Galw i wneud y gweithlu iechyd meddwl yn addas ar gyfer y dyfodol wrth i’r pwysau ar wasanaethau gynyddu

Mae angen “diwygiad radical” o wasanaethau iechyd meddwl er mwyn datblygu gweithlu i ddiwallu anghenion pobl yn y dyfodol, a hynny yn ôl adroddiad newydd gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl ar ran y Rhwydwaith Iechyd Meddwl, sydd yn rhan o’r Conffederasiwn  GIG.

Roedd yr adroddiad, The future of the mental health workforce, wedi ei gomisiynu gan Gyflogwyr y GIG, a’i gefnogi gan Addysg Iechyd Lloegr. Mae’n seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol ac yn amlinellu rhestr o argymhellion sydd angen ar gyfer gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd ataliaeth, gan gynnwys rôl Meddygon Teulu o ran cefnogi pobl cyn eu bod yn cyrraedd y pwynt argyfwng.

Mae’r adroddiad yn disgrifio’r broses o gomisiynu gwasanaethau iechyd meddwl  fel “argyfwng” gyda “gweithlu sy’n crebachu, disgwyliadau sydd yn cynyddu a gofynion dibendraw” gan roi pwysau  ar staff ar draws y wlad.

Mae’r adroddiad yn nodi bod traean o ymgynghoriadau Meddygon Teulu  yn ymdrin ag iechyd meddwl ond mae llai na hanner o Feddygon Teulu wedi cael profiad o weithio yn y maes iechyd meddwl.

Mae dyfodol y gweithlu iechyd meddwl yn gwneud argymhellion gan gynnwys sicrhau bod Meddygon Teulu  yn derbyn hyfforddiant sylweddol ac eang ei ystod mewn maes iechyd meddwl a dylid rhoi’r amser a’r hyfforddiant i weithwyr iechyd meddwl proffesiynol i ymgynghori gyda Meddygon Teulu a staff gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn eu helpu i ymateb i fwy o anghenion iechyd meddwl pobl. Mae’n ystyried yr hyn y dylai’r gweithlu iechyd meddwl  gynnwys yn y tymor canoli i’r tymor hir, y tu hwn i’r pump i’r 10 mlynedd nesaf.

Mae argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Dylai cyrff proffesiynol ddod at ei gilydd er mwyn datblygu ystod o lwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac yn cynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer pobl sydd yn dymuno symud rhwng meysydd a’u rolau yn ystod eu gyrfaoedd.
  • Dylai gwasanaethau iechyd meddwl ymgysylltu ag ysgolion a cholegau er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd mewn iechyd meddwl i bobl ifanc.
  • Dylai darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl gefnogi lles eu gweithlu eu hunain.

Dywedodd Sarah Hughes, prif weithredwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl:

“Mae gofal iechyd meddwl yn dibynnu ar bobl sydd â’r sgiliau cywir, y gallu a’r wybodaeth i gefnogi eraill, yn aml mewn adegau o argyfwng neu pan eu bod yn agored i niwed. Mae’n golygu helpu pobl ac mae meddu ar y gweithlu cywir yn hanfodol ar gyfer ei effeithiolrwydd.

“Mae’r adborth gan bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a phobl sydd yn gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl yn dynodi trachwant ar gyfer newid ac addasu. Bydd angen i ddyfodol y gweithlu iechyd meddwl i fod yn sgilgar mewn cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda’r rhai sydd yn eu defnyddio; addysgu a chefnogi Meddygon Teulu, athrawon a staff ysbyty ac ymgysylltu gyda chymunedau. Rydym angen denu pobl ifanc i weithio ym maes iechyd meddwl, a hynny tra eu bod yn yr ysgol  a chreu gyrfaoedd bywiog, amrywiol a heriol sydd yn newid wrth i bobl fynd yn hŷn. A rhaid i ni greu mudiadau  trugarog sydd yn cefnogi lles y rhai hynny sydd yn gweithio ynddynt.”