Cynllun newydd i atal hunanladdiad a hunan niwed yng Ngogledd Cymru

Bydd cynllun newydd i atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Ngogledd Cymru yn ceisio gwneud y mater yn ‘fater o bwys i bawb’.

Mae sefydliadau yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, Heddlu Gogledd Cymru a grwpiau’r trydydd sector yn cynnwys y Samariaid wedi dod ynghyd i ddatblygu cynllun gweithredu strategol i leihau hunanladdiad a hunan niwed dros y tair blynedd nesaf.

Mae adborth gan Caniad, sy’n cynrychioli unigolion sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl, hefyd wedi cael ei ddefnyddio i roi’r cynllun at ei gilydd, fel rhan o ymrwymiad BIPBC i’w cynnwys mewn ymdrechion parhaus i wella gwasanaethau.

Dynodwyd y cynllun fel blaenoriaeth allweddol yn strategaeth iechyd meddwl BIPBC a gyhoeddwyd yn ddiweddar – sy’n nodi’r cyfeiriad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar draws Gogledd Cymru.

Mae Richard Birch o Frymbo ger Wrecsam wedi ceisio cyflawni hunanladdiad nifer o weithiau ac mae ei adborth wedi cael ei ddefnyddio er mwyn rhoi’r cynllun at ei gilydd. Dywedodd:

“Pan fyddwn yn profi meddyliau hunanladdol byddwn yn teimlo’n ynysig ac yn unig iawn. Mae argyhoeddiad yn aml nad oes neb yn eich caru neu’n poeni amdanoch a gallwch amau gonestrwydd unigolion hyd yn oed pan fyddent yn cynnig cefnogaeth.

“Gall gwybod am yr hyn sy’n symbylu pan fo unigolion yn teimlo’n anobeithiol a gwneud iddynt deimlo bod eu heisiau a’u hangen helpu’n fawr. Rwyf hefyd wedi canfod fod defnyddio Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL a siarad ag eraill yn helpu.

“Mae hunanladdiad yn dal i fod yn bwnc tabŵ ac mae’r ymddygiadau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan niwed yn dal i gael eu gweld yn negyddol ac fel modd o ‘geisio sylw’. Yn ogystal â chwarae rôl hanfodol mewn atal hunanladdiad a hunan niwed rwy’n meddwl bod gan y cynllun hwn rôl bwysig i’w chwarae mewn codi ymwybyddiaeth.”

 

Dywedodd yr Athro Dr Rob Atenstaedt, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus gyda Chyfarwyddiaeth Iechyd Cyhoeddus BIPBC:

“Mae pob hunanladdiad yn drasiedi sydd ag effaith arwyddocaol ar aelodau’r teulu, cydweithwyr a’r gymuned ehangach yn hir wedi marwolaeth yr unigolyn. Mae hefyd anghydraddoldebau mawr mewn hunanladdiad a hunan niwed na ddylai fod.”

“Mae ystadegau’n dangos mai hunanladdiad yw lladdwr mwyaf dynion o dan 50 mlwydd oed, ac ar gyfer pob unigolyn sy’n marw o hunanladdiad, bydd naw arall yn ceisio cyflawni hunanladdiad.”

Dywedodd Dr Gwenllian Parry, Cadeirydd Grŵp aml-asiantaethol Atal Hunanladdiad a Hunan Niwed Gogledd Cymru:

“Ni all un sefydliad leihau hunanladdiad a hunan niwed ar ei ben ei hun, a bydd angen canolbwynt tymor hir ymroddedig ac ymrwymiad er mwyn parhau i weithio ar y cyd fel bod atal hunanladdiad a hunan niwed yn dod yn fater o bwys i bawb.”

Bydd y cynllun yn targedu grwpiau blaenoriaeth ar draws Gogledd Cymru sy’n cynnwys dynion canol oed; pobl hŷn dros 75 mlwydd oed sydd ag iselder a salwch corfforol; plant a phobl ifanc sydd â chefndir bregus; unigolion mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac unigolion sydd â hanes o hunan niwed.

Ymysg gweithredoedd blaenoriaeth y cynllun y mae gwell canlyniadau ar gyfer unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl, hyfforddiant pellach ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n aml yn dod i gysylltiad ag unigolion sydd mewn perygl o hunanladdiad a hunan niwed a gwell data ar hunanladdiad a hunan niwed yng Ngogledd Cymru.