Canllaw newydd i erlynwyr am gyflyrau ac anhwylderau iechyd meddwl’

Mae canllaw i erlynwyr ar sut i ddelio gyda diffynyddion sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r ddealltwriaeth gynyddol o gyflyrau gwahanol,  medd Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw.

Mae’r canllaw diwygiedig yn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau yn ystod achos troseddol, a hynny o’n penderfyniad cyntaf i ddwyn erlyniad, drwy’r ffitrwydd i bledio yn euog neu’n ddieuog ac yna i’r dedfrydu. Mae wedi ei ddatblygu er mwyn deall y newidiadau yn o fewn maes iechyd meddwl fel gwasanaethau dargyfeirio a phryderon cymunedau am y sgil-effaith ar y system cyfiawnder troseddol.

Mae ymgynghoriad wedi ei lansio fel bod barn y cyhoedd, elusennau a gweithwyr iechyd a chyfreithiol proffesiynol yn medru cael ei hystyried cyn cwblhau’r canllawiau.

Dywedodd Max Hill QC, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus: “Nid yw’n syndod fod delio gyda phroblemau iechyd meddwl yn rhan o’r hyn sydd yn digwydd bob dydd yn y system cyfiawnder troseddol, ac felly, rwy’n benderfynol fod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn arwain y ffordd mewn ffordd sydd yn sicrhau ein bod yn trin y pwnc hwn gyda’r pwysigrwydd a’r sensitifrwydd haeddiannol.

“Pan mae iechyd meddwl yn ffactor mewn achos, rhaid i’n cyfreithwyr ystyried a yw erlyn yn beth cywir, neu a oes ffordd arall i amddiffyn y cyhoedd. Rhaid gwneud penderfyniad yn seiliedig ar  y ffeithiau penodol, ac mae’n hanfodol fod erlynwyr yn cael canllawiau clir wrth iddynt wneud y penderfyniadau cymhleth yma.

“Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn gywir ac rydym yn disgwyl ymlaen at glywed barn arbenigwyr a’r cyhoedd am y canllaw newydd hwn.”

Wedi dewis detholiad o ryw 400 o achosion ar hap ar draws Lloegr a Chymru, roeddem wedi canfod fod un ym mhob pump yn cynnwys diffynnydd, dioddefwr neu dyst sydd â phroblem iechyd meddwl.

Mae gwybodaeth allweddol yn y canllaw drafft yn cynnwys:

  • gwybodaeth i erlynwyr am y mathau gwahanol o gyflyrau iechyd meddwl a’r ffordd y maent yn ymddangos i eraill mewn modd clinigol;
  • ystyried derbynioldeb tystiolaeth gan rywun o dan amheuaeth sydd â phroblem iechyd meddwl;
  • amddiffyniad cyfreithiol posib i ddiffynnydd, gan gynnwys cred resymol eu bod yn amddiffyn ei hun mewn achosion o drais ac awtomatiaeth, lle y mae person yn colli rheolaeth o’i gorff;
  • gwybodaeth am driniaethau cymunedol posib neu ddargyfeiriadau na sydd yn droseddol i ddiffynyddion lefel isel ag afiechyd meddwl megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, gorbryder ac iselder ynghyd ag anhwylderau sbectrwm awtistig ac anableddau dysgu
  • y defnydd o addasiadau rhesymol er mwyn cefnogi cyfranogiad effeithiol gan ddiffynyddion sydd â phroblemau iechyd meddwl, er enghraifft, eu caniatáu i ddefnyddio mesurau arbennig, fel rhoi tystiolaeth y tu nôl i sgrin er mwyn eu helpu i ddelio gyda gorbryder.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu canllaw ar wahân er mwyn cefnogi dioddefwyr a thystion ag afiechyd meddwl drwy’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 4 Mehefin 2019. Bydd fersiwn derfynol y canllaw yn cael ei chyhoeddi yn hwyrach eleni.