Mwy na thraean o oedolion yn y DU sydd yn gweithio llawn yn amser yn pryderi am golli eu swyddi

Mae mwy na thraean o oedolion yn y DU sydd yn gweithio llawn yn amser yn pryderi am golli eu swyddi  – wrth i bobl ddi-waith ddangos arwyddion o broblemau iechyd meddwl, a hynny yn ôl Astudiaeth Coronafeirws gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

  • Dywedodd mwy na thraen (34 y cant) o oedolion yn y DU a oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg ac mewn swyddi llawn amser eu bod yn pryderi am golli eu swyddi
  • Dywedodd un ym mhob pump (20 y cant) o bobl ddi-waith a oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg eu bod wedi meddwl am hunanladdiad o fewn y pythefnos diwethaf
  • Dywedodd un ym mhob 10 (11 y cant) o bobl ddi-waith sydd wedi profi straen yn ystod y pandemig nad oes dim wedi eu helpu hwy i ddelio gyda’r straen.

Mae mwy na thraean o oedolion yn y DU sydd yn gweithio llawn yn amser yn pryderi am golli eu swyddi, a hynny yn ôl data newydd gan astudiaeth sydd yn monitro’r risgiau a’r goblygiadau iechyd meddwl sydd yn deillio o’r pandemig.

Roedd yr ymchwil diweddaraf, a wnaed rhwng 24ain a’r 26ain Ebrill, wedi canfod fod un ym mhob pump  o oedolion di-waith (20 y cant) a oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg eu bod wedi meddwl a’n cael teimladau am hunanladdiad o fewn y pythefnos diwethaf. Mae hyn fwy nag dwywaith y gyfradd ymhlith oedolion y DU.

Dywedodd un ym mhob 10 (11 y cant) o bobl ddi-waith  sydd wedi profi straen yn ystod y pandemig nad oes dim wedi eu helpu hwy i ddelio gyda straen. Mae hyn fwy na dwywaith y gyfradd gyffredinol ymhlith oedolion y DU.

Canfyddiad arall o’r arolwg newydd yw bod traean o’r oedolion a oedd wedi cymryd rhan yn dweud eu bod yn poeni am eu sefyllfa ariannol, fel talu biliau a dyledion.

Mae data’r arolwg yn deillio o 4,246 o oedolion yn y DU sydd yn 18 mlwydd oed a’n hŷn, ac fe’i casglwyd fel rhan o brosiect ymchwil hydredol y DU a elwir yn Coronafeirws: Iechyd Meddwl yn ystod y Pandemig.

“Mae ein hymchwil yn dechrau datgelu sut y mae’r anghydraddoldebau ariannol a chyflogaeth  sydd wedi eu hachosi a’u gwaethygu gan y pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl  y bobl,” dywedodd  Cyfarwyddwr y Sefydliad Iechyd Meddwl Dr Antonis Kousoulis. “Mae yna dystiolaeth bryderus gennym fod miliynau o bobl yn y DU yn poeni am eu sefyllfa ariannol a sicrwydd o ran eu swyddi – ac mae’r ddau wedi eu cysylltu’n agos gydag iechyd meddwl gwael.

“Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig i gydnabod mai’r bobl hynny a oedd eisoes yn ddi-waith ar ddechrau’r pandemig  sydd wedi eu heffeithio yn fwyaf difrifol. Mae’n destun pryder fod mwy nag un ym mhob 10 person sydd yn ddi-waith ac wedi profi straen yn ystod y pandemig yn dweud nad oes dim byd wedi eu helpu i ddelio gyda’r argyfwng.

“Heb ymyrraeth bellach a chyflym gan lywodraeth y DU i wella’r sicrwydd economaidd a deimlir ymhlith pobl, rydym yn medru disgwyl bod pethau yn mynd i waethygu, yn enwedig ar gyfer y bobl dlotaf. Bydd yr anghydraddoldebau ariannol sydd yn arwain at gyfraddau cynyddol ac anghyfartal o afiechyd meddwl yn gwaethygu – a ni fydd y manteision o wella a lliniaru’r cyfyngiadau symud yn elwa pawb yn gydradd.”

Mae’r prosiect sydd yn monitro sut y mae’r pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl pobl yn ystod y pandemig  yn cael ei arwain gan y Sefydliad Iechyd Meddwl mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Caergrawnt, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Strathclyde a Phrifysgol Queen’s Belfast.

Mae’r arolwg diweddaraf yn gofyn i bobl am eu hiechyd meddwl a sut oeddynt wedi ymdopi  gyda’r pandemig dros y “ddwy wythnos flaenorol”.

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn galw ar y Llywodraeth i roi sicrwydd economaidd i bawb. Fel cam cyntaf, dylai’r taliadau Credyd Cynhwysol brys fod yn grantiau, gan ddileu’r angen i’w had-dalu dros y 12 mis canlynol.

Dywedodd yr Athro Ann John, Prifysgol Abertawe: “Rydym yn gwybod fod y goblygiadau o ran iechyd meddwl sydd yn deillio o golli swyddi neu ansicrwydd economaidd neu gyflogaeth, sydd yn cael ei waethygu gan bryderon ariannol am dai, gwresogi a bwyd, yn medru bod mor ddifrifol fel eu bod yn cyfrannu at ymdeimlad o anobaith. Efallai mai dyma’r hyn sydd yn esbonio’r  rhai hynny sydd yn ddi-waith yn coleddu syniadau am hunanladdiad.

“Nid ydym yn gwybod eto a fydd y pandemig  Covid-19 yn effeithio ar gyfraddau hunanladdiad ond rydym yn gwybod bod modd atal hunanladdiad os ydym yn cymryd camau nawr, a hynny’n hytrach nag aros i’r cyfraddau gynyddu. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cofio nad yw’r rhan fwyaf o bobl sydd yn meddwl am hunanladdiad  yn mynd ati i gyflawni hunanladdiad.

“Rydym yn gwybod na fydd goblygiadau’r pandemig ar iechyd meddwl yn gydradd ar draws ein cymdeithas  a rhaid i ymateb y llywodraeth adlewyrchu hyn. Mae angen cynnig sicrwydd ariannol yn y tymor byr, ond – wrth symud ymlaen – bydd angen cymryd camau economaidd fel polisïau  rhagweithiol yn y farchnad lafur.”

Mae’r holl ffigyrau, oni bai y nodir fel arall, yn cael eu darparu gan YouGov Plc. Maint y sampl oedd 4,246 o oedolion. Gwnaed y gwaith maes rhwng y 24ain a’r 26ain o Ebrill 2020. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigyrau wedi eu pwysoli  ac yn cynrychioli holl oedolion Prydain Fawr (yn 18 mlwydd oed a’n hŷn).

Mae’r Samariaid yn cynnig cefnogaeth emosiynol  24 awr y dydd – yn hollol gyfrinachol: ffoniwch ni am ddim ar 116 123 neu e-bostiwch jo@samaritans.org.uk