CYFWELIAD ARBENNIG: Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru

Mewn cyfweliad arbennig gydag Iechyd Meddwl Cymru, mae Matt Jukes, a benodwyd yn ddiweddar fel Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, yn trafod iechyd meddwl a phlismona, y Concordat Iechyd Meddwl, atal afiechyd meddwl ymhlith pobl ifanc – a sut y mae gweithgareddau corfforol yn medru cyfrannu at les meddwl.

Pa mor bwysig yw lles meddwl o ran sicrhau heddlu effeithiol, a sut y mae Heddlu De Cymru yn hyrwyddo lles meddwl?

Mae natur plismona yn golygu ein bod yn fwy tebygol o weld, profi a delio gyda phethau nad yw’r rhan fwyaf o aelodau cymdeithas yn gorfod delio gyda hwy. Mae’n medru arwain at oblygiadau tymor byr a thymor hir, ac os nad ydym yn delio ac yn cefnogi’r bobl sydd yn profi hyn, yna mi fyddwn yn wynebu sefyllfa lle nad yw pobl yn teimlo eu bod yn ddigon ffit i gyfrannu at y gweithle ac yn absennol yn sgil salwch. Os ydym am fod ymhlith yr heddlu gorau o ran amddiffyn pobl sy’n agored i niwed a’n deall ein cymunedau, yna rhaid i ni fod ar ein gorau. I mi, mae yna lawer o gyfleoedd i wneud hyn.

Roeddem wedi cyflwyno Wellbeing Wednesday, fel cyfle i staff i symud i ffwrdd o’u desgiau a gwneud rhywbeth gyda’r tîm, ychydig o ioga dros ginio, mynd am dro gyda’r tîm – roedd Twitter yn llawn o enghreifftiau o dimau amrywiol ar draws y mudiad yn trefnu eu digwyddiadau lles eu hunain ac yn bwrw ati ar liwt eu hunain i gymryd rhan. Ond ni fydd yr ymyriadau yma yn ddigon ar ben eu hunain ac rydym yn gweithio gyda mudiadau megis Mind Cymru i wella sgiliau ein rheolwyr i adnabod a chefnogi’r rhai hynny sydd angen help. Mae yna wasanaethau a gweithdrefnau cynhwysfawr gennym i gefnogi’r rhai hynny sydd yn gorfod delio gyda’r digwyddiadau mwyaf trawmatig ond rydym hefyd yn deall beth yw sgil-effaith cronnol ein gwaith o ddydd i ddydd. Mae hyn yn golygu ffocysu ar les yn ystod eich gyrfa, ac nid yn unig delio gyda’r pethau anodd yn ein gwaith ond hefyd gwneud i’r mudiad deimlo mor deg a chynhwysol ag sydd yn bosib.

Chi yw Cadeirydd Chwaraeon Heddlu’r DU ac rydych yn cael eich adnabod fel rhywun sydd yn hoff iawn o chwaraeon. Pa mor fawr yw’r rôl sydd gan chwaraeon a gweithgareddau corfforol i’w chwarae o ran lles meddwl?

Heb os, mae lles corfforol yn chwarae rhan sylweddol mewn lles meddwl. I’r rhai hynny sydd ag afiechyd meddwl, mae’r cyflwr yn golygu eu bod yn medru fod yn fwy tebygol o farw’n iau. Fel sydd wedi ei ganfod gan fudiadau fel Mind, mae hyn yn golygu bod rhywun sydd â sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol yn medru marw 10 – 17 mlynedd cyn eu cyfoedion. Mae ymchwil academaidd yn amlygu’r rôl sydd i’w chwarae gan chwaraeon wrth ryddhau endorffinau. Mae gennym brofiad o hyn ein hunain wedi i ni gyflwyno targed i gerdded 10,000 o gamau’r diwrnod. Gydag ond 16% o bobl a oedd yn cymryd rhan yn cyflawni hyn ar y dechrau, roedd hyn wedi cynyddu i bron i 68% erbyn diwedd yr her. Roedd dau draean wedi dweud bod hyn wedi lleihau eu lefelau straen yn y cartref a’r gwaith ac roedd hyn wedi arwain at gynnydd o ran cynnyrch a’r gallu i ganolbwyntio ar eu gwaith. Mae’r canlyniadau yn amlwg iawn.

