Angen diwygiadau brys er mwyn rhoi mynediad teg i’r Credyd Cynhwysol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, medd y SPAcIM

Mae angen diwygiadau brys er mwyn rhoi mynediad teg i’r Credyd Cynhwysol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, a hynny yn ôl adroddiad newydd gan y Sefydliad Polisi Ariannol ac Iechyd Meddwl  sydd yn gwyntyllu’r trafferthion y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu pan yn gwneud cais ac yn hawlio budd-daliadau.

Mae’r adroddiad, The benefits assault course, yn dangos fod bron i hanner  (47%) o’r bobl mewn oedran gwaith sydd yn derbyn budd-daliadau   yn Lloegr yn meddu ar broblem iechyd meddwl gyffredin megis iselder neu orbryder. Mae’n rhybuddio fod pobl yn y sefyllfa hon yn medru cael trafferthion wrth geisio canfod eu ffordd drwy’r system fudd-daliadau, a hynny yn sgil symptomau megis llai o allu i ganolbwyntio, yn fwy tebygol o ymddwyn ar hap a phroblemau’n cofio pethau – heriau sydd hyd yn oed yn fwy difrifol i bobl sydd wedi eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl difrifol.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu fod y trafferthion yma yn cael eu gwaethygu gan ‘brosesau sydd yn rhy gymhleth a’n rhy fiwrocrataidd’ yn y system fudd-daliadau, sydd yn achosi trallod seicolegol difrifol i bobl sydd eisoes  yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.

Mewn arolwg gan yr elusen a gwblhawyd gan fwy na 450 o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac sydd yn derbyn budd-daliadau, roedd mwy na 94% o bobl wedi sôn eu bod wedi profi symptomau o ganlyniad i ymgysylltu gyda’r system fudd-daliadau, ac roedd bron i hanner (45%) wedi arddangos arwyddion o orbryder difrifol neu eithafol.

Wrth wneud sylw ar y canfyddiadau, dywedodd Helen Undy, Prif Weithredwr y Sefydliad Polisi Ariannol ac Iechyd Meddwl:

“Mae cael mynediad at y system fudd-daliadau yn medru bod yn dasg anodd i unrhyw un, ond os ydych yn cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl, mae’n medru teimlo yn amhosib. Mae’r rhwystrau y mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu bob cam o’r ffordd nid yn unig yn achosi trallod diangen ond mae’n medru golygu bod pobl yn methu â derbyn y cymorth hanfodol y maent yn gymwys i’w dderbyn, neu’n disgyn allan o’r system yn llwyr.

“Mae angen newid hyn ar frys gan ei fod yn difetha bywydau. Mae penderfyniad y llywodraeth i arbrofi symud unigolion i’r Credyd Cynhwysol cyn ei gyflwyno i bawb yn cynnig cyfle delfrydol i ddatrys y problemau  yma. Mae gwneud y newidiadau cywir yn medru gwneud gwahaniaeth sylweddol i filiynau o bobl ar draws y wlad sydd â phroblemau iechyd meddwl, a hynny wrth iddynt geisio delio gyda’r system fudd-daliadau.”