Bydd pobl sydd ag anableddau cudd, gan gynnwys awtistiaeth a chyflyrau iechyd meddwl, yn cael y cyfle cyn hir i gael Bathodynnau Glas, gan ddileu’r rhwystrau y mae llawer yn wynebu wrth geisio teithio.
Mae’r cynllun Bathodyn Glas eisoes yn golygu bod y rhai hynny ag anableddau corfforol yn medru parcio yn fwy agos at leoliadau na gyrwyr eraill gan eu bod yn llai abl i fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu gerdded am bellter hirach.
Fel rhan o’r newid mwyaf i’r system ers y 1970au, bydd y cynllun nawr yn cael ei ymestyn flwyddyn nesaf i’r rhai hynny sydd â chyflyrau llai amlwg.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Jesse Norman: “Mae Bathodynnau Glas mor bwysig i bobl anabl, yn rhoi’r rhyddid a’r hyder iddynt fynd allan ac ymweld â ffrindiau yn annibynnol.
“Mae’r newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw yn mynd i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei ymestyn i bobl sydd ag anableddau cudd, fel eu bod yn medru mwynhau’r rhyddid y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol.”
Bydd y meini prawf yn ymestyn y cynllun i bobl:
- na sydd yn medru mynd ar daith heb fod yna risg o niwed difrifol i’w hiechyd neu ddiogelwch hwy eu hunain neu unrhyw berson arall (megis plentyn ifanc ag awtistiaeth).
- na sydd yn medru mynd ar daith heb fod hyn yn achosi trallod seicolegol sylweddol.
- sydd yn cael trafferth sylweddol pan yn cerdded (y weithred gorfforol a’r profiad o gerdded).
Roedd y llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar i wella hygyrchedd pob math o drafnidiaeth yn y Strategaeth Trafnidiaeth Gynhwysol a lansiwyd ar 25 Gorffennaf 2018. Mae’r strategaeth yn ceisio sicrhau y bydd holl rwydwaith trafnidiaeth y DU yn gynhwysol erbyn 2030.