Rhwng y 3ydd a’r 9fed Chwefror, bydd ysgolion, grwpiau ieuenctid, mudiadau ac unigolion ar draws y DU yn cymryd rhan yn ‘Wythnos Iechyd Meddwl i Blant’ Place2Be. Y thema eleni yw ‘Find your Brave’.
Mae ymchwil gan Place2Be yn awgrymu fod tri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth ym mhob ysgol gynradd yn profi problem iechyd meddwl, gyda llawer iawn mwy yn delio gyda thrafferthion o fwlio i brofedigaeth.
Wrth wneud sylw ar Wythnos Iechyd Meddwl i Blant a’r Thema ‘Find your Brave’, dywedodd Place2Be:
“Mae dewrder yn medru cael ei amlygu mewn amryw o ffyrdd, ac mae’n wahanol i bawb. Mae bod yn ddewr yn medru golygu rhannu straeon a gofyn am help, rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu wthio’ch hun y tu hwnt i’ch man cysur. Mae ‘Finding your Brave’ yn medru golygu adeiladu eich hyder, hunanwerth a’n gwneud i chi deimlo’n dda am eich hun.
“Mae bywyd yn aml yn taflu heriau atoch. Nid yw dewrder yn golygu ceisio ymdopi ar ben eich hun a chadw pethau i’ch hun. Mae’n ymwneud â chanfod ffyrdd newydd o wneud pethau sydd yn medru bod yn anodd, goresgyn heriau corfforol a meddyliol a gofalu am eich hun.
“Mae pawb ohonom yn cael cyfnodau pan y mae angen i ni geisio dod o hyd i’n dewrder.”
Roedd Place2Be wedi lansio’r Wythnos Iechyd Meddwl i Blant gyntaf erioed yn 2015 er mwyn amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc. Yn ei chweched flwyddyn erbyn hyn, mae’n yn ceisio annog mwy o bobl nag erioed i chwarae rhan a lledaenu’r gair.
P’un ai eich bod yn rhywun sydd yn gweithio gyda phlant, yn rhiant neu’n ofalwr, a’n angerddol am ledaenu’r gair, mae modd i chi chwarae rhan a chyrraedd cynifer o bobl ag sydd yn bosib.
Mae Place2Be yn elusen iechyd meddwl i blant sydd yn darparu cymorth cwnsela ac iechyd meddwl a hyfforddiant mewn ysgolion yn y DU, gan ddefnyddio dulliau sydd yn seiliedig ar ymchwil.
Y llynedd, roeddynt wedi gweithio gyda 639 o ysgolion yn Lloegr, yr Alban a Chymru, gan gyrraedd 364,080 o blant a phobl ifanc. Am fwy o wybodaeth am Place2Be a’r Wythnos Iechyd Meddwl i Blant, ewch i: https://www.childrensmentalhealthweek.org.uk/