‘Cydraddoldeb’ o ran iechyd meddwl mor bell i ffwrdd ag erioed, dywed arbenigwyr

Mae arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos nad yw 57 y cant o nyrsys iechyd meddwl yn credu fod “cydraddoldeb” dal wedi ei gyflawni.

Mae cynnig driniaeth gyfartal i gleifion sydd â phroblemau iechyd meddwl mor bell i ffwrdd ag erioed yn ôl nyrsys arbenigol chwe blynedd ar ôl i’r llywodraeth Glymblaid addo y byddai yn cyflawni hyn. Mae arolwg gan Goleg Nyrsio Brenhinol yn dangos nad yw mwyafrif (57 y cant) o nyrsys iechyd meddwl ar draws y DU yn credu fod “cydraddoldeb” wedi ei gyflawni.

Defnyddiwyd y term gan David Cameron yn 2013 pan oedd yn Brif Weinidog ac addawodd leihau’r gagendor cyllid rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Roedd Theresa May hefyd wedi addo triniaeth gyfartal pan gafodd ei hethol yn Brif Weinidog, ac felly, bydd canfyddiadau’r arolwg yn destun cywilydd i’r llywodraeth. Mae’r rhai hynny sydd ag afiechydon meddwl megis seicosis neu anhwylder deubegynol yn marw tua 15-20 mlynedd ynghynt na’r cyfartaledd yn y DU: mae pobl sydd â sgitsoffrenia deirgwaith yn fwy tebygol na’r unigolyn arferol o gael clefyd y siwgr; ac mae oedolion ifanc sydd ag afiechyd meddwl deirgwaith yn fwy tebygol na’r cyfartaledd o farw o glefyd y galon.

Roedd yr arolwg wedi canfod fod mwy na hanner (57 y cant) o’r nyrsys a oedd wedi ymateb yn ystyried bod y wlad y maent yn byw ynddi yn y DU naill ai wedi bod yn ‘aflwyddiannus’ neu’n ‘aflwyddiannus iawn’ yn sicrhau cydraddoldeb iechyd meddwl. Dim ond 17% a ddywedodd fod eu gwlad wedi bod yn llwyddiannus. Roedd bron i bedwar ym mhob deg (38 y cant) yn ystyried fod y ganolfan iechyd meddwl y maent yn gweithio ynddi yn ‘gwbl anaddas’ neu ‘ddim yn ddigon addas’ i ddiwallu anghenion iechyd corfforol y bobl hynny ag afiechyd meddwl (er enghraifft, diffyg cyfarpar i gynnal profion diagnostig ar gyfer problemau iechyd corfforol).

Daw’r canfyddiadau wrth i’r Coleg Nyrsio Brenhinol gynnal lansiad Equally Well UK “Charter for Equal Health”, sef partneriaeth gydweithredol sydd yn cael ei chefnogi gan fwy na 50 o fudiadau iechyd a gofal. Mae’r Siarter yn gwahodd pobl sydd yn ei gefnogi i wneud addewid am y camau y maent yn bwriadu cymryd er mwyn cynyddu disgwyliad oes y bobl hynny ag afiechyd meddwl difrifol.

Dywedodd y nyrsys mai’r ffactor bwysicaf fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf fyddai cynyddu’r cyllid ar gyfer gofal iechyd meddwl, a hynny ar ôl lefelau staffio diogel ar gyfer y gwasanaethau – mae’r nifer o nyrsys iechyd meddwl wedi gostwng 5,000 ers 2010 – a chomisiynu gwasanaethau yn well. Er enghraifft, sefydlu clinigau arbenigol er mwyn helpu pobl ag afiechyd meddwl i golli pwysau neu’n rhoi’r gorau i ysmygu.

Dywedodd Tim Coupland, Arweinydd Rhaglen Coleg Nyrsio Brenhinol ar gyfer Cydraddoldeb: “Mae’n drychinebus fod pobl ag afiechyd meddwl yn marw gymaint ynghynt na’r boblogaeth gyffredinol, mae hefyd yn warthus fod cymaint o bellter gennym i fynd mewn gwasanaeth iechyd modern.

“Fel nyrs iechyd meddwl, rwyf yn croesawu pob un o ymrwymiadau llywodraeth y DU i sicrhau triniaeth gyfartal i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl – ond mae angen cydlynu’r gwaith er mwyn ceisio cyrraedd y nod teilwng hwn. Yn y Coleg Nyrsio Brenhinol, roeddem am geisio canfod beth yw barn nyrsys sydd yn gweithio ym maes iechyd meddwl am yr hyn a fyddai yn gwneud gwahaniaeth.

“Nid yw canfyddiadau o’n arolwg – mwy o gyllid i wasanaethau iechyd meddwl, mwy o staff a chynllunio gwasanaethau yn well – yn syrpreis i Weinidogion Iechyd a rheolwyr y GIG ond mae nyrsys sydd yn gweithio ym maes iechyd meddwl yn gwybod fwy na neb ac yn medru cynnig atebion defnyddiol am yr hyn sydd yn atal cynnydd. ”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl corfforol ac iechyd meddwl, a dyna pam ein bod yn trawsnewid gwasanaethau gyda lefelau o gyllid nas welwyd o’r blaen a chynnydd sylweddol i’r gweithlu gyda’r nod o greu 21,000 o swyddi newydd erbyn 2021. Bydd iechyd meddwl hefyd yn flaenoriaeth allweddol i’n cynllun hirdymor ar gyfer y GIG a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, gyda £20.5bn o gyllid dros y bum blynedd nesaf.”