Mae gŵyl “Hardships of Being Human”, sy’n ymdrin ag iechyd meddwl yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe ar y 24ain Ebrill o 9:30am-8pm.
Bydd y diwrnod yn gwyntyllu materion iechyd meddwl drwy gyfuno anerchiadau byw, gweithdai, ffilmiau, celf a barddoniaeth. Y nod yw rhoi ‘amser a thosturi i galedi dynol’, codi ymwybyddiaeth, hyrwyddo lles a herio stigma.
Mae’r ŵyl ar agor i bawb ac mae croeso i fyfyrwyr, pobl sydd â phrofiad o drallod meddwl, ymarferwyr, arlunwyr, tiwtoriaid, clinigwyr a gweithwyr rhengflaen.
Bydd y siaradwyr i’w gweld ar lwyfan Taliesin o 10.30am. Bydd y canlynol ar y llwyfan:-
• Jonny Benjamin MBE
• The Women’s Survivor
• Support Project (WSSP)
• The Making of ‘Stolen Voices’
• Heads Above The Waves
• Hannah Hull
• Sarah McCreadie
• Beryl the Feral
Yn ystod y diwrnod, bydd unigolion yn medru mynychu digwyddiadau o gwmpas Prifysgol Abertawe gan gynnwys prosiect celfyddydau a gweithgareddau byw gan fyfyrwyr ac Undeb Myfyrwyr y Prifysgol. Byddant yn medru ymweld â ’marchnad’ yn ystod y dydd yn Café West y Brifysgol lle y byddant yn medru cael mwy o wybodaeth a nwyddau o gyrff iechyd meddwl a chymdeithasau’r brifysgol.
Mae cinio bwffe ‘iechyd meddwl’ at gael ar gyfer y sawl sydd yn mynychu.
Gyda’r nos, bydd bar undeb myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cynnal cystadleuaeth farddoni agored a fydd yn cynnwys beirdd dylanwadol. Bydd detholiad o mocktails ar gael ar y noson er mwyn ein hysbrydoli ni gyd i ganfod diodydd amgen pan yn cymdeithasu.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan y Gwasanaeth Lles ym Mhrifysgol Abertawe.
Er mwyn cadw lle, ewch i: www.fatsoma.com/campus-life/depof6qc/hardships-of-being-human-a-festival-of-mental-he