Un ym mhob tri o athrawon yn ofni y bydd disgyblion sydd yn aros am driniaeth iechyd meddwl yn cael eu niweidio

Mae ffigyrau newydd yn awgrymu bod  mwy nag un ym mhob tri o athrawon yn ofni y bydd disgyblion sydd yn aros am driniaeth iechyd meddwl yn cael eu niweidio.

Roedd arolwg o fwy na 300 o athrawon gan yr elusen iechyd meddwl i bobl ifanc yn eu harddegau,  stem4, wedi datgelu fod mwy na phedwar o bob pump (78%) o athrawon yn dweud fod o leiaf un o’u disgyblion wedi profi problem iechyd meddwl dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r canlyniadau yn awgrymu fod tua 3.3 o ddisgyblion ym mhob dosbarth ar gyfartaledd wedi profi problemau iechyd meddwl yn ddiweddar.

Dywedodd un ym mhob saith athro (14%) fod o leiaf un o’u disgyblion wedi profi teimladau ac ymddygiad sy’n ymwneud â lladd eu hunain dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd dau draean (66%) wedi dweud bod disgybl wedi profi gorbryder tra bod bron i hanner (45%) wedi gweld disgybl gydag iselder.  Roedd problemau cyffredin eraill yn cynnwys anhwylderau bwyta (30%), hunan-niweidio (28%) a chaethiwed (10%).

Er hynny, dywedodd yr athrawon bod llai na hanner (46%) o’r myfyrwyr yn medru cael mynediad at y gwasanaethau iechyd sydd angen arnynt er mwyn gwneud adferiad, gydag un ym mhob pump (19%) yn dweud bod y myfyrwyr hynny yn derbyn y driniaeth sydd angen arnynt. Mae un ym mhob pump (22%) yn dweud bod disgyblion sydd angen triniaeth arbenigol yn aml yn gorfod aros pum mis ar gyfer apwyntiad  ac roedd mwy na thraean (36%) yn poeni y byddai disgybl ar ryw bwynt yn profi niwed tra’n aros am driniaeth.

Roedd bron i  un ym mhob deg (9%) wedi disgrifio’r ddarpariaeth iechyd meddwl yn yr ysgol  fel ‘rhywbeth nad oedd yn bodoli’, gyda mwy  na 30% yn dweud ei fod yn annigonol neu’n hollol annigonol. Roedd pedwar ym mhob deg o athrawon ysgolion gwladol (40%) yn dweud fod yr angen am wasanaethau iechyd meddwl   wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd mwy na hanner (52%) o’r sawl a ymatebodd yn credu fod trafferthion teuluol wedi cyfrannu at broblemau myfyrwyr tra bod eraill yn credu fod problemau cyffredin  eraill yn cynnwys straen yn sgil arholiadau a’r sgil-effaith o fwlio, gyda 41% yn  crybwyll hyn.

Bydd y canfyddiadau yn cael eu trafod yng nghynhadledd  stem4 sydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yn Academi Ark Putney ar ddydd Iau, Mehefin 28ain 2018. Dywedodd Dr Nihara Krause, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Phrif Weithredwr stem4: “Mae ysgolion yn wynebu heriau sylweddol yn delio gyda phroblemau iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr ac mae athrawon ar y rheng flaen.  Maent wedi gweld dros hwy eu hunain y sgil-effaith difäol a ddaw yn sgil pwysau megis gorbryder arholiadau a bwlio a phroblemau teuluol. Mae canlyniadau’r fath broblemau yn ddifrifol, yn aml yn bygwth bywydau ac mae’r athrawon wir yn helpu.  Eto, pan mae’r galw am wasanaethau ataliol, ymyrraeth gynnar ac arbenigol yn cynyddu, mae ysgolion yn ei chanfod  hi’n anodd darparu’r help sydd angen ar y disgyblion. Mae yna angen brys ar gyfer mecanweithiau cymorth gwell mewn ysgolion ynghyd â chyllid ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl pan fydd pobl ifanc eu hangen. Dim ond wedyn y mae modd i athrawon  fod yn hyderus fod iechyd meddwl myfyrwyr yn derbyn y gofal priodol, gan eu rhyddhau i ddarparu’r mewnbwn addysgol a’r cymorth sydd angen.”

Mae’r arolwg, sydd yn cynnwys ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach yn y sectorau gwladol ac annibynnol ar draws y DU, yn cynnig darlun o ddarpariaeth iechyd meddwl anghyson neu annigonol. Roedd mwy na chwarter (26%) o athrawon yn dweud nad oedd gan eu hysgolion unrhyw gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.

Roedd ychydig mwy na thraean (35%) wedi dweud bod eu hysgolion yn cynnig cwnsela un-i-un, a dim ond tri ym mhob deg (30%) sydd yn dweud bod myfyrwyr yn cael cyfle i ddysgu am faterion iechyd meddwl  mewn gwersi ABGI. Dim ond  30% o athrawon sydd yn dweud eu bod wedi derbyn hyfforddiant digonol er mwyn medru delio gyda materion iechyd meddwl tra bod  27% yn dweud nad ydynt wedi derbyn unrhyw hyfforddiant o gwbl.

Mae cynigion cyfredol y Llywodraeth i wella’r ddarpariaeth iechyd meddwl i bobl ifanc yn cynnwys cyllid ar gyfer uwch arweinydd iechyd meddwl ym mhob ysgol. Mae arolwg stem4 yn dangos mai ond 36% o ysgolion sydd ar hyn o bryd yn meddu ar athro/athrawes sydd yn arwain o ran iechyd meddwl.

Ychwanegodd Dr Nihara Krause: “Tra bod y Llywodraeth wedi cynnig mesurau i fynd i’r afael gyda’r broblem iechyd meddwl gynyddol  ymhlith plant a phobl ifanc, bydd y mentrau yma ond ar gael  i 20% o ysgolion erbyn 2023, gyda’r nod o gyflwyno arweinydd iechyd meddwl dynodedig ar gyfer pob ysgol i’w gwblhau erbyn  2025. Mae hyn yn hynod annigonol o ran diwallu’r anghenion cyfredol.”

Er y galw cynyddol am ystod o wasanaethau arbenigol,  roedd llai na chwarter (23%) o athrawon yn disgwyl i gyllideb  iechyd meddwl yr ysgol i gynyddu  ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae mwy nag un ym mhob chwech (17%) yn credu y bydd yn lleihau.

Gydag ond un ym mhob pump (20%) o athrawon yn dweud bod eu hysgolion yn derbyn cyllid iechyd meddwl ychwanegol  gan yr Adran Addysg, mae athrawon yn troi at ffynonellau eraill er mwyn talu am wasanaethau.  Mae pedwar cant ar ddeg o athrawon yn dweud bod eu hysgolion yn defnyddio arian o’r gyllideb prydau ysgol am ddim. Mae  17% yn defnyddio cyllid premiwm disgybl,  36% yn arallgyfeirio cyllid o’r gyllideb addysg gyfredol a  7% wedi cynnal gweithgareddau codi arian megis chwilio am roddion gan rieni.

Bydd yr ymchwil yn cael ei drafod yng nghynhadledd stem4 ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg yn Academi Ark Putney ar Fehefin 28ain 2018. Bydd yn gwyntyllu cynigion cyfredol y llywodraeth ac yn rhannu arferion da ar fentrau iechyd meddwl mewn ysgolion.