Mae BBC Radio 4 wedi cyhoeddi canlyniadau’r Arbrawf Unigrwydd (The Loneliness Experiment), sef arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd gan raglen BBC Radio 4, All In The Mind mewn cydweithrediad gyda Wellcome Collection. Dyma’r arolwg mwyaf sydd wedi ei gynnal hyd yma i mewn i’r pwnc unigrwydd.
Roedd canlyniadau’r arolwg yn dynodi fod pobl ifanc rhwng 16 a 24 yn profi unigrwydd yn fwy aml nag unrhyw grŵp arall. Roedd 40% o’r sawl a ymatebodd yn dweud eu bod wedi teimlo’n unig yn aml neu’n aml iawn, gydag ond 29% o bobl rhwng 65 a 74, a 27% o bobl dros 75, yn dweud yr un peth.
Roedd mwy na 55,000 o bobl sydd yn 16 mlwydd oed a’n hŷn wedi cymryd rhan yn yr arolwg, yn archwilio agweddau a phrofiadau personol o ddigartrefedd, a dyma’r arolwg mwyaf o’i fath. Datblygwyd yr arolwg gan academyddion ym Mhrifysgol Manceinion, Prifysgol Brunel Llundain, a Phrifysgol Exeter, ac fe’i cefnogwyd gan grant gan Wellcome.
Wrth wneud sylw ar y canfyddiadau, dywedodd Claudia Hammond, cyflynwyd y rhaglen All in the Mind ar Radio 4: “Mae’r pwnc unigrwydd yn derbyn llawer iawn o sylw ac amlygrwydd gwleidyddol ar hyn o bryd fel sydd wedi ei ddangos gan y ffaith ei fod wedi ei gynnwys ym mhortffolio gweinidogol Tracey Crouch ac argymhellion gan Gomisiwn Unigrwydd Jo Cox. Roeddem wedi ein syfrdanu gan y nifer uchel o bobl sydd wedi cymryd rhan yn ein hymgyrch. Mae’r ymchwil hwn yn dangos ein bod angen mynd i’r afael o ddifri’ ag unigrwydd ym mhob un grŵp oedran. Rydym yn gwybod fod ychydig o unigrwydd yn rhywbeth sydd yn digwydd dros dro ond rhaid canfod ffyrdd i’w atal rhag dod yn rhywbeth cronig.”
Dywedodd Pamela Qualter, Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Manceinion, a oedd wedi arwain yr astudiaeth: “Mae’r ymateb i Arbrawf Unigrwydd y BBC wedi bod yn sylweddol. Mae pobl wedi cael cipolwg gwerthfawr i mewn i sut y mae unigrwydd yn cael ei brofi, sut y mae’n ymwneud ag oedran, cyfrifoldebau gofalu, cyflogadwyedd a gwahaniaethu. I mi, mae’r canfyddiadau diddorol yn ymwneud gyda stigma sydd ynghlwm wrth unigrwydd a’r datrysiadau y bu’n rhaid eu defnyddio er mwyn goresgyn unigrwydd. Mae’r canfyddiadau hynny yn awgrymu bod angen i ni fod yn fwy caredig i’n gilydd pan ein bod yn teimlo ein bod wedi ein datgysylltu o bobl eraill, ond mae yna becyn o ddatrysiadau ymarferol y mae modd i ni roi cynnig arnynt.”