Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi adroddiad ar atal hunanladdiad

‘Mae atal pobl ifanc rhag cymryd eu bywydau eu hunain yn fusnes i bawb ac ni all siarad â rhywun sy’n ystyried hunan-laddiad fyth wneud pethau’n waeth.’

Dyna’r neges gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad pellgyrhaeddol ar atal hunanladdiad.

Cofrestrwyd 360 o farwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru yn 2017, y ffigur uchaf ers 1981, ond credir y gallai’r ystadegau swyddogol fod yn cuddio gwir raddfa hunanladdiad.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion sy’n canolbwyntio ar well cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol, gofal dilynol gwell i’r rheini sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty a chyflwyno fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad. Dywed y dylai Llywodraeth Cymru ystyried amseroedd targed ystyriol os yw’n ddifrifol am gyflawni cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol a meddyliol.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod hunanladdiad ymysg dynion fel blaenoriaeth genedlaethol tra’n ei hannog i roi argymhellion penodol ar waith o ran gwella a diogelu iechyd a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru, fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad Cadernid Meddwl  gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Ond er bod y pwyllgor yn credu bod angen gwasanaethau gwell a chyson ar frys er mwyn helpu’r rheini y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt, mae hefyd yn credu bod angen mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o faterion hunanladdiad ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â staff rheng flaen yn y gwasanaethau brys.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 31 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, drefnu bod cyllid penodol ar gael ar gyfer atal hunanladdiad i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.
  • Dylid mabwysiadu fframwaith hyfforddiant ar atal hunanladdiad a’i weithredu ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn ffordd debyg i’r fframwaith ar gyfer trais domestig, lle y manylir ar y gofynion o ran hyfforddiant yn dibynnu ar y rôl;
  • Dylai Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o hyrwyddo deunyddiau sydd eisoes yn bodoli, megis yr adnodd hyfforddi “See. Say. Signpost.” fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a sefydlu’r neges bod hunanladdiad yn fusnes i bawb ac y gall ddigwydd mewn unrhyw gymuned ar unrhyw adeg;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar fyrder i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn ymwybodol o ganllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynghylch rhannu gwybodaeth a’r datganiad consensws a gytunwyd gan Adran Iechyd y DU, y Colegau Brenhinol a phartneriaid eraill.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol. Dylai hyn fod yn gysylltiedig â “Cymru Iachach”, a rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei chynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi yr un flaenoriaeth i iechyd meddwl a lles meddyliol ag y maent yn ei rhoi i iechyd corfforol; a
  • Dylid cyflwyno targed ar gyfer amseroedd aros am therapïau seicolegol i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen yn cael y cymorth hwn o fewn amserlen briodol. Mae mynediad cynnar at therapi priodol yn gallu darparu’r ymyrraeth y mae ei hangen ac atal yr angen i rywun gael gofal mewn argyfwng yn nes ymlaen.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.