Nid yw’r heddlu yn medru trwsio system iechyd meddwl sydd wedi torri” yn ôl HMICFRS

Mae swyddogion yr heddlu yn cael eu defnyddio yn fwy ac yn fwy fel y gwasanaeth  a ddefnyddir i ymateb i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, a hynny yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Argyfwng Ei Mawrhydi (HMICFRS).

Mae’r adroddiad, ‘Policing and Mental Health: Picking Up the Pieces’, yn dweud fod  yr  heddlu  yn gwneud yn dda mewn amgylchiadau anodd, ond mae yna bryderon ynglŷn ag a ddylai’r heddlu fod yn ymateb i broblemau iechyd meddwl ar y lefel bresennol. Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod angen ail-feddwl yn radical a chanfod datrysiad mwy hirdymor i’r hyn sydd wedi dod yn argyfwng cenedlaethol.

Dywedodd yr Arolygydd yr Heddlu Ei Mawrhydi, Zoë Billingham:

“Mae swyddogion yr heddlu am ymateb a gwneud eu gorau er mwyn cefnogi pobl fregus pan fyddant yn gofyn am help. Ac rydym wedi canfod fod swyddogion yr heddlu yn ymateb i’r rhai hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl gyda gofal ac angerdd.

“Ond ni allwn ddisgwyl i’r heddlu geisio trwsio system iechyd meddwl sydd wedi torri. Yn rhy aml o lawer, mae swyddogion yr heddlu – sydd eisoes heb ddigon o adnoddau – yn methu ymateb yn briodol bob  tro, ac nid yw bobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl yn derbyn yr help sydd angen arnynt bob tro.

“Mae pobl sydd mewn argyfwng gyda phroblemau iechyd meddwl angen cymorth arbenigol – ac nid oes modd cynnig y cymorth hwn tra eich bod yng nghefn fan yr heddlu neu drwy eu cloi mewn cell.

“Yn rhy aml o lawer, mae’r system yn methu pobl pan eu bod angen help fwyaf. Nid yw hon yn broblem y mae’r heddlu yn medru ei datrys. Rhaid i wasanaethau eraill ymatal rhag dibynnu ar yr heddlu sydd ar gael 24/7.

“Mae pryderon gennym ynglŷn ag a ddylai’r heddlu fod yn chwarae cymaint o ran yn ymateb i broblemau iechyd meddwl. Mae angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cefnogi gan y wladwriaeth. Yr heddlu yw’r gwasanaeth olaf y dylid dibynnu arno yn y cyd-destun hwn, nid y cyntaf.”

Roedd HMICFRS wedi comisiynu arolwg er mwyn ceisio deall barn y cyhoedd yn well o ran rôl y gwasanaeth heddlu yn helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r canfyddiadau yn cynnwys:

  • dim ond dau y cant o’r rhai hynny a holwyd oedd yn teimlo mai cyfrifoldeb yr heddlu oedd ymateb i alwadau iechyd meddwl;
  • roedd saith deg y cant o bobol yn credu mai prif gyfrifoldeb y gwasanaethau iechyd oedd delio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl; a
  • roedd 10 y cant pellach yn teimlo mai’r awdurdod lleol neu’r cyngor oedd yn gyfrifol.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r ffaith fod y galw ar yr heddlu i ymateb i alwadau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl yn cynyddu. Mae’r heddlu yn tueddu i fethu â gwerthfawrogi’n llawn  y nifer o swyddogion sydd yn cael eu danfon i ddigwyddiadau o’r fath a’r ffaith fod yr amser ymateb a delio gyda phethau fel hyn yn cymryd dipyn yn fwy o amser nag y mae’r gwasanaethau yn sylweddoli. Mae rhai gwasanaethau’r heddlu yn deall yn fwy nag eraill ac yn mesur y baich sydd arnynt yn y maes hwn, ond yn gyffredinol, dywed yr adroddiad fod gwasanaeth yr heddlu angen gwella ei ddealltwriaeth o’r galw sydd arnynt yn sgil problemau iechyd meddwl.

Darllenwch yr adroddiad yma