Rwyf am weld Chwaraeon Heddlu’r DU yn chwarae mwy o rôl yn cynyddu lles corfforol a’r cysylltiad rhyngddo ac iechyd meddwl, ond i mi, mae’n bwysig ein bod yn edrych yn ehangach na chwaraeon traddodiadol megis rygbi a phêl-droed. Buaswn wrth fy modd pe bawn yn rhoi pwyslais ar gynwysoldeb gan fod y dystiolaeth yn dangos fod chwaraeon yn cynnig mwy o fanteision na ffurfiau eraill o weithgareddau corfforol, a hynny yn sgil yr elfen gymdeithasol. Mae hynny’n amlwg i’w weld yn y ‘Park Run’ wythnosol ag ydyw i’w weld ar ddechrau ras marathon. Rwyf hefyd am hyrwyddo ffyrdd o fyw gweithgar ac er nad wyf yn llwyddo i wneud hyn fy hun bob tro, rwy’n gwybod ei fod yn helpu. Fel Prif Gwnstabl, nid yw’n hawdd i mi fynd i’r gampfa mor aml ag yr hoffwn ond rwy’n hoffi seiclo i gyfarfodydd os yn bosib yn hytrach na defnyddio’r car i deithio rhai milltiredd yn unig ac mae hyn yn sicr yn fy helpu i deimlo’n well o ran taro rhyw fath o gydbwysedd.

Yn ystod eich gyrfa yn yr heddlu, sut ydych wedi gweld agweddau tuag at iechyd meddwl – a hynny o fewn yr heddlu a thu hwnt ymhlith y cyhoedd – yn newid?

Rwyf wedi gweld newid sylweddol yn y ffordd y mae’r gwasanaeth yn delio ag iechyd meddwl. O fewn y gwasanaeth, mae yna ddealltwriaeth well o sgil-effaith iechyd meddwl a lles swyddogion, ac o gymharu gyda’r gorffennol pan ddywedyd wrth swyddogion i gnoi’u tafod neu fynd yn syth i’r dafarn, rydym yn fwy ymwybodol o’r cymorth hirdymor sydd angen arnynt erbyn hyn. Rydym nawr yn cynnig ymyrraeth gynnar drwy gyfrwng ymarferwyr rheoli trawma ac yn sicrhau bod cwnsela ar gael i’r holl staff ac mae modd eu hatgyfeirio at eraill os oes angen. Tra y byddai afiechyd meddwl wedi atal rhai rhag dilyn gyrfa gyda’r heddlu, rydym nawr yn gweld pobl sydd â chyflyrau megis anhwylder deubegynol ac iselder yn rheoli eu cyflwr yn y gwaith. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod pob dim yn gywir ac mae yna gryn ffordd i fynd, ac wrth i’n gwaith fynd yn fwy cymhleth a beichus, rhaid i ni barhau gyda’r cynnydd hwn.

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu hefyd o fewn y gymdeithas gyfan. Ugain mlynedd yn ôl pan oeddwn yn plismona am y tro cyntaf, rwy’n sicr ein bod wedi delio gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl nad oedd wedi derbyn diagnosis. Roedd y sawl yr oeddwn yn delio gyda hwy wedi eu hynysu mewn sefydliadau. Rydym wedi gwella cryn dipyn erbyn hyn, a hynny i’r pwynt y mae’r Tywysogion William a Harry wedi bod wrthi yn codi llais a’n onest wrth gynrychioli’r rhai hynny sydd yn teimlo fod eu cyflwr wedi eu gadael yn y cysgodion. O ran hynny, mae agweddau wedi datblygu cryn dipyn ond mae’r hyn sydd yn achosi afiechyd meddwl dal o’n cwmpas, gan gynnwys pwysau newydd fel sydd yn deillio o’r cyfryngau cymdeithasol, ac felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i siarad.

