Mae Mental Health Today yn cynnal ei gynhadledd ac arddangosfa flynyddol am y seithfed tro o’r bron yng Nghaerdydd ar ddydd Iau, 10fed Mai yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd.
Mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad ardystiedig o ran datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth ac yn ceisio annog cynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl drwy drafodaethau, gwella dealltwriaeth a sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed.
Bydd ffigyrau allweddol o’r sector iechyd meddwl yn mynychu a byddant yn mynd i’r afael â’r heriau modern ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau iechyd. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar dri thestun allweddol:
Ystafell 1: Gofal a Chymorth mewn Argyfwng
Ystafell 2: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ystafell 3: Cyflyrau Iechyd Meddwl
Er mwyn archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, ewch i: https://www.pavpub.com/mental-health-today-wales-2018/
Mae tocynnau yn £35 yr un + TAW, gyda myfyrwyr yn medru prynu tocynnau am £10 + TAW. Mae Mental Health Today Wales hefyd yn cynnig tocynnau am ddim i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofal di-dâl. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch info@pavpub.com