Arolwg cenedlaethol yn amlygu rhai gwelliannau ym mhrofiadau pobl o’r ysbyty ond hefyd yn amlygu pryderon

Roedd y mwyafrif o bobl sydd wedi aros fel claf mewnol yn yr ysbyty yn Lloegr yn hapus gyda’r gofal a dderbyniwyd, yn hyderus yn y meddygon a’r nyrsys a oedd yn eu trin ac wedi cael profiad  cyffredinol gwell yn ôl arolwg gan y Comisiwn Ansawdd Gofal..

Fodd bynnag, roedd y sawl a ymatebodd yn llai positif am y trefniadau a’r wybodaeth a dderbyniwyd wrth adael yr ysbyty, ac roedd y rhai hynny â chyflwr iechyd meddwl wedi cael profiad gwaeth na’r arfer ar draws y rhan fwyaf o feysydd a holwyd yn eu cylch, gan ailadrodd tuedd a oedd i’w gweld mewn arolygon blaenorol.

Roedd canlyniadau arolwg cleifion mewnol 2017, yn cynnwys pob ymddiriedolaeth aciwt GIG yn Lloegr, wedi datgelu’r hyn y mae mwy na 70,000 o oedolion sydd wedi aros yn yr ysbyty am o leiaf noson yn ystod Gorffennaf y llynedd, yn meddwl am y gofal y gwnaethant ei dderbyn.

Roedd yr arolwg wedi gofyn i bobl fynegi eu barn am y gofal yr oeddynt wedi derbyn, gan gynnwys ansawdd y wybodaeth a chyfathrebu gyda  staff, p’un ai eu bod wedi derbyn digon o breifatrwydd, y gefnogaeth a roddwyd i’w helpu i fwyta ac yfed a’r cymorth gyda’u hylendid personol, ac o ran y trefniadau  i’w rhyddhau.

Mae’r ymatebion i arolwg 2017 yn dangos nifer o welliannau  dros amser, yn enwedig o ran y ffordd yr oedd cleifion yn rhyngweithio gyda staff yr ysbyty.  Yn 2017, roedd y mwyafrif yn credu (82%) eu bod yn cael eu trin â pharch ac urddas ‘bob tro’ (o’i gymharu â 78% yn 2009) ac roedd mwy o bobl wedi dweud bod hyder ganddynt ‘bob tro’ yn y nyrsys a oedd yn eu trin (78% yn 2017 o’i gymharu â 77% yn 2016 a 72% yn 2009).

Fodd bynnag, roedd cleifion iau (rhwng 16 a 35), y rhai hynny â dementia neu afiechyd Alzheimer a’r rhai hynny sydd â chyflwr iechyd meddwl, wedi sôn bod llai o hyder ac ymddiriedaeth ganddynt yn y staff a oedd yn gofalu amdanynt.

Roedd mwy na dau draean o’r rhai a holwyd (69%) yn teimlo fod nyrsys ‘yn sicr’ wedi ateb cwestiynau posib mewn modd yr oeddynt yn eu deall, cynnydd o 68% yn 2016 (64% yn 2009), ac o’r rhai hynny a oedd wedi cael llawdriniaeth tra yn yr ysbyty, dywedodd 62% eu bod wedi cael gwybod ‘yn llawn’ am yr hyn i’w ddisgwyl ar ôl y driniaeth, o’i gymharu â 58% yn 2016 (55% yn 2009).

Er bod hanner o’r sawl a ymatebodd wedi dweud bod eu profiadau cyffredinol tra yn yr ysbyty yn naw neu fwy allan o ddeg, cynnydd  o 2% ers 2016, roedd adborth o ran trefniadau rhyddhau o’r ysbyty a’r wybodaeth am y gofal i’w dderbyn ar ôl gadael yr ysbyty ymhlith yr agweddau mwyaf gwan o brofiad y claf.

Roedd llai na dau draean (62%) o gleifion wedi gadael yr ysbyty â gwybodaeth ysgrifenedig yn dweud wrthynt sut i ofalu am eu hunain ar ôl gadael yr ysbyty, sef gostyngiad o  5% ers 2009, ac nid oedd 43% o gleifion a oedd wedi derbyn meddyginiaeth i fynd adref wedi cael gwybod am y sgil-effeithiau posib (44% yn 2016).

