A ydych chi yn oedolyn ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASA) sydd wedi dod i gysylltiad gyda’r heddlu/ system cyfiawnder troseddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf? Neu a ydych yn rhiant neu’n ofalwr am berson sydd ag ASA ac sydd wedi dod i gysylltiad gyda’r heddlu/ system cyfiawnder troseddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf?
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, yna mae Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe angen eich help. Maent yn cynnal arolwg sydd yn rhan o astudiaeth ymchwil ac yn ystyried yr heriau a ddaw i’r amlwg pan fydd unigolion ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig yn dod i gysylltiad gyda’r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r astudiaeth yn ceisio canfod ffyrdd o wella’r System Cyfiawnder Troseddol fel bod modd diallu anghenion pobl ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig.
Bydd yr holiadur yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau a bydd yr holl wybodaeth o’r astudiaeth hon yn gwbl anhysbys. Bydd yr holl holiaduron sydd wedi eu llenwi yn cael eu gosod mewn raffl a bydd dau unigolyn sydd wedi cymryd rhan yn medru ennill taleb Amazon gwerth £25.
Er mwyn cymryd rhan, dilynwch un o’r dolenni isod os gwelwch yn dda:
Link one: Holiadur ar gyfer Awtistiaeth a’r System Cyfiawnder Troseddol https://www.surveymonkey.co.uk/r/R8NN9YR
Link two: Holiadur ar gyfer y Rhiant Awtistiaeth a Gofalwyr Oedolion Awtistig
https://www.surveymonkey.co.uk/r/RL35ZN7
Am fwy o wybodaeth am yr astudiaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Julie King ar e-bost: 405608@swansea.ac.uk