Lansio astudiaeth er mwyn deall sgil-effaith COVID-19 ar iechyd meddwl

Mae Prifysgol Glasgow yn arwain astudiaeth newydd, mewn partneriaeth gyda’r Samariaid  a SAMH (Scottish Association for Mental Health), sydd yn ystyried sgil-effaith y pandemig COVID-19  ar iechyd meddwl a lles oedolion ar draws y DU.

Bydd yr astudiaeth yn ceisio deall sgil-effaith y pandemig, a’r mesurau digynsail sydd wedi eu cyflwyno ar draws y wlad o ran cadw pellter cymdeithasol, ar ddangosyddion iechyd meddwl fel gorbryder, iselder, unigrwydd, hunan-niwed neu les meddwl positif.

Mae gwyddonwyr wedi recriwtio 3,000 o oedolion ar draws y DU, a bydd y gwyddonwyr  yn dilyn eu hiechyd meddwl a’u lles – a’u profiad o  COVID-19 – dros y chwe mis nesaf a thu hwnt. Bydd hyn yn caniatáu ymchwilwyr i fonitro iechyd meddwl yn ystod, ac ar ôl y cyfnod o gyfyngiadau symud, ynghyd â’r hyn sydd yn helpu cadw iechyd meddwl pobl yn sefydlog o dan y fath amgylchiadau anodd.

Dywedodd yr Athro Rory O’Connor, o Sefydliad Iechyd a Lles Prifysgol Glasgow, sydd yn arwain yr astudiaeth: “Rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol, ac mae pobl yn ansicr o’r hyn sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol.

“Yn yr astudiaeth hon, rydym yn ceisio deall sgil-effaith seicolegol  COVID-19 ar oedolion ar draws y DU. Nid oes neb yn gwybod beth fydd sgil-effaith y pandemig, ond drwy ddilyn sampl cynrychioliadol,  byddwn yn ceisio cadarnhau pwy sydd yn fwyaf bregus a’r hyn sydd yn ein helpu ni gadw pobl yn ddiogel ac yn dda.”

Dywedodd Dr Elizabeth Scowcroft, Pennaeth Ymchwil gyda’r Samariaid: “Mae hwn yn ddarn hanfodol o ymchwil ar adeg eithriadol. Mae mor bwysig ein bod yn gwneud pob dim posib er mwyn ceisio deall sgil-effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a lles y boblogaeth.

“Yma yn y Samariaid, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir pan maent angen y fath gefnogaeth. A’r cam cyntaf er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd yw deall mwy am yr hyn y maent yn profi o ganlyniad i’r pandemig.

“Mae’n anrhydedd i gefnogi’r prosiect hwn a chydweithio ag ymchwiliwr er mwyn  dod o hyd i ganfyddiadau a fydd wedyn yn cael eu cyfieithu  i mewn i gamau go iawn ar gyfer y bobl sydd mewn angen.”

Dywedodd Billy Watson, Prif Weithredwr, SAMH: “Rydym wrth ein bod yn cefnogi’r darn pwysig hwn o ymchwil gyda nifer sylweddol o bobl yn yr Alban ac ar draws y DU.”

“Yn yr wythnosau diwethaf, mae pawb ohonom wedi bod yn ceisio delio gyda sgil-effaith y coronafeirws, ond mae’n hanfodol ein bod yn ystyried beth yw’r gwahaniaeth hirdymor y mae’n gwneud i les meddwl pobl yn yr Alban. Felly, rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil yma yn llywio  ein hymateb nawr ac yn y dyfodol fel bod modd i ni ddarparu’r gefnogaeth orau a mwyaf priodol.”

Bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio’r canfyddiadau er mwyn llywio polisi a phractis cyhoeddus, ac yn rhannu eu canfyddiadau gyda budd-ddeiliaid allweddol ac eraill, fel bod modd gweithio yn rhyngwladol i ddeall sgil-effaith COVID-19 ar les corfforol a meddyliol.