Mae un ym mhob wyth oedolyn yn y DU (13 y cant) wedi meddwl am hunanladdiad yn sgil pryderon am y ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff, yn ôl astudiaeth newydd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Comisiynwyd yr arolwg ar-lein o 4,505 o oedolion yn y DU a oedd yn 18 mlwydd oed a’n hŷn er mwyn dathlu lansiad Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd meddwl, a’r thema eleni yw delwedd y corff.
Mae’r arolwg, sydd wedi ei gyhoeddi fel rhan o adroddiad – Body Image: How we think and feel about our bodies – wedi canfod fod mwy na thraen o oedolion yn y DU wedi teimlo’n orbryderus (34 y cant), neu wedi teimlo’n isel (35 y cant) yn sgil pryderon y ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff.
Roedd bron i un ym mhob pump o oedolion y DU (19 y cant) yn teimlo’n “afiach” yn sgil delwedd eu corff a dywedodd un ym mhob pump (20 y cant) eu bod wedi teimlo “cywilydd” yn y ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd yr arolwg wedi canfod fod materion ynglŷn â delweddau o’r corff wedi effeithio ar fenywod yn fwy na dynion, gydag un ym mhob 10 menyw (10 y cant) yn dweud eu bod wedi hunan-niweidio neu wedi “niweidio eu hunain yn fwriadol” yn sgil delwedd o’u corff, o gymharu gyda 4 y cant o ddynion.
Ond roedd yr arolwg wedi canfod fod materion sydd yn ymwneud gyda delweddau o’r corff hefyd yn medru effeithio ar nifer sylweddol o ddynion, gyda chwarter o ddynion (25 y cant) yn dweud eu bod wedi teimlo’n isel yn sgil pryderon ynglŷn â’r ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff.
Roedd hefyd yn eglur fod materion delweddau’r corff wedi effeithio ar bobl drwy gydol eu bywydau. Roedd un ym mhob pump o bobl (20 y cant) a oedd yn 55 mlwydd oed a’n hŷn yn dweud eu bod wedi teimlo’n orbryderus yn sgil y ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff.
Mae’r elusen yn mynnu newid o ran cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu sydd yn ymwneud gyda delweddau’r corff. Mae’r elusen hefyd yn cynnig cyngor ynglŷn â sut y mae pobl yn medru cymryd camau er mwyn diogelu eu hunain.
Dywedodd Prif Weithredwr y Sefydliad Iechyd Meddwl Mark Rowland: “Mae ein harolwg yn dangos fod miliynau o oedolion yn y DU yn cael trafferthion gyda phryder ynglŷn â’r ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff. I rai pobl, mae hyn o bosib yn ddifrifol iawn, gyda nifer sylweddol yn dweud eu bod wedi hunan-niweidio neu wedi meddwl am hunanladdiad.
“Mae menywod, yn enwedig menywod ifanc, yn dangos y cyfraddau uchaf o drallod. Mae nifer sylweddol wedi profi teimladau o ffieidd-dra a chywilydd neu wedi newid eu hymddygiad er mwyn osgoi sefyllfaoedd sydd yn gwneud iddynt feddwl yn negatif am eu cyrff.
“Ond mae pryderon ynglŷn â delweddau o’r corff yn medru effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg mewn bywyd. Mae ein hymchwil yn dangos fod cyfran bryderus o bobl wedi teimlo’n orbryderus neu’n isel am eu cyrff.
“Roedd nifer o bobl wedi sôn am y cyfryngau cymdeithasol fel ffactor bwysig a oedd yn achosi iddynt boeni am y ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff – ac roedd y mwyafrif yn credu fod angen i’r Llywodraeth i gymryd mwy o gemau.”
Roedd ond un ym mhob pump (22 y cant) o holl oedolion y DU a bron i hanner (46 y cant) o bobl rhwng 18 a 24 yn dweud fod delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi achosi iddynt boeni am y ddelwedd sydd ganddynt o’u cyrff.
Roedd bron i chwech ym mhob deg o oedolion y DU (59 y cant) yn teimlo fod Llywodraeth y DU angen gwneud mwy er mwyn amddiffyn y cyhoedd rhag defnyddio delweddau afiach o’r corff o ran hysbysebu a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mewn ymateb, mae’r Sefydliad wedi galw ar Lywodraeth y DU a diwydiannau perthnasol i gymryd camau, gan gynnwys rheoleiddio’r cyfryngau cymdeithasol a mwy o bwerau ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Hysbysebu.
Dywedodd Mr Rowland: “Mae ein harolwg yn tanlinellu sut y mae pwysau masnachol, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu ar ddelweddau p’r corff yn medru cyfrannu at broblemau iechyd meddwl ymhlith miliynau o bobl
“Mae’r niwed cymdeithasol wedi ei ganiatáu i ddatblygu yn ddi-reolaeth. Tra bod rhai pethau positif wedi digwydd, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn aml wedi bod yn amharod i gymryd y camau priodol er mwyn amddiffyn eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol.
“Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael gydag unrhyw beth sydd yn hyrwyddo delweddau afiach neu ddelfrydol o’r corff fel rhan sylweddol o’i bolisi yn y maes hwn.
“Dylai codau ymarfer newydd gynnwys eithriad sydd yn golygu bod rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol orfod cymryd camau er mwyn sicrhau bod y cynnwys y maent yn hyrwyddo yn ymatal rhag gwaethygu pryderon ynglŷn â delweddau’r corff.
“Byddai modd gweithredu hyn drwy reoleiddiwr annibynnol newydd, sydd eisoes yn rhan o gynigion y Llywodraeth yn y papur Gwyn, Niwed Ar-lein.”
Cynhaliwyd yr arolwg gan YouGov. Roedd 4505 o oedolion wedi eu cyfweld. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng y 25ain – 26ain Mawrth 2019. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigyrau wedi eu pwysoli ac yn gynrychioliadol o holl oedolion y DU (yn 18 mlwydd oed a’n hŷn).