Unigrwydd yw un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf ein cyfnod yn ôl Theresa May, wrth iddi lansio strategaeth traws-Lywodraethol heddiw i fynd i’r afael gyda hyn.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd yr holl Feddygon Teulu yn medru atgyfeirio cleifion sydd yn profi unigrwydd i weithgareddau cymunedol a gwasanaethau gwirfoddol erbyn 2023.
Dywedodd tri chwarter o Feddygon teulu eu bod yn gweld rhwng un a phum person y dydd sydd yn ddioddef unigrwydd, ac mae wedi ei gysylltu ag amryw o sgil-effeithiau niweidiol, megis clefyd y galon, strôc, clefyd Alzheimer. Mae tua 200,000 o bobl hŷn heb gael sgwrs gyda ffrind neu aelod o’r teulu am fwy na mis.
Bydd y practis newydd yma, a adwaenir fel ‘presgripsiynu cymdeithasol, yn caniatáu Meddygon Teulu i atgyfeirio pobl at weithwyr cymunedol er mwyn cynnig y cymorth teilwredig i helpu pobl i wella eu hiechyd a’u lles, yn hytrach na throi at feddyginiaeth fel sy’n digwydd fel arfer.
Fel rhan o’r cynllun hirdymor ar gyfer y GIG yn Lloegr, bydd cyllid yn cael ei ddarparu er mwyn cysylltu cleifion ag amryw o weithgareddau megis dosbarthiadau coginio, clybiau cerdded a grwpiau celf, a thrwy hynny’n lleihau’r gofynion ar y GIG a’n gwella ansawdd bywyd y cleifion.
Mae hyd at un ym mhob pump o oedolion yn y DU yn teimlo’n unig am y rhan fwyaf o’r amser neu drwy’r amser ac mae ymchwil yn dangos fod unigrwydd yn medru bod mor niweidiol i’ch iechyd ag ysmygu a gordewdra. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi lansio’r ‘Addewid Cyflogwr’ cyntaf hefyd er mwyn mynd i’r afael gydag unigrwydd yn y gweithle.
Darllenwch A connected society: A strategy for tackling loneliness