Bydd cynhadledd Prosiect Cyfraith Gyhoeddus sydd i’w chynnal yng Nghaerdydd fis nesaf yn gwyntyllu pa ddyletswyddau sydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo cydraddoldeb ac atal gwahaniaethu – a sut y mae’r rhai hynny sydd yn dioddef gwahaniaethu yn medru arfer eu hawliau.
Bydd y gynhadledd, sydd yn cael ei chynnal ar y 26ain o Fawrth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ystyried y cyfreithiau, statudau a chonfensiynau perthnasol a’r practis cyfreithiau dynol a chyfraith gyhoeddus cysylltiedig, ac mae wedi ei hanelu at gynghorwyr, unigolion sy’n rhan o’r gymdeithas sifil, academyddion, gwneuthurwyr polisi a chyfreithwyr.
Bydd sesiynau grŵp yn ystyried nifer o faterion gan gynnwys: –
- Cosbau o ran Budd-daliadau a Hawliadau o dan y Ddeddf Gydraddoldeb
- Gweithredu deddfwriaeth atal digartrefedd Cymru; Gwersi ar gyfer y Ddeddf Lleihau Digartrefedd
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
- Cymorth Cyfreithiol ar gyfer hawliadau gwahaniaethu
- Atgyfnerthu hawliau dynol yng nghyfreithiau Cymru
- Gwahaniaethu anabledd a chyfraith gyhoeddus
Bydd Elizabeth Prochaska, Cyfarwyddwr Cyfreithiol, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn rhoi cyflwyniad ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu, tra y bydd Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesedd, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yn trafod gweithredu’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ar ddiwedd y gynhadledd, bydd panel o arbenigwyr yn ymateb i’r cwestiynau canlynol: A yw deddfwriaeth gymdeithasol ac economaidd sydd yn benodol i Gymru yn gwella’r broses o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol? Os felly, a yw’n orfodadwy?
Bydd aelodau o’r panel yn cynnwys:-
- Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal
- Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesedd, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
- Rhian Davies, anabledd Cymru
- Michael Imperato, Watkins and Gunn
- Dr Simon Hoffman, Prifysgol Abertawe
- Elizabeth Prochaska, Cyfarwyddwr Cyfreithiol, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Bydd Jo Hickman, Cyfarwyddwr y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus a Jeremy Miles AC, Cwnselydd Cyffredinol Cymru, yn agor y digwyddiad. Bydd Syr Wyn Williams, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, yn rhoi’r anerchiad a fydd yn cloi’r gynhadledd.
Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd neu i archebu lle, cliciwch yma os gwelwch yn dda.