Canllaw deall a rheoli aflonyddwch meddwl sydd wedi ei gyhoeddi gan GAMIAN-Europe

Mae aflonyddwch meddwl yn brofiad cyffredin i bobl sydd wedi derbyn diagnosis o anhwylder duebegynol, sgitsoffrenia a  dementia. Mae aflonyddwch meddwl hefyd yn cael ei brofi gan bobl sydd ag iselder ac anhwylderau gorbryder.

Pan fydd aflonyddwch meddwl yn cael ei brofi, mae’n medru gwaethygu yn gyflym iawn, ac os yn ddifrifol, efallai bod angen mynd i’r ysbyty ac mae hyn yn medru arwain at dipyn o drallod.  Mae adnabod yr arwyddion a’r symptomau yn gynnar ac ymateb yn gyflym yn hanfodol er mwyn osgoi’r sefyllfa hon.

Mae nifer o bobl sydd yn profi aflonyddwch meddwl yn medru adnabod eu symptomau a dylid eu hymrymuso i’w rhagweld a’u rheoli, gyda chefnogaeth gan ofalwyr a chlinigwyr fel bod modd osgoi mynd i’r ysbyty cyn belled ag sydd yn bosib.

Mae GAMIAN-Europe, drwy gydweithio ag EUFAMI, wedi llunio’r canllaw hwn er mwyn darparu gwybodaeth i bobl sydd yn profi aflonyddwch meddwl a’r rhai sydd yn agos iddynt. Mae’n cynnwys disgrifiad o’r hyn yw aflonyddwch meddwl,   sut y mae modd ei reoli a’r triniaethau sydd ar gael ac yn medru helpu.

Roedd Ymgynghorydd Hafal Helen Bennett ar y pwyllgor ymgynghori ac wedi helpu datblygu a llywio’r canllaw sydd wedi ei ysgrifennu  o bersbectif pobl sydd â phrofiad o fyw ag aflonyddwch meddwl a’u gofalwyr, ac yn manteisio ar yr ymchwil sydd ar gael.

Mae modd i chi ddarllen y canllaw yma.