Mae Mental Health UK yn lansio gwasanaeth arloesol newydd heddiw sydd wedi ei chreu ar gyfer yr wyth miliwn o bobl yn y DU sydd yn profi problemau iechyd meddwl ac arian.
Cyngor Iechyd Meddwl ac Ariannol yw’r gwasanaeth cyntaf i gyfuno cymorth ar gyfer pobl sydd ag afiechyd meddwl a’n cael problemau ariannol a’r rhai hynny sydd â phroblemau arian sydd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.
Mae ymchwil diweddar sy’n cynnwys mwy na 1,500 o weithwyr proffeisynol a phobl sydd wedi eu heffeithio gan broblemau afiechyd meddwl yn amlygu’r angen am gymorth arbenigol.
O blith y rhai a oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg, roedd bron i naw o bob deg (87 y cant) yn dymuno derbyn atebion i’w cwestiynau iechyd meddwl ac ariannol. Roedd bron i wyth o bob deg person (78 y cant) yn dymuno derbyn y wybodaeth hon drwy gyfrwng gwefan tra bod bron i hanner o’r bobl (49 y cant) yn dymuno siarad ag aelod o staff hyfforddedig dros y ffôn.
Bydd y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn cael ei ddarparu gan Mental Health UK, sef elusen newydd sydd wedi ei chreu gan bedwar mudiad iechyd meddwl, sef:Rethink Mental Illness, Hafal, Support in Mind Scotland a MindWise. Mae lansiad y gwasanaeth ond yn bosib yn sgil mwy na £3 miliwn o gyllid gan Grŵp Bancio Lloyds fel rhan o bartneriaeth dwy elusen y Grŵp gyda Mental Health UK.
Mae’r wefan, sydd ar gael am ddim, yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor ymarferol ac offerynnau megis llythyron templed a chyfrifiannell, sydd wedi eu teilwra ar draws y DU er mwyn sicrhau bod y cyngor yn berthnasol ac yn gywrain. At hyn, bydd y wefan yn cynnwys straeon a chyngor gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl ac arian. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnwys llinell gymorth y mae elusennau a mudiadau dyled yn medru atgyfeirio pobl iddi er mwyn derbyn cymorth arbenigol.
Dywedodd Brian Dow, Rheolwr Gyfarwyddwr Mental Health UK:
“Mae problemau ariannol a materion iechyd meddwl megis gorbryder ac iselder yn medru creu cylch dieflig lle y mae problemau yn gwaethygu. Pan fydd pethau ar eu gwaethaf, mae hyn yn medru arwain at ddyledion, teuluoedd yn rhwygo a hyd yn oed digartrefedd.
“Dyma pan ein bod yn lansio’r gwasanaeth cyntaf o’i fath; yn darparu rhywle i rai o’r wyth miliwn o bobl sydd wedi eu heffeithio. Rhywle y mae modd iddynt dderbyn cyngor y mae modd dibynnu arno a chymorth iechyd meddwl arbenigol.
“Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn medru helpu unrhyw sydd â sgitsoffrenia ac sydd angen cymorth yn rheoli eu harian a’n derbyn budd-daliadau lles a rhywun yn stryffaglu i dalu ei ddyledion a’i filiau ac o ganlyniad yn dioddef problemau iechyd meddwl.
“Mae’r gwasanaeth wedi bod yn bosib yn sgil yr arian sylweddol a hael sydd wedi ei gasglu gan Grŵp Bancio Lloyds a’u cydweithwyr. Bydd eu gwaith caled yn golygu bod yr adnodd hwn ar gael i bawb sydd yn cael problemau gyda’u hiechyd meddwl a’u harian.”
Dywedodd Fiona Cannon, Cyfarwyddwr Busnes Cyfrifol a Chynhwysiant yng Ngrŵp Bancio Lloyds
“Rydym yn falch iawn i weld Mental Health UK yn lansio’r gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Ariannol ac yn edrych ymlaen at weld yr effaith bositif y bydd y gwasanaeth yn ei gael ar y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan broblemau ariannol ac iechyd meddwl. Mae cydweithwyr Grŵp Bancio Lloyds wedi bod wrthi am flwyddyn yn gwireddu’r uchelgais yma, gan gasglu mwy na £3 miliwn o bunnoedd eleni, gan fynd y tu hwnt i’n targed blynyddol o £2 miliwn.
“Mae ein cydweithwyr yn teimlo’n angerddol ynghylch hyn ac mae wedi bod yn allweddol i gyflawni’r amcanion yr ydym wedi gwneud i’n cymunedau fel rhan o’n Cynllun Helpu Prydain i Ffynnu.”
Dywedodd Tanya Partridge, 33 o Fryste
“Cefais ddiagnosis o iselder a gorbryder yn dilyn cyfnod pan oeddwn mewn dyled a oedd yn amhosib ei reoli.
“Roeddwn yn pryderi ddydd a nos. Nid oeddwn yn medru gweld dihangfa. Roeddwn yn teimlo’n ddiwerth am i mi ganfod fy hun yn y fath sefyllfa. Roeddwn yn cael pyliau o banig ac wedi ymatal rhag cymdeithasu a oedd yn effeithio ar fy ngwaith a’m cyfeillgarwch.
“Roeddwn wedi derbyn help gan amryw o wasanaethau ond nid oeddynt yn medru helpu gyda fy mhroblemau iechyd meddwl. Rwy’n cofio crio pan yn siarad gyda hwy ond nid oedd neb wedi gofyn a oeddwn yn iawn.
“Rwy’n sicr yn medru gweld pa mor ddefnyddiol y byddai gwasanaeth cyngor iechyd meddwl ac arian wedi bod. Rwyf yn well erbyn hyn ond nid oes modd gorbwysleisio sut y mae straen ariannol yn medru gorbwysleisio sut y mae straen ariannol yn medru effeithio ar eich iechyd meddwl.”
Mae’r gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn dynodi carreg filltir bwysig yn y bartneriaeth ddwy flynedd gyda Grŵp Bancio Lloyds a Mental Health UK. Uchelgais gyfun y bartneriaeth yw mynd i’r afael â’r materion o ran iechyd meddwl ac arian sydd yn rhan o’n uchelgais ehangach yng Ngrŵp Bancio Lloyds i Helpu Prydain i ffynnu drwy fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol ac economaidd.
Mae ffilm fer ar gael yma yn dangos sut y mae’r wefan yn gweithio ac mae modd gweld y cyngor a’r cymorth sydd ar gael yma