“Gofal Seiciatreg yn Loteri Cod Post”

Mae ymchwil newydd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn awgrymu fod yna wahaniaethau mawr ar draws y DU o ran cael mynediad at seiciatryddion ymgynghorol – sef yr uwch feddygon yn y GIG sydd yn gweithio ym maes iechyd meddwl.

Mae data yn dangos fod Cymru yn meddu ar y gyfradd isaf o seiciatryddion ymgynghorol am bob 100,000 o boblyn y DU. Ar gyfer pob un o’r 100,000 o bobl sydd yn byw yng Nghymru, dim ond chwe seiciatrydd sydd yn cynnig gofal arbenigol i’r rhai hynny sydd yn meddu ar yr afiechyd meddwl mwyaf difrifol a chymhleth, a hynny o gymharu gyda  10 am bob 100,000 o bobl yn yr Alban ac 8 am bob 100,000 o bobl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Hyd yn oed o fewn Cymru, mae yna gryn amrywiaeth o ran y seiciatryddion ymgynghorol sydd yn gweithio yn y Byrddau Iechyd Lleol. Pobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig sydd yn wynebu’r problemau mwyaf wrth geisio cael mynediad at ofal iechyd meddwl arbenigol gyda llai na hanner y nifer o seiciatryddion y pen o’r boblogaeth, a hynny o gymharu gyda phobl yn byw mewn ardaloedd mwy trefol. Canfuwyd mai ond  pedwar seiciatrydd ymgynghorol am bob 100,000 o bobl sydd ar gael ym Mwrdd Dysgu Iechyd Powys o gymharu gydag 11 ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf.

Rhwng 2011 a 2016, mae’r nifer o seiciatryddion ymgynghorol wedi dirywio  o 3.8%, tra bod y nifer o ymgynghorwyr ar draws yr holl feysydd arbenigol eraill wedi cynyddu 10.4%. Roedd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wedi amlygu maint y broblem recriwtio ar draws yr holl feysydd meddygol yng Nghymru yn yr adroddiad ar Recriwtio Meddygol.

Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu nad oes digon o feddygon iau yn dilyn gyrfa mewn seiciatreg.  Mae recriwtio i faes seiciatreg yng Nghymru tua 30%. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r cyllid sydd yn cael ei roi er mwyn datblygu gwasanaethau mewn rhai meysydd o iechyd meddwl, megis seiciatreg cyswllt ac anhwylderau bwyta, mae’n dal yn her i recriwtio  meddygon i’r maes.

Mae’r nifer o seiciatryddion ymgynghorol am bob  100,000 o bobl ar draws Cymru fel a ganlyn:-

  1. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg– 6
  2. Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan– 6
  3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr– 7
  4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a Bro Morgannwg– 6
  5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf– 11
  6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda  – 4
  7. Bwrdd Iechyd Dysgu Powys – 4

Mae’r nifer o seiciatryddion ymgynghorol GIG am bob  100,000 o bobl ar draws y DU fel a ganlyn:-

  • Cymru – 6
  • Yr Alban – 10
  • Lloegr – 8
  • Gogledd Iwerddon – 8

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion heddiw yn lansio’r ymgyrch Dewis Seiciatreg  er mwyn annog mwy o fyfyrwyr meddygol i fod yn rhan o’r gweithlu hanfodol sydd angen er mwyn cefnogi pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol.

Er yr heriau, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn aml yn uchel mewn polau cenedlaethol ar ddangosyddion pwysig mewn bodlonrwydd staff gydag ansawdd y gwaith a’r gofal y maent yn darparu, doed a ddel ble y mae’r seiciatryddion wedi eu lleoli ar draws y wlad.

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Is-Lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion:

“Mae’n wych fod pobl yn dechrau cydnabod yn fwy ac yn fwy sgil-effeithiau problemau iechyd meddwl  ond rydym yn bryderus iawn fod pobl ag afiechyd meddwl difrifol dal yn straffaglu i dderbyn y driniaeth gywir gan y bobl gywir yn y lle cywir ac ar yr adeg gywir – a hynny yn sgil trafferthion recriwtio. Mae hyn yn medru arwain at ganlyniadau difäol ac weithiau angheuol.

“Mae seiciatreg yn yrfa wych ac mae Cymru yn lle gwych i weithio. Buaswn yn annog unrhyw un sydd am weithio mewn maes amrywiol, ysbrydoledig, lle y mae cyfle i ddod i adnabod y cleifion, i ddewis seiciatreg.”

Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal: 

“Tra bod pawb ohonom sydd yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn gwybod fod adferiad yn ddibynnol ar ddull aml-asiantaeth, holistaidd, un o’r ffigyrau allweddol yn y tîm yw’r Seiciatrydd ymgynghorol. Mae’r seiciatrydd yn hanfodol, yn enwedig mewn cyfnodau o argyfwng, a hynny o ran lliniaru sgil-effeithiau’r argyfwng a helpu atal y fath broblemau yn y dyfodol.

“Mae seiciatreg yn achub bywydau ac yn ychwanegu blynyddoedd at fywydau’r cleifion.

“O fewn Cymru, mae’r Llywodraeth yn cynnig arweiniad cryf o ran cyd-greu ym maes gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac felly, mae gennym angen penodol ar gyfer Seiciatryddion Ymgynghorol sydd am weithio mewn awyrgylch sydd yn ffocysu ar adferiad ac yn darparu cysondeb o ran y cymorth sydd angen ar gyfer pobl sydd angen help. Nid oes digon o’r meddygon arbenigol yma ac mae’n hanfodol ein bod yn annog ac yn cefnogi   hyfforddeion i ddod yn Seiciatryddion Ymgynghorol yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Ceri Evans, Cyd-Arweinydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer Recriwtio a Chadw Pobl yng Nghymru:

“Mae’r Coleg yng Nghymru yn gweithio yn galed er mwyn mynd i’r afael â’r materion yma o ran recriwtio a dal gafael ar y seiciatryddion ac rydym wedi llunio strategaeth er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd y maes arbenigol hwn a dangos ei fod yn cynnig gyrfa sydd yn werth chweil.”

Dywedodd Dr Chantelle Wiseman, Cynrychiolydd Hyfforddeion ar gyfer Cymru yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion:

“Mae darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol gyda dull sy’n canoli ar y claf yn hanfodol i hyfforddiant seiciatreg. Mae’r rhaglen hyfforddi yng Nghymru yn gynllun sydd wedi ei ddylunio’n dda, sy’n ffocysu ar ddatblygu hyfforddeion fel gweithwyr proffesiynol ac unigolion ynghyd â bod yn rhai o brif glinigwyr y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.rcpsych.ac.uk/choosepsychiatry