“Nid yw pobl hŷn yn derbyn y cymorth iechyd meddwl y maent yn haeddu” – BACP

Dydd Sul, 1 Hydref oedd y  Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Hŷn. Eto, mae ymchwil gan y  British Association for Counselling and Psychotherapy (BACP) yn awgrymu nad yw’ grŵp oedran yma yn derbyn y mynediad at y gwasanaethau y maent yn haeddu, a hynny er eu bod yn gofyn am helpu gyda’u hiechyd meddwl.

Mae canlyniadau arolwg a gomisiynwyd gan BACP yn awgrymu er bod pobl hŷn yn gofyn am help gofal iechyd proffesiynol –  73% o bobl hŷn sydd â symptomau o iselder a  63% gyda symptomau o orbryder – nid yw llawer yn derbyn y cwnsela sydd angen arnynt er mwyn gwella eu hiechyd meddwl.

Roedd y gwaith yn edrych ar p’un ai yw pobl hŷn yn debygol o ymweld gyda gweithwyr iechyd proffesiynol er mwyn chwilio am helpu gyda’u symptomau o orbryder neu iselder (gan gymharu’r rhain gyda’r rhai a fu’n ymweld gyda gweithwyr iechyd proffesiynol am gwynion iechyd cyffredin eraill) a ph’un ai fod agwedd ‘stiff upper lip’ pobl Prydain yn golygu eu bod yn fwy tebygol o geisio ymdopi ar ben eu hunain.

Mae’r arolwg yn datgelu y byddai 62% o bobl hŷn, na sydd wedi synhwyro eu bod yn dioddef symptomau o iselder yn y bum mlynedd ddiwethaf, yn mynd ati i gysylltu gyda’u Meddyg Teulu petai hwy yn amau’r fath symptomau ac roedd hyn yn wir am  51% o ran gorbryder; roedd y ffigyrau yn 84% ar gyfer clefyd y siwgr a 46% ar gyfer insomnia.

Fodd bynnag, roedd y canlyniadau hefyd yn dangos fod mwy na hanner o’r sawl sydd yn hŷn na 55 mlwydd oed (56%) ac wedi ymweld gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wrth amau fod iselder arnynt  heb gael eu hatgyfeirio at unrhyw fath o gwnsela neu therapi siarad. Ymhlith y sawl a aeth i ymweld gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â gorbryder, roedd llai na ddau draean (63%) heb gael eu hatgyfeirio. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod yr arolwg yn dangos fod 68% o’r grŵp oedran hwn yn cytuno y byddent yn “agored i gwnsela neu seicotherapi yn y dyfodol os mai dyma’r hyn a oedd yn cael ei argymell i ni.”

Roedd tua chwarter (24%) o’r sawl a fu’n ymweld gyda darparwr gofal iechyd am eu hiselder wedi rhoi gwybod nad oeddynt wedi eu hatgyfeirio i dderbyn therapi siarad, ac yn hytrach wedi derbyn cwrs o feddyginiaeth; o ran gorbryder, roedd y ffigwr yma yn 1 ym mhob  5 (20%).

Roedd naw y cant o’r rhai na chafodd eu hatgyfeirio at weithiwr iechyd proffesiynol wedi ceisio canfod gwasanaethau cwnsela eu hunain ar gyfer eu hiselder ac roedd pedwar y cant wedi trefnu eu therapi siarad eu hunain ar gyfer problemau gorbryder.

Dywedodd Llywydd BACP David Weaver: “Roeddem yn disgwyl canfod fod pobl hŷn dal yn teimlo’n anghyfforddus yn trafod eu lles meddwl ac emosiynol; hyd yn oed gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ond mae’r canlyniadau yn dangos nad yw hyn yn wir. Maent yn gofyn am help; ond mae cyfradd uchel yn cael eu methu.