Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Mae Iechyd Meddwl Ymhlith Mamau yn Bwysig yn y DU cychwyn heddiw ac yn cael ei chynnal tan 6ed Mai.
Yn cael ei chynnal gan y Perinatal Mental Health Partnership (PMHP), mae hon yn ymgyrch dros wythnos er mwyn trafod iechyd meddwl tra’n feichiog neu ar ôl rhoi genedigaeth i blentyn. Y llynnoedd, cynhaliwyd Wythnos Ymwybyddiaeth Mae Iechyd Meddwl Ymhlith Mamau yn Bwysig yn y DU am y tro cyntaf erioed ac roedd yn llwyddiant ysgubol gyda sylw yn y wasg ar hyd a lled y DU.
Sefydlwyd yr Wythnos Ymwybyddiaeth Mae Iechyd Meddwl Ymhlith Mamau yn Bwysig yn y DU gan grŵp bach o 10 unigolyn, sydd yn cynnwys menywod sydd â phrofiad o’r fath broblemau, gweithwyr elusen a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a oedd wedi dod ynghyd gyda’r nod o greu ymgyrch i hyrwyddo iechyd meddwl ymhlith mamau.
Eleni, y thema yw ’Cymorth i Bawb’ a bydd yn ffocysu ar eiriolaeth i’r holl deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan Afiechyd Meddwl Amenedigol a’u helpu hwy i gael mynediad ar wybodaeth a’r help sydd angen arnynt er mwyn gwella.
Beth sydd yn cael ei gynnal?
Dydd Llun 30ain Ebrill – Ffocws diwrnod cyntaf yr ymgyrch fydd ‘Beth yw Iechyd Meddwl Amenedigol’? Bydd yna drosolwg o’r elfennau gwahanol o afiechyd meddwl amenedigol a bydd PMHP yn cynnal sesiynau rhyngweithiol byw ar Facebook sydd yn ymwneud gyda’r salwch fel bod unigolion yn medru cymryd rhan a gofyn cwestiynau.
Dydd Mawrth 1af Mai – Yn dilyn llwyddiant y llynedd, byddant eto yn ffocysu ar ‘Cymorth gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol’. Bydd yna sesiynau rhyngweithiol byw ar Facebook ar fwydo o’r fron a gwrthiselyddion gyda’r fferyllydd Wendy Jones, a rhannu gwybodaeth ar sut i gael trafodaeth gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am symptomau.
Dydd Mercher 2ail Mai – Dyma Ddiwrnod iechyd Meddwl y Byd i Famau ac mae’r Bartneriaeth wedi bod yn gweithio gyda Postpartum Support International a mudiadau aelod eraill er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd.
Dydd Iau 3ydd Mai – Er bod yr wythnos yn ffocysu ar iechyd meddwl ymhlith mamau, mae iechyd meddwl ymhlith rhieni yn dechrau yn cael ei gydnabod fwyfwy, ac felly, bydd y diwrnod hwn ar gyfer y ‘Tadau’ gan gynnwys sesiwn Facebook yn fyw gyda Dads in Mind.
Dydd Gwener 4ydd Mai – Fel diweddglo ar yr wythnos, bydd y ffocws ar adferiad. Bydd PMHP yn creu ‘Pot Positifrwydd’ rhithwir, yn cyhoeddi ac yn rhannu erthyglau am adferiad. Byddant hefyd yn annog vlogs byr gan famau a thadau sydd yn dangos fod adferiad yn bosib.
Drwy gydol yr wythnos, bydd PMHP yn defnyddio ac yn annog y defnydd o’r hashnod #maternalmhmatters ar y cyfryngau cymdeithasol.
Manylion cyswllt
Mudiad Sy’n Arwain: The Perinatal Mental Health Partnership
Twitter: @PMHPuk
Facebook: https://.facebook.com/PerinatalMHPartnershipUK/
E-bost: perinatalmhpartnership@gmail.com