Buddion iechyd meddwl o ymweld â choetiroedd y DU gwerth £185 miliwn

Mae ymweliadau i goetiroedd y DU yn rhoi hwb i iechyd meddwl ac yn arbed tua £185 miliwn mewn costau triniaeth yn flynyddol, a hynny yn ôl adroddiad gan  Forest Research.

Yr adroddiad, a gyhoeddwyd yn ystod ‘Wythnos Coed Cenedlaethol’ a’n cael ei ariannu