Wythnos Gofalwyr yn amlygu’r straen corfforol a meddyliol a deimlir gan ofalwyr di-dâl

Mae’r straen corfforol a meddyliol ynghlwm wrth ofalu  yn “niweidio” gofalwyr di-dâl yn y dyfodol, yn ôl rhybudd gan elusennau cenedlaethol.

Mae diffyg cwsg, cwblhau tasgau gofalu a’r effaith ar eu sefyllfa ariannol yn cael eu henwi fel y prif bethau sydd yn achosi straen ymhlith gofalwyr di-dâl.

Mae wyth elusen genedlaethol wedi dod ynghyd i alw am gymorth brys i ofalwyr di-dâl i fod yn Iachus a’n Gysylltiedig gan fod ymchwil newydd sydd wedi ei gyhoeddi ar ddechrau Wythnos Gofalwyr yn datgelu’r sgil-effaith y mae gofalu yn medru ei gael ar iechyd a lles gofalwyr.

Yn cael ei gyhoeddi fel rhan o Wythnos Gofalwyr, 11eg – 17eg Mehefin, mae’r ymchwil yn datgelu:

Mae bron i dri chwarter (72%) o ofalwyr yn y DU yn dweud eu bod wedi dioddef afiechyd meddwl o ganlyniad  i ofalu, tra bod mwy na hanner  (61%) yn dweud bod eu hiechyd corfforol wedi gwaethygu.

Oni bai bod mwy o gymorth yn cael ei ddarparu, mae elusennau yn rhybuddio na fydd gofalwyr y DU yn ddigon iachus i ofalu am eu hanwyliaid yn y dyfodol.

Mae gofalwyr yn pryderi ynglŷn ag ymdopi yn y dyfodol

Mae’r ymchwil yn dangos:

  • Mae mwy na hanner o ofalwyr yn y DU yn dweud eu bod yn disgwyl y bydd eu hiechyd corfforol (58%) a meddyliol (57%) a lles yn gwaethygu yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Mae dau ym mhob tri (43%) o ofalwyr yn dweud eu bod yn disgwyl y byddant yn medru darparu llai o ofal, neu’n methu darparu unrhyw ofal, yn y dyfodol yn sgil afiechyd corfforol. Roedd traean o ofalwyr (35%) yn teimlo fod afiechyd meddwl yn golygu na fyddant yn medru darparu cymaint ofal yn y dyfodol neu o bosib yn methu darparu unrhyw ofal o gwbl.
  • Roedd pobl hŷn, yn enwedig y rhai hynny dros 75 mlwydd oed, yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn disgwyl darparu llai o ofal, neu’n methu darparu unrhyw ofal o gwbl, yn y dyfodol yn sgil afiechyd corfforol (54% o’r rhai sydd yn hŷn na 65 a 59% o’r rhai sydd yn hŷn na 75).

Prif achosion o straen

Roedd gofalwyr yn fwyaf tebygol o ddweud mai effaith straen a gorbryder ar eu hiechyd oedd eu prif bryder am sgil-effaith gofalu ar eu hiechyd a’u lles.

Dywedodd gofalwyr mai’r hyn oedd yn cyfrannu fwyaf at eu straen a’u gorbryder oedd diffyg cwsg, rhoi cymorth ymarferol i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt ac ymdopi’n ariannol.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Prif Weithredwr Gofalwyr DU (Carers UK) ar ran Wythnos Gofalwyr:

“Mae’r ymchwil newydd hwn yn ein hatgoffa na ddylid cymryd yn ganiataol y cyfraniad enfawr sydd yn cael ei wneud gan y 6.5 miliwn o ofalwyr di-dâl yn y DU. Heb y gofal di-dâl sydd yn cael ei ddarparu bob blwyddyn gan deulu a ffrindiau, byddai ein gwasanaethau iechyd a gofal yn disgyn i ddarnau. Eto, mae’r straen corfforol a meddyliol o ofalu, heb gymorth digonol, yn niweidio gallu gofalwyr i ofalu yn y dyfodol. 

“Mae gofalu am anwylyd yn golygu’n rhy aml o lawer fod gofalwyr hefyd yn esgeuluso eu hiechyd meddyliol a chorfforol; mae canfod yr amser a’r gofod i fod yn iachus, mwynhau digon o gwsg a chynnal perthynas ag eraill, oll yn heriau sylweddol sydd wedi eu rhestru gan ofalwyr. Mae cael eich gadael heb fedru paratoi i ymgymryd â thasgau gofalu a delio gyda system iechyd, budd-daliadau a gofal cymhleth, oll yn gosod hyd yn oed mwy o straen ar ofalwyr.   

“Rydym oll yn medru gweithredu mewn ffordd sydd yn sicrhau bod gofalwyr yn gwybod am yr help a chymorth mor gynnar ag sydd yn bosib wrth iddynt ddechrau gofalu.

“Mae yna rôl allweddol i’r Llywodraeth yma hefyd. Mae’r Papur Gwyrdd, sydd i’w gyhoeddi cyn hir, ar ariannu gofal cymdeithasol yn cynnig cyfle perffaith i’r Llywodraeth i sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer gofal cymdeithasol a gwella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr.”

Eleni, mae elusennau’r Wythnos Gofalwyr yn galw ar gymunedau, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cyflogwyr a’r cyhoedd i gefnogi gofalwyr i gysylltu gyda gwasanaethau a chymorth iechyd a lles.  Mae’r dathliad, dros wythnos o hyd, yn dathlu’r cyfraniad sylweddol a wneir gan ofalwyr di-dâl i’n cymunedau tra hefyd yn gyfnod lle y mae cannoedd o  ddigwyddiadau lleol yn cael eu cynnal ar draws y DU er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r hyn a wneir gan ofalwyr.