Ymchwiliad gan y Times yn awgrymu fod busnesau yn codi miliynau ar y GIG am wasanaethau iechyd meddwl annigonol

Mae ymchwiliad gan bapur-newydd The Times wedi awgrymu fod cwmnïau yn codi miliynau o bunnoedd ar y GIG ar gyfer cynnig  gofal i gleifion mewnol sydd ‘weithiau yn annigonol’ ac yn methu darparu ‘gofal digonol neu ddiogel’.

Mae’r ymchwiliad wedi canfod fod cleifion weithiau yn cael eu cadw yn yr ysbyty yn erbyn eu hewyllys, weithiau am flynyddoedd, a hynny mewn cleifion mewn wardiau na sydd yn cwrdd â’r safonau angenrheidiol.

Roedd Syr Stephen Bubb wedi cynnal ymchwiliad yn dilyn achos yn Ysbyty Winterbourne View yn 2011 lle y canfuwyd fod staff yn cam-drin cleifion. Dywedodd ef: “Mae’n gryn sioc fod darparwyr preifat yn manteisio’n ariannol drwy gynnig gofal na sydd yn ddigonol, ac yn talu eu hunain yn hael gan ddefnyddio arian o’r GIG. Dylai’r sefydliadau yma gael eu cau, nid ehangu. Mae manteisio ac elwa’n ariannol o’r cleifion mwyaf bregus yn annheg.”

Dywedodd Elin Jones, Cadeirydd yr elusen iechyd meddwl Hafal: “Mae’n warthus fod rhai ysbytai seiciatryddol yn nwylo cwmnïau preifat na sydd yn cwrdd â’r safonau angenrheidiol o ran gofal ac yn codi hyd at £13,000 yr wythnos. Mae ein Haelodau wedi eu cythruddo fod cyllideb werthfawr y GIG yn cael ei wario ar wasanaethau, a hynny am grocbris, ac nid ydynt hyd yn oed yn diwallu anghenion y cleifion.

“Yn 2017, roedd Hafal  wedi agor canolfan ar gyfer cleifion mewnol sydd yn cael ei harwain gan ddefnyddwyr ac wedi ennill gwobr ryngwladol am arfer gorau yn sgil ei dulliau arloesol a’i safonau uchel o ofal. Mae’n wasanaeth sydd yn cael ei gynnig am bris rhesymol ac yn uchelgeisiol ar ran y cleifion ac nid yw’n eu cynnal yn eu cyflwr cyfredol er mwyn ceisio creu arian. Ac eto, mae gwelyau gwag gennym, er ein bod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru i esbonio paham nad yw cleifion y GIG yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth.  Sut y mae hyn yn medru bod yn gywir?

“Roedd The Times wedi canfod fod un ysbyty sydd yn darparu gofal annigonol wedi talu bron i £25 miliwn i ymddiriedolaeth  gyfrinachol yn Belize. Rydym yn galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddweud wrthym os yw Llywodraeth Cymru yn talu cwmnïau yn yr hafanau treth yma  yn hytrach na gwasanaethau Cymreig.”