Problemau iechyd meddwl yn costio’n ddrud i Ewrop, medd yr OECD

Byddai mwy o ymdrechion i hyrwyddo iechyd meddwl a gwella diagnosis cynnar a thriniaeth ar gyfer y rhai hynny ag afiechyd meddwl yn gwella bywydau miliynau  o bobl Ewrop ac yn cyfrannu at economi gryfach ac amodau gweithio gwell, a hynny yn ôl adroddiad cyfun newydd gan yr OECD/Comisiwn Ewropeaidd.

Mae Health at a Glance: Europe 2018 yn dweud fod problemau iechyd meddwl, megis iselder, anhwylderau deubegynol ac anhwylderau  alcohol a chyffuriau, yn effeithio ar fwy nag un ym mhob chwech pherson yn yr Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw flwyddyn. Yn ogystal â’r effaith ar les pobl, mae’r adroddiad yn amcangyfrif fod cyfanswm y gost o afiechyd meddwl yn fwy na EUR 600 biliwn – neu mwy na 4% o’r GDP – ar draws 28 gwlad y DU.

Mae rhan fawr o’r costau yma yn sgil cyfraddau cyflogaeth a chynhyrchiant is y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl (1.6% o GDP neu EUR 260 biliwn) a mwy o wariant ar raglenni nawdd cymdeithasol (1.2% o GDP neu EUR 170 biliwn), gyda’r gweddill yn wariant uniongyrchol ar ofal iechyd (1.3% o GDP neu EUR 190 biliwn).

“Nid yw baich trwm afiechyd meddwl ar unigolion a chymdeithasol yn anochel,” dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr OECD, Angel Gurría. “Tra bod nifer o wledydd Ewrop wedi cyflwyno polisïau a rhaglenni er mwyn mynd i’r afael ag afiechyd meddwl, mae modd gwneud llawer iawn mwy er mwyn hyrwyddo a rheoli iechyd meddwl yn well. Rydym yn disgwyl ymlaen at barhau i weithio gyda’r Comisiwn Ewropeaidd er mwyn mesur cyflwr iechyd ymhlith economïau Ewrop a’r heriau penodol y maent yn brwydro er mwyn darparu polisïau gwell ar gyfer bywydau gwell.”

Wrth lansio’r adroddiad ym Mrwsels,  ychwanegodd y Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer Iechyd a Diogelwch Bwyd, Vytenis Andriukaitis: “Mae’r adroddiad Health at a Glance yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i  Aelod-wladwriaethau i roi mwy o flaenoriaeth ar sgil-effaith problemau iechyd meddwl  ar fywydau pobl a’r economi gan fod hyn yn aml yn cael ei esgeuluso. Mae’n cynnig achos cryf i gydlynu gweithredoedd er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl gwell mewn ysgolion a gweithleoedd ond hefyd ymhlith grwpiau bregus megis pobl ddi-waith a’r henoed.”