Cwmnïau yn methu’r bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn ôl Cyngor ar Bopeth

Mae ymchwil gan Gyngor ar Bopeth yn datgelu fod cymorth cyfyngedig ac anghyson yn cael eu rhoi i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Cyhoeddwyd mai’r sector ynni a thelegyfathrebu yw’r sectorau gwaethaf am wasanaethau i gwsmeriaid a chymorth ychwanegol, tra mai cwmnïau dŵr yw’r mwyaf ffafriol.

Mae’r nifer o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn gofyn am gyngor gan Gyngor ar Bopeth ar faterion yn ymwneud â chyfleustodau a chyfathrebu wedi cynyddu’n aruthrol, a hynny ddwywaith ynghynt nag arfer.

Roedd Cyngor ar Bopeth wedi canfod:

  • Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl 4 gwaith yn fwy tebygol o fynd heb bethau hanfodol, megis bwyd, talu am linell ffôn, bandeang neu bil ffôn mudol.
  • Mae llinell ffôn, bandeang neu wasanaeth ffôn mudol 13% o’r rhai hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi eu datgysylltu unwaith yn fwy yn sgil diffyg taliad.
  • Mae’r achosion o bobl sydd yn derbyn addewid o gymorth ychwanegol – ond eto’n derbyn dim – gyda darllen mesuryddion gan eu darparwyr ynni.

Mae Cyngor ar Bopeth yn galw am isafswm o ran y safonau sydd i’w gosod ar gyfer cymorth iechyd meddwl y dylid ei gynnig gan yr holl ddarparwyr gwasanaeth hanfodol. Roedd y llywodraeth wedi cyhoeddi ei bapur gwyrdd yn ddiweddar, “Modernising consumer markets” ac roedd yn galw am gyflwyno safonau.

Dywed Cyngor ar Bopeth y dylai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ddisgwyl:

  • Mynediad at gymorth cwsmer hyfforddedig, arbenigol.
  • Cael eu blaenoriaethu o ran cywiro cyfarpar diffygiol neu sydd wedi torri.
  • Ni ddylai cwmnïau eu datgysylltu’n gynamserol yn sgil diffyg taliad.
  • Dylai’r cwmni ddelio ag unrhyw ôl-ddyledion neu ddyledion, yn hytrach na’u gwerthu i gwmni arall, mynd â’r unigolyn i’r llys neu ddelio gyda thrydydd parti. Mae Cyngor ar Bopeth yn galw am gwmnïau ar draws marchnadoedd gwahanol i ddatblygu ffyrdd o gofnodi gwybodaeth am anghenion cwsmeriaid bregus er mwyn medru darparu cymorth gwell.

Dywedodd Gillian Guy, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth:

“Os ydych yn dioddef problem iechyd meddwl, mae delio gyda phryderon bob dydd megis eich bil ynni neu bandeang yn medru bod yn hynod anodd.

“Mae cwmnïau angen helpu eu cwsmeriaid gyda phroblemau iechyd meddwl, yn hytrach nag ychwanegu at eu trafferthion.
“Roeddem wedi canfod fod y cymorth i reoli gwasanaethau hanfodol naill ai ddim yn bodoli, yn anodd ei ganfod neu ddim yn ddigon da, yn amrywio’n sylweddol rhwng sectorau a chwmnïau. Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn haeddu’r un lefel o ofal ychwanegol ag unrhyw grŵp arall sydd awn agored i niwed, megis y rhai sydd yn gorfforol anabl neu’n hen.

“Byddai safonau cryfach yn sicrhau eu bod yn medru cael mynediad at wasanaeth cwsmeriaid mwy tosturiol tra hefyd yn gwarantu nad yw eu ffôn mudol neu ynni yn cael eu datgysylltu’n sydyn yn sgil colli un taliad.”

Mae’r cymorth ychwanegol sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Cofrestr Gwasanaethau Sy’n Flaenoriaeth: cymorth gan gyflenwyr ynni a’r gweithredwyr rhwydwaith i bobl sydd mewn oedran pensiwn, yn anabl, yn ddifrifol sâl neu’n meddu ar gyflwr iechyd hirdymor (gan gynnwys problemau iechyd meddwl).
  • Gostyngiad Cartref Twyn: £140 oddi ar filiau ynni i bobl sydd yn derbyn Credyd Gwarant Credyd Pensiwn, rhai pobl sydd ar fudd-daliadau prawf modd. Ni fydd pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gymwys oni bai eu bod yn cwrdd â’r meini prawf eraill.
  • Watersure: Yn gosod uchafswm ar filiau dŵr i bobl ar fudd-daliadau penodol, ac maent naill ai yn gyfrifol am blant mewn addysg llawn amser neu’n meddu ar gyflwr meddygol (gan gynnwys cyflwr iechyd meddw) sydd yn golygu bod angen defnyddio mwy o ddŵr.
  • Cymorth Arbenigol Ofwat: gwasanaeth cwsmer ychwanegol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.