Cymdeithas y Gyfraith: “Mae angen mesurau diogelwch mwy cryf i amddiffyn cleifion sydd yn cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl”

Mae pobl sydd yn cael eu cadw yn yr ysbyty yn sgil problemau iechyd meddwl angen deddfwriaeth sydd yn eu hamddiffyn yn well, a hynny yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr yn Lloegr a Chymru, i adolygiad annibynnol o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (the Act), a gyhoeddwyd gan Theresa May mewn araith yng nghynhadledd ddiweddar o’r blaid.

“Yn ôl y gyfraith heddiw, mae rhywun sydd wedi ei ddal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn medru cael ei drin heb roi caniatâd, a hynny am y tri mis cyntaf ac nid oes unrhyw fesurau diogelwch yn eu hamddiffyn. Rhaid i hyn ddod i ben,” dywedodd is-lywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr, Christina Blacklaws.

“Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r wladwriaeth i gadw cleifion am gyfnodau hir o amser – ond wedi’r penderfyniad cychwynnol, mae’n cymryd chwe mis cyn bod y claf yn cael cyfle i adolygu hyn.

“Rydym yn credu y dylent fod yn medru herio’r penderfyniad hwn i’w cadw yn yr ysbyty, a hynny dipyn ynghynt – mae chwe mis yn rhy hir o lawer ac yn medru gwaethygu’r straen sydd yn cael ei brofi gan bobl sydd eisoes yn dioddef.

“Efallai na fydd plant yn medru herio’r ffaith eu bod yn cael eu cadw neu’r modd y maent yn cael eu trin o gwbl. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn galw am fesurau penodol i ddiogelu plant sydd yn derbyn gofal seiciatryddol fel cleifion mewnol.”

Mae tystiolaeth Gymdeithas y Cyfreithwyr yn cynnig nifer o argymhellion am ddarpariaethau’r Ddeddf Iechyd Meddwl ynghyd â thriniaethau a gwasanaethau iechyd meddwl eraill, gan gynnwys:

Rhaid cael gwared ar y trefniant o drin pobl heb eu caniatâd am y tri mis cyntaf o’u cyfod yn yr ysbyty – oni bai bod hyn wedi ei gymeradwyo gan feddyg sydd wedi apwyntio i roi ail farn.

Nid yw plant sydd yn cael eu cadw yn yr ysbyty gyda chaniatâd y rheini yn meddu ar unrhyw fesurau i’w diogelu, megis ffordd i herio’r ffaith eu bod yn cael eu cadw neu’u triniaeth. Dylai mesurau diogelwch penodol fod ar gael i blant sydd yn derbyn gofal seiciatryddol fel cleifion mewnol.

Rhaid adolygu’r broses o orchmynion triniaeth gymunedol, a hynny ar frys. Mae cleifion mewn lleoliadau cymunedol yn cael arian am gymryd eu meddyginiaeth.

Rhaid rhoi’r un lefel o ofal i garcharorion sydd â phroblemau iechyd meddwl ag sydd yn cael ei roi i unrhyw berson arall.
Wrth gloi, dywedodd Christina Blacklaws: “Mae dulliau ac agweddau at iechyd meddwl wedi symud ymlaen ers ysgrifennu’r Ddeddf a dylai’r ddeddfwriaeth adlewyrchu hynny.

“Dylai pob person sydd â phroblemau iechyd meddwl gael ei drin yn y ffordd leiaf rhwystrol bosib a dylid ond eu cadw yn herbyn eu hewyllys os yw eu hiechyd, diogelwch neu ddiogelwch y cyhoedd yn ddibynnol ar yr opsiwn olaf hwn.”

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn gorff proffesiynol sydd yn gweithio dros bedwar ban byd yn cefnogi ac yn cynrychioli cyfreithwyr, yn hyrwyddo’r safonau proffesiynol uchaf, y budd cyhoeddus a’r gyfraith. Am fwy o wybodaeth, ewch i: lawsociety.org.uk