Tra oedd 54% yn teimlo eu bod ‘yn sicr’ wedi bod yn rhan o’r penderfyniadau ynghylch eu rhyddhau o’r ysbyty, mae hyn yn golygu nad oedd 46% yn teimlo eu bod wedi chwarae rhan ‘lawn’.  At hyn, roedd 41% o’r rai hynny a oedd wedi ymateb bod y broses o’u rhyddhau o’r ysbyty wedi ei oedi, sef yr un ffigwr â’r llynedd. Roedd tua un ym mhob o bob pedwar  (24%) o’r bobl yma wedi eu hoedi am fwy na phedair awr ac roedd y mwyafrif o’r oedi o ganlyniad i gleifion yn aros am eu meddyginiaeth (72%).

Roedd y nifer a oedd wedi sôn am yr adborth positif a brofwyd ynghylch y cymorth emosiynol a dderbyniwyd tra yn yr ysbyty heb newid o’r blynyddoedd cynt, gyda  bron i ddeugain y cant (38%) o’r bobl a holwyd yn dweud eu bod ‘yn sicr’ wedi cael y cyfle i siarad gyda rhywun am eu pryderon yn ystod eu hamser yn yr ysbyty. Fodd bynnag, roedd mwy na chwarter  (27%) wedi dweud nad oedd neb ganddynt, cynnydd o 2% ers 2016. Yn benodol, roedd y cleifion iau, (rhwng 16 a 35) yn dweud eu bod yn teimlo nad oeddynt wedi derbyn cymaint o gymorth emosiynol, a hynny o’i gymharu gyda grwpiau oedran eraill.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd ymatebion yn llai positif ar draws y rhan fwyaf o feysydd i gleifion sydd â chyflwr iechyd meddwl. Dywedodd y rhai hynny â chyflyrau iechyd meddwl fod llai o hyder ac ymddiriedaeth ganddynt  yn  staff yr ysbyty, gan deimlo eu bod wedi eu trin â llai o barch ac urddas ac yn teimlo nad oedd ganddynt gymaint o wybodaeth am eu gofal. Roedd y cleifion yma wedi rhoi sgoriau llai na’r cyfartaledd ynglŷn ag a oedd eu hanghenion, gwerthoedd a’u dymuniadau wedi eu hystyried yn llawn ac o ran ansawdd y cydlynu ac integreiddio eu gofal. Mae hyn yn ail-adrodd tuedd a ganfuwyd yng nghanlyniadau arolygon y Comisiwn Ansawdd Gofal 2017 o blant a phobl ifanc a chleifion yn defnyddio’r Uned Damweiniau Brys.

Yn ogystal ag adroddiad o’r canfyddiadau cenedlaethol, mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal wedi cyhoeddi canlyniadau ar gyfer pob un o’r  148 ymddiriedolaeth unigol ac adroddiad yn nodi’r ymddiriedolaethau hynny sydd wedi perfformio yn well neu’n waeth ar draws yr arolwg cyffredinol fel bod yn medru gweld sut y mae eu gwasanaethau lleol yn perfformio.

Dywedodd yr Athro Ted Baker, Prif Arolygydd yr Ysbytai: “Mae’n galonogol fod y canlyniadau yn dangos fod rhai meysydd wedi gwella, gyda phrofiadau o’r wybodaeth sydd yn cael ei darparu, ansawdd y cyfathrebu a lefel yr hyder yn y meddygon a’r nyrsys oll yn perfformio yn well na blynyddoedd cynt.  Mae’r adborth positif o ran rhyngweithio gyda staff yn deyrnged i ymdrechion y gweithwyr iechyd proffesiynol  sydd yn gweithio mor ddiflino er mwyn darparu gofal safon uchel i’r rhai sydd ei angen.

“Fodd bynnag, mae dal lle i wella, yn enwedig o ran sut i gynnwys cleifion a rhoi gwybod iddynt am drefniadau i’w rhyddhau o’r ysbyty a’r lefel o gymorth  emosiynol a gynigiwyd i gleifion yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty.

“Mae canlyniadau’r arolwg eleni  yn dangos anghysondeb parhaus rhwng profiadau pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl a’r rhai hynny sydd heb gyflwr iechyd meddwl. Rhaid i ysbytai fynd i’r afael gyda hyn er mwyn sicrhau bod pobl sydd â chyflyrau corfforol ac iechyd meddwl yn cael eu trin yn gydradd mewn sefydliadau aciwt.

“Hoffwn weld ymddiriedolaethau’r GIG yn ystyried ar ganlyniadau eu harolygon unigol er mwyn deall yr hyn y mae cleifion yn ei feddwl am y gofal a’r driniaeth y maent yn darparu. Bydd hyn yn dweud wrthynt beth sydd angen arnynt er mwyn wneud i yrru gwelliannau pellach yn ansawdd y gofal sydd yn cael ei roi i bawb.”