31 y cant) oedd yn dweud yr un fath. Mae dwy ym mhob pum merch (43 y cant) wedi cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith yn sgil problemau iechyd meddwl ar ryw bwynt yn eu gyrfaoedd, ond mae hyn ond yn wir am un ym mhob tri o ddynion (29 y cant).

Er bod dynion yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl yn sgil eu swyddi, mae hyn yn awgrymu fod merched yn fwy tebygol o siarad am y broblem a chwilio am help gan y rheolwr llinell neu’r cyflogwr. Mae ymchwil blaenorol a gynhaliwyd gan Mind yn awgrymu fod dynion yn aml yn ceisio canfod ffyrdd o ddelio gyda’u problemau yn annibynnol yn hytrach na rhannu eu problemau. Yn hytrach na siarad am eu problemau, mae dynion yn ffafrio gwylio teledu, cadw’n heini a delio gyda phethau yn eu ffordd eu hunain, megis yfed alcohol.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos gwahaniaeth yn y modd y mae dynion a merched yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn y gweithle. Tra bod un ym mhob tair o ferched  (58 y cant) yn teimlo bod eu rheolwr yn gofyn iddynt yn aml ynglŷn â sut y maent yn teimlo, dim ond hanner y dynion (49 y cant) sydd yn teimlo fel hyn.

Fodd bynnag, mae’r canlyniadau yn dangos fod rheolwyr llinell yn teimlo’n hyderus yn cefnogi cyflogeion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae tri ym mhob pedwar o reolwyr llinell (74 y cant) yn teimlo’n hyderus yn cefnogi aelod o’r tîm sydd â phroblemau iechyd meddwl. Er hynny, mae’r canlyniadau yn dangos gwahaniaeth rhwng sut y mae rheolwr llinell gwyraidd a benywaidd yn teimlo eu bod yn hyrwyddo lles yn y gweithle;  dim ond tri ym mhob pum rheolwr llinell gwrywaidd (60 y cant) sydd yn teimlo eu bod yn meddu ar ddealltwriaeth o sut i hyrwyddo lles meddwl staff, o gymharu gyda thri ym mhob pedwar o reolwyr llinell benywaidd (74 y cant).

Dywedodd Emma Mamo, Pennaeth Lles yn y Gweithle gyda Mind: “Mae ein hymchwil yn dangos mai gwaith yw’r prif ffactor sydd yn achosi problemau iechyd meddwl ymhlith dynion, a hynny’n fwy na phroblemau y tu allan i’r gwaith. Mae llawer o ddynion yn gweithio  mewn diwydiannau lle y ceir diwylliant ‘macho’,  lle y ceir amgylchedd cystadleuol  sydd yn eu hatal rhag teimlo eu bod yn medru bod yn agored. Mae’n bryderus fod cynifer o ddynion yn methu â siarad gyda’u penaethiaid am yr effaith y mae’r gwaith yn ei gael ar eu lles, ac mae hyd yn oed yn fwy pryderus nad ydynt wedyn yn cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith pan fydd angen. Mae ein hymchwil yn dangos fod y mwyafrif o reolwyr yn hyderus yn cefnogi cyflogeion gyda phroblemau iechyd meddwl, ond maent ond yn medru cynnig help os ydynt yn gwybod am y broblem yn y lle cyntaf.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cyflogwyr yn gwneud cynnydd sylweddol pan ddaw hi ar fynd i’r afael a straen a phwysau a chefnogi lles meddwl yn y gweithle ar gyfer eu staff,  gan gynnwys problemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae dal angen gwneud mwy ac mae angen i gyflogwyr i gydnabod y dulliau gwahanol y mae’n rhaid iddynt fabwysiadu o bosib yn y modd y maent yn ymdrin ag iechyd meddwl yn y gweithle.”