Cyfle newydd i sicrhau cyllid er mwyn gwella iechyd meddwl plant sydd â gweithiwr cymdeithasol

Mae What Works for Children’s Social Care (WWCSC) a’r National Institute for Health Research (NIHR) Health Service and Delivery Research Programme oll yn bles i gyhoeddi cyfle newydd i ariannu a gwerthuso ymyriadau er mwyn gwella ansawdd y gofal, y gefnogaeth a’r mynediad at wasanaethau i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd meddwl, sydd hefyd yn meddu ar weithiwr cymdeithasol.

Mae plentyndod a’r glasoed yn gyfnodau hanfodol pan ddaw hi at iechyd meddwl unigolyn. Mae profi afiechyd meddwl yn ystod plentyndod yn medru arwain at ganlyniadau hirdymor, gan gynnwys cyraeddiadau addysgol a chyfleoedd o ran swyddi. Mae ymchwil sydd wedi ei gynnal yn y DU a’n rhyngwladol yn dangos bod iechyd meddwl plant sydd mewn gofal yn waeth na’u cyfoedion. Fodd bynnag, ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â sut i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi, neu’n meddu ar weithiwr cymdeithasol a sut y mae eu hanghenion yn wahanol i anghenion eu cyfoedion.

Er mwyn gwella’r dystiolaeth sydd ar gael a chefnogi plant a phobl ifanc bregus, mae’r WWCSC a’r NIHR yn ariannu’r broses o gyflwyno a gwerthuso ymyriadau addawol. Bydd ymyriadau newydd ynghyd ag ehangu’r ddarpariaeth bresennol yn cael eu hystyried.

Mae WWCSC a’r NIHR yn frwdfrydig iawn i annog gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio yn y sector (sydd yn cynnwys ond heb ei gyfyngu, i weithwyr gofal cymdeithasol mewn awdurdodau lleol, CAMHS, partneriaid aml-asiantaeth eraill neu darparwyr yn y trydydd sector) ac ymchwilwyr i gyflwyno ceisiadau ar y cyd. Ma mwy o wybodaeth am y cyfleoedd i sicrhau cyllid ar y cyd, a’r gefnogaeth ychwanegol y mae WWCSC yn darparu er mwyn hwyluso’r prosiectau ar y cyd, ar gael ar wefan WWCSC.

Bydd y bartneriaeth yn ystyried ceisiadau am gyllid ar y cyd sydd yn ffocysu ar blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd meddwl sydd wedi, neu’n meddu ar weithiwr cymdeithasol. Bydd ceisiadau na sydd yn cynnwys plant sydd â phrofiad o ofal cymdeithasol ond yn cael eu hystyried am gyllid gan NIHR.

Dywedodd Louise Jones Cyfarwyddwr y Rhaglenni, What Works for Children’s Social Care:

“Mae’r bartneriaeth hon yn gyfle cyffrous i ni gydweithredu gyda NIHR ac i wneud ein gorau er mwyn sicrhau bod y cyllid a’r ymchwil yn elwa pobl ifanc sydd â gweithiwr cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd yn y sector, ymchwilwyr a gwerthuswyr ynglŷn â’r hyn sydd yn gwneud gwahaniaeth parhaus. ”

Dywedodd yr Athro Jo Rycroft Malone, Cyfarwyddwr Rhaglen a Chadeirydd Rhaglen Darparu Gwasanaethau ac ymchwil Cyflenwi (HS&DR), Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd:

“Mae plentyndod a’r glasoed yn hanfodol pan ddaw hi at iechyd a lles meddwl yr unigolyn, ac felly, rydym yn falch iawn i weithio gyda’r What Works for Children Social Care yn y fath faes pwysig. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ni i rannu arbenigedd o ran ymchwil a gwybodaeth ar draws ein mudiad.”