Mae mwy na chwech ym mhob 10 person yn y DU sy’n 65 mlwydd oed neu’n hŷn wedi profi iselder neu orbryder, yn ôl data.
O’r rhain, nid oedd mwy na hanner ohonynt wedi chwilio am help gan iddynt gredu “y dylent fwrw ati ac ymdopi”.
Roedd bron i chwarter wedi dibynnu ar gymorth gan ffrindiau neu deulu.
Mae GIG Lloegr ac Age UK wedi lansio ymgyrch i annog pobl hŷn i gael mynediad at driniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl.
Roedd yr arolwg wedi canfod mai ond 13% o’r rhai sy’n 65 mlwydd oed a’n hŷn fyddai’n gosod eu hiechyd meddwl cyn eu hiechyd corfforol.
Mae’n awgrymu fod agwedd cymhennid tuag at iechyd meddwl yn atal pobl hŷn rhag chwilio am help gyda phroblemau emosiynol.
Dywedodd Alistair Burns, cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl pobl hŷn yn GIG Lloegr a GIG Gwella, fod pobl hŷn yn teimlo weithiau eu bod yn credu bod yn rhaid iddynt gadw’n dawel ac ymdopi gyda phethau, tra bod chwilio am help yn cael ei ystyried yn arwydd o gryfder, nid gwendid.
“Dylem gofio fod modd cysylltu unigrwydd ac arwahanrwydd gyda phroblemau iechyd corfforol, ac felly, mae sicrhau cymorth drwy siarad gyda therapydd yn dda ar gyfer y meddwl a’r corff,” ychwanegodd ef.
Dywedodd Caroline Abrahams, cyfarwyddwr Age UK, bod yna chwyldro diwylliannol wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf o ran parodrwydd i fod yn agored am iechyd meddwl, ond efallai bod hyn yn golygu bod eraill wedi eu gadael ar ôl.
“Roeddynt wedi tyfu fyny mewn cyfnod pan oedd stigma go iawn yn gysylltiedig gydag iechyd meddwl, ac i lawer, mae’r agweddau yma yn rhai cynhenid a dal yn dylanwadu ar eu hymddygiad heddiw,” esboniodd hi. “Rhwystr bellach sy’n atal pobl rhag chwilio am gymorth yw diffyg ymwybyddiaeth am y triniaethau effeithiol sydd ar gael, yn hytrach na ‘chymryd tabledi’, ac mae llawer o bobl hŷn yn teimlo eu bod yn gwneud digon o hyn yn barod.”