Y Concordat Iechyd Meddwl

Beth yw pwysigrwydd Oedolion Priodol i’r system cyfiawnder troseddol a sut y maent yn cefnogi’r heddlu i weithio gyda phobl sydd yn profi afiechyd meddwl?

Mae Oedolion Priodol yn bobl sydd wedi eu hyfforddi ac yn brofiadol mewn iechyd meddwl ac anableddau dysgu ac sydd yn ymgymryd â’r rôl fel person critigol er mwyn darparu cymorth a’u diogelu. Nid ydynt yno i roi cyngor cyfreithiol ond maent yn rhan bwysig o’r system cyfiawnder troseddol ac mae’r rôl wedi ei chydnabod mewn cyfraith o dan y Ddeddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Maent ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac maent yn cymryd lle aelodau teulu, gwasanaethau cymdeithasol neu ofalwyr pan nad ydynt ar gael i ddarparu cymorth, cyngor i unrhyw berson sydd yn y ddalfa ac angen eu gwasanaethau ac i hwyluso’r cyfathrebu rhyngddynt hwy, yr heddlu a/neu’r cynrychiolydd cyfreithiol. Mae’r pwysigrwydd wedi ei amlygu yn y cynnydd o chwarter sydd wedi ei brofi yn y nifer o alwadau rhwng 2015 a 2017. Mae ein darparwr gwasanaeth, Hafal, yn cynnig personél sydd wedi eu hyfforddi i ddeall sut y mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn medru effeithio ar eu rôl o fewn y ddalfa ac mae rôl y staff mewn achosion iechyd meddwl yn allweddol.

Er bod llai o bobl yn cael eu dal yn nalfa’r heddlu, sut y bydd gweithredu’r Concordat Gofal Argyfwng Iechyd Meddwl Cymru yn lleihau’r niferoedd yma ymhellach yn Ne Cymru?

Wedi ei lansio yn 2015, roedd y Concordat yn ffocysu ar lai o bobl yn cael eu dal o adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl a llai yn cael eu dal yn nalfa’r heddlu. Fel heddlu, rydym wedi ymrwymo i ‘dim goddefgarwch’ (‘zero tolerance’) o ran pobl sydd yn cael eu dal o dan adran 136 a’u bod yn cael eu trosglwyddo i le diogel priodol, ac mae hyn wedi arwain at leihad sylweddol yn y nifer sydd yn cael eu dal yn y ddalfa. Drwy ffocysu ar gydraddoldeb, rhwng Iechyd Corfforol ac Afiechyd Meddwl, mae’r Concordat yn amlygu’r angen i drin pobl mewn amgylchedd iechyd priodol heb yr angen am orsafoedd heddlu. Gyda gofyniad cyfreithiol newydd wedi ei gyflwyno yn Rhagfyr 2017 sydd yn golygu bod ond modd i’r heddlu ddal cleifion yn y ddalfa o dan adran 136 pan fydd hyn wedi ei gymeradwyo gan arolygydd neu swyddog uwch ynghyd â phan fod hyn ond yn digwydd er mwyn helpu’r unigolyn i osgoi’r risg brys o anaf difrifol neu farwolaeth iddynt hwy neu rywun arall, mae Heddlu De Cymru ond wedi gweld tri pherson yn cael ei ddal yn y ddalfa o dan adran 136 yn y tri mis diwethaf.

Sut y bydd yr ymgysylltu rhwng Grŵp Prif Swyddogion Heddlu Cymru a’r Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl gyda GIG Cymru yn sicrhau bod y Concordat yn cael ei gefnogi gan gynlluniau gweithredol lleol?

Rydym wedi gweld mai’r ffordd ymlaen yw drwy weithio mewn partneriaeth, sydd yn dylanwadu ar ymarferion gweithio ar lefel strategol, tactegol a gweithredol. Mae hyn yn sicrhau dulliau amlddisgyblaethol tuag at gynnig atebion ar gyfer materion na sy’n disgyn o fewn cylch gorchwyl un mudiad yn unig. Drwy ddatblygu cynlluniau lleol, bydd hyn yn cefnogi amcanion y Concordat. Drwy wneud hyn, byddwn yn gweld cysondeb o ran ymarferion ar draws Cymru fel bod gwasanaethau cydradd ar gael i’r sawl sydd mewn argyfwng ac wedi ei gytuno ar lefel weithredol. Mae arweinyddiaeth yn bwysig er mwyn sicrhau bod hyn yn llwyddo, ac mae ond yn gywir bod hyn yn cael ei arwain drwy weithio mewn partneriaeth ar lefel uwch.

Yn eich barn chi, beth arall y mae mudiadau iechyd meddwl (statudol a gwirfoddol) yn medru gwneud er mwyn helpu’r heddlu sydd yn gorfod cadw pobl yn y ddalfa yn sgil afiechyd meddwl?

Rwyf yn cydnabod fod nifer o fudiadau ar draws Cymru eisoes yn gweithio yn galed gyda’r Heddlu a phartneriaid eraill yn ceisio gwneud yr union beth yma. Mae mudiadau statudol a gwirfoddol yn ceisio darparu’r ffyrdd lleiaf caeth i ofalu am unigolion ag afiechyd meddwl gyda’r nod o’u cadw i ffwrdd o’r ddalfa ac ymyrryd yn gynnar er mwyn osgoi argyfyngau yn y lle cyntaf. Y peth allweddol yw gwneud hyn gyda’n gilydd, yn hytrach nag yn unigol, fel nad yw gwasanaethau allweddol yn cael eu dyblygu a thrwy sicrhau bod y rhai hynny mewn argyfwng yn derbyn y gofal sydd angen arnynt ar yr adeg gywir gan y gwasanaeth cywir. Mae yna ran sylweddol i chwarae o ran adeiladu cymunedau cadarn, yn darparu cymorth a chanllawiau ar gyfer y bobl hynny sydd yn fwyaf agored i niwed ond hefyd yn caniatáu i bobl i fod yn rhan o’r gymdeithas ehangach gyda’r cymorth a’r help priodol, megis drwy weithio a gwneud cyfraniad economaidd a chymdeithasol. Mae’r awgrymiadau o ran practis yn y Concordat yn cynnig datrysiadau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi eu profi mewn mannau eraill yn llwyddiannus, lle y caiff unigolion eu cefnogi.

O ran mudiadau statudol, mae dulliau mynediad agored at wasanaethau iechyd meddwl, megis menter ‘First Access’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf sydd yn caniatáu unrhyw un i gysylltu gyda thimau argyfwng ac iechyd meddwl cymunedol, yn medru cael ei ystyried fel arfer gorau a’i gyflwyno i’r holl fyrddau iechyd lleol. Mae hyn yn cynnig cymorth cymwys ac yn lleihau’r risg o bobl yn dod yn sâl. Mae enghreifftiau eraill yn medru cynnwys mynediad agored at asesiadau gwirfoddol ar gyfer y rhai na sydd yn adnabyddus i’r gwasanaethau.

Ar hyn o bryd, os ydych yn dioddef problem neu anaf corfforol wrth ddod i gysylltiad gyda’r Heddlu, nid yw’n golygu o reidrwydd y byddwch yn cael eich dal yn y ddalfa neu’n mynd i’r ysbyty. Er enghraifft, os ydych wedi camddefnyddio sylweddau neu alcohol ac yn meddu ar anafiadau bychain, mae’r parafeddygon ar y stryd yn helpu, gyda chymorth gwirfoddolwyr yn ein gwasanaethau ‘pwynt helpu’. Ar gyfer iechyd meddwl, nid oes rhyw lawer rhwng yr hyn sydd ar gael ar y stryd ac mewn ysbyty, a hoffem barhau i siarad am yr opsiynau er mwyn darparu noddfa, a hynny cyn bod yn rhaid i bobl gael eu dal yn y ddalfa.

Efallai mai ehangu’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan y trydydd sector, megis Hafal, Mind Cymru a Gofal, yw’r ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol. Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi’r egwyddorion yn y Concordat ac rwy’n teimlo ei bod hi’n hanfodol i ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl a’r grwpiau gofalwyr er mwyn derbyn yr adborth ar y newidiadau yma er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn rhan annatod o’r practis.

Pob ifanc ac iechyd meddwl

Rydych yn aelod o Gyngor Cynghori Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru. A yw hyn wedi llywio eich barn ynglŷn â sut y mae cymdeithas yn medru helpu atal pobl ifanc rhag datblygu afiechyd meddwl?

Mae llawer o’r bobl ifanc sydd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi profi neu’n profi problemau iechyd meddwl. Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn effeithiol iawn wrth helpu pobl sydd yn dioddef ymdeimlad isel o hunanwerth. Pobl ifanc sydd yn meddu ar botensial aruthrol ond nid ydynt yn credu hyn neu heb gael y dechrau gorau mewn bywyd i wireddu’r potensial hyn – maent yn derbyn cryn dipyn o gymorth ac mae tri chwarter o’r rhai sydd yn mynd drwy’r rhaglen yn mynd ymlaen i dderbyn hyfforddiant pellach neu’n cael swyddi. Nid yw’r ymdeimlad o hunanwerth a sgiliau ymdopi sydd yn cael eu datblygu fel rhan o’r rhaglen yn rhywbeth amgen i ddelio gydag iechyd meddwl yn uniongyrchol ond mae’n yn medru chwarae rhan sylweddol. Mae fy ngwaith gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog a’r hyn yr wyf wedi gweld yn fy ngyrfa yn fy atgoffa nad yw dechrau anodd mewn bywyd yn pennu’r dyfodol, er ei fod yn medru ei lywio. Dylem wneud pob dim posib er mwyn sicrhau bod gobaith a balchder yn cael eu hymwreiddio ymhlith pobl ifanc.

Mae’n ffaith adnabyddus fod pobl sydd yn profi trais, esgeulustod a phrofiadau anodd eraill yn ystod eu plentyndod mewn mwy o risg o ddatblygu afiechyd meddwl yn hwyrach mewn bywyd. Rydych wedi chwarae rôl amlwg gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mynd i’r afael gyda Phrofiadau Plentyndod Adweithiol. Pa fesurau ydych yn credu sydd yn medru helpu atal pobl ifanc rhag mynd yn sâl?

Nid oes un ymyrraeth unigol yn mynd i helpu, ac yn fwy na dim, rhaid i ni fabwysiadu dulliau sydd yn canoli ar y plentyn – gwrando ac ymateb i blant a phobl ifanc. Mae’r dystiolaeth o ran Profiadau Plentyndod Adweithiol (PPA) yn rhoi cyfle i ni wneud hynny drwy: yn hytrach na gofyn ‘Beth sydd yn bod arnoch?’, mae’n ein hannog ni ofyn ‘Beth sydd wedi digwydd i chi?’. O’r pwynt hwnnw, mae angen i’r gwasanaethau i ymateb i’r hyn y maent yn dysgu, yn gweithio gyda’i gilydd. Er bod plismona yn medru helpu, rydym wedi canfod fod ymyrraeth gynnar ac ysgolion yn chwarae rhan sydd gyn bwysiced, yn union fel y mae gwasanaethau megis y GIG wrth gwrs. Mae’r holl wasanaethau yma yn ymddangos o dan bwysau go iawn, ond yr un peth sydd yn amlwg o waith PPA yw gwerth yr ‘oedolyn sydd wastad ar gael’ – bach o lond ceg ond rhywun sydd yno i chi siarad gyda hwy. Mae’r unigolyn hwn yn medru bod yn ddad-cu/mam-gu neu’n ofalwr maeth, swyddog cymorth heddlu cymunedol neu’n athro. Rhywun sydd yn rhan o fywyd y plentyn ac yn meddu ar y potensial i leihau’r angen am y gwasanaethau drud iawn hynny yn hwyrach mewn bywyd a’r holl niwed fydd wedi ei achosi yn y cyfamser.