Gwnewch ein cymdogaeth yn fwy diogel a glân, medd pobl ifanc Prydain yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Gofodau naturiol mwy glân, diogel a lleol ynghyd â strydoedd mwy gwyrdd yw’r newidiadau sydd yn cael eu ffafrio fwyaf gan bobl ifanc rhwng 13 ac 19 er mwyn eu helpu i elwa yn fwy o natur, a hynny yn ôl ymchwil newydd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau ym Mhrydain –  78 y cant – nawr yn byw mewn ardaloedd trefol yn ôl yr ymchwil, gan olygu bod cyflwr dinasoedd a threfi yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau ac iechyd meddwl.

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn galw ar lywodraethau canolog a lleol, ynghyd â datblygiadau cynllunio lleol eraill, i flaenoriaethu gofodau ‘gwyrdd’ a phlannu planhigion mewn ardaloedd trefol a hynny er mwyn helpu pobl i gael mynediad at natur.

Dywedodd tua hanner y bobl ifanc a fu’n cymryd rhan fod treulio amser yn agos at natur yn gwneud iddynt deimlo’n well. Dywedodd 52% fod hyn yn “gwella eu hwyl” tra bod 49% o’r farn fod natur yn rhoi emosiynau positif iddynt gan gynnwys eu helpu i deimlo’n bwyllog, hapusrwydd, cyffrous a  rhyfeddod.

Gwnaed yr ymchwil hwn er mwyn dynodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a’r thema eleni yw Natur.

Pan ofynnwyd iddynt pa opsiynau a fyddai’n eu helpu i elwa o fyd natur, roeddynt yn fwy tebygol o ddewis gwelliannau i’w hamgylchedd lleol.

“Gofodau naturiol cyhoeddus o ansawdd gwell”, oedd y ffefryn ac fe’i dewiswyd gan 32 y cant o’r sawl a fu’n cymryd rhan tra bod 31 y cant wedi dweud “tyfu mwy o goed a phlanhigion ar hyd fy strydoedd”.

Roedd yr opsiwn “gwneud i’m gofodau/ardal agored leol i deimlo’n fwy diogel” yn ddewis cyntaf agos ac wedi ei ffafrio gan 30 y cant o’r sawl a fu’n cymryd rhan.

Roedd menywod ifanc (36 y cant) a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sydd yn cyfyngu ar yr hyn y maent yn gwneud  (40 y cant) yn fwy tebygol na dynion ifanc (25 y cant) o ddweud y byddai gwelliannau diogelwch yn helpu hwy elwa yn fwy o natur.

Roedd creu “mwy o barciau neu ofodau naturiol… yn agos ataf” cyn bwysiced, ac wedi ei ddewis gan 30 y cant o bobl ifanc.

Dywedodd 12 y cant arall bod “teimlo eu bod yn medru treulio amser ym myd natur heb ofn bod rhywun yn gwahaniaethu” yn eu helpu i elwa’n fwy o natur.

Cynhaliwyd yr arolwg o 2,399 o bobl ifanc ym Mhrydain ar-lein rhwng 9fed a’r 29ain Ebrill 2021.

Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – sydd yn cael ei gynnal rhwng 10fed a’r 16eg Mai – wedi ei gynnal gan y Sefydliad Iechyd Meddwl am yr un mlynedd ar hugain diwethaf.

Dywedodd Lucy Thorpe, Pennaeth Polisi yn y Sefydliad Iechyd Meddwl: “Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn y DU nawr yn byw mewn ardaloedd trefol. Mae hyn yn golygu bod cynghorau lleol yn yr ardaloedd yma yn medru helpu amddiffyn iechyd meddwl miliynau o bobl ifanc.

“Un o’r ffyrdd yr ydym yn gofyn iddynt wneud hyn yw drwy flaenoriaethu rhoi mynediad at natur i bobl ar y strydoedd ac yn y mannau lle maent yn byw, astudio a’n gweithio.

“Er enghraifft, dylai datblygiadau newydd orfod cynnwys coed, planhigion a mannau agored cyhoeddus lle y mae pobl yn medru eistedd a phrofi natur – a’n sicrhau eu bod yn lân, yn ddiogel ac yn croesawu pawb. Rydym hefyd am iddynt ddefnyddio egwyddorion Dylunio Cyffredinol er mwyn gwneud y parciau a’r mannau gwyrdd eraill yn hygyrch i bawb.

“Mae’r dystiolaeth yn glir: mae profi natur yn falm i’n hiechyd meddwl, nid oes ots pwy ydych. Mae treulio amser yn cysylltu gyda natur yn medru gwella’ch hwy a lleihau gorbryder ac iselder. Mae ein hymchwil yn awgrymu bod pobl yn gwybod hyn yn sgil eu profiadau, gan gynnwys yn ystod y  pandemig.

“Roeddem hefyd wedi canfod fod 75% o oedolion y DU yn cefnogi’r ffaith y dylai cynghorau lleol ‘gynnal a chadw mannau cadw heini cyhoeddus er mwyn sicrhau eu bod yn lân ac yn ddiogel’. Mae yna gefnogaeth gyhoeddus amlwg i’r cynghorau i weithredu ar hyn: diogelu a gwella’r mannau naturiol sydd gennym, gwella eu diogelwch, glendid a hygyrchedd ac ychwanegu atynt ar bob cyfle.

“O’r hyn y mae pobl ifanc wedi ei ddweud wrthym, byddai’r fath gamau hefyd yn gwneud gwahaniaeth pwysig iddynt, a’u gallu i dreulio amser mewn mannau naturiol, ac mae hawl ganddynt i elwa o hyn fel pawb arall.