Mwy na thraean o bobl ifanc yn teimlo o dan straen yn sgil eu rôl gofalu  

Mae ymchwil newydd yn datgelu fod mwy na thraean o bobl ifanc rhwng 11 a 18 ym Mhrydain Fawr sydd yn rhoi amser i ofalu am rywun sydd yn byw gyda hwy yn profi problemau sylweddol gyda’u lles meddwl.

Mae’r arolwg YouGov, a gyhoeddwyd heddiw (31ain Ionawr), wedi ei gomisiynu gan elusen y DU,  Carers Trust, er mwyn dathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc.

O’r gofalwyr ifanc a oedd wedi ymateb i’r arolwg, dywedodd  37% eu bod yn teimlo ‘o dan straen’ tra oedd  32% yn dweud eu bod yn teimlo yn ‘bryderus’ gan eu bod yn gofalu am rywun. Ac roedd  50% o’r rhai hynny a ddywedodd eu bod o dan straen yn dweud eu bod yn teimlo fel hyn yn ‘aml’.

Roedd yr astudiaeth YouGov hefyd wedi canfod fod:

  • Bron i chwarter (23%) o bobl ifanc yn teimlo fod eu rôl gofalu wedi, ar fwy nag un achlysur, eu hatal rhag gwneud ffrindiau.
  • Roedd llai na hanner (44%) yn teimlo eu bod yn derbyn digon o help gyda’u hemosiynau a’u teimladau.

Nid oes digon o gymorth ar gyfer iechyd meddwl y gofalwyr ifanc

Roedd yr ymchwil hefyd wedi awgrymu fod gormod o ofalwyr ifanc  yn cael eu methu gan nad oeddynt yn derbyn y gefnogaeth gywir er mwyn mynd i’r afael gyda’u teimladau negatif. Roedd  22% o ofalwyr ifanc a oedd wedi ymateb i’r arolwg ac wedi profi teimladau negatif am ofalu, wedi dweud nad oeddynt wedi siarad ag unrhyw un am eu teimladau. A dim ond  6% a oedd yn dweud eu bod wedi siarad gyda gweithiwr proffesiynol ym maes gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae nifer sylweddol o bobl ifanc yn profi straen a phryder

Ym Medi 2018, roedd Prifysgol Nottingham a Newyddion BBC wedi cyhoeddi ffigyrau yn awgrymu fod 800,000 o ofalwyr ifanc rhwng 11 a 16 yn Lloegr. (Pan ein bod yn ystyried hyn gyda data YouGov, mae Carers Trust yn amcangyfrif fod ychydig o dan chwarter miliwn o ofalwyr ifanc yn y grŵp oedran hwn yn teimlo o dan straen, a thua  240,000 yn teimlo’n ‘bryderus’ am eu rôl gofalu.

Gofalwyr ifanc yn galw ar y cyhoedd i ‘ofalu amdanaf i hefyd’  (#CareForMeToo)

Mae gofalwyr ifanc wedi ei gwneud hi’n eglur i Carers Trust bod angen mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r cyfrifoldebau anodd y maent yn ymgymryd â hwy.

Os yw eu cyfrifoldebau fel gofalwyr yn cael eu hanwybyddu neu os nad neb yn sylwi arnynt, maent yn dweud y bydd eu lles meddwl yn cael ei effeithio os yw’r disgwyliadau ohonynt yn ormod, os nad ydynt yn derbyn y gefnogaeth gywir.

Dyma pam y mae gofalwyr ifanc wedi dewis #CareForMeToo fel enw’r ymgyrch ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc 2019.

Mae’r Carers Trust yn cytuno ac yn galw am:

Dywedodd Giles Meyer, Prif Weithredwr Carers Trust: “Mae cannoedd o filoedd o bobl ifanc ar draws Prydain Fawr heddiw  yn gorfod gofalu am aelodau teulu sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r problemau yma, a byddai nifer o oedolion yn cael trafferth yn delio gyda hwy, yn amrywio o anabledd i salwch angheuol i broblemau iechyd meddwl, alcoholiaeth a chamddefnyddio sylweddau.

“Mae’r arolwg YouGov a gomisiynwyd gennym yn pwyntio at y sgil-effaith a ddaw o osod yr holl gyfrifoldebau heriol yma ar les iechyd meddwl y gofalwyr ifanc, gyda llawer ohonynt yn gorfod cydbwyso heriau cymhleth gyda phwysau bob dydd.

“Nid yw’n syndod fod cynifer o ofalwyr ifanc yr ydym yn siarad gyda hwy yn deisyfu help a’r gefnogaeth er mwyn lliniaru’r boen a’r pryder y maent yn profi yn sgil gofalu am rywun.  Os yw hyn yn cael ei anwybyddu, mae’r teimladau negatif yma yn medru dirywio yn gyflym  ac yn arwain at broblemau iechyd meddwl.

“Dyma pam ein bod – ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc – yn galw ar weithwyr proffesiynol o dderbyn hyfforddiant gorfodol ar adnabod gofalwyr ifanc dipyn ynghynt. Bydd hyn yn helpu sicrhau nad yw gofalwyr ifanc a’u problemau yn cael eu hanwybyddu, a’u bod yn derbyn y gefnogaeth gywir ar gyfer eu hiechyd meddwl, yn atal problemau hirdymor rhag datblygu ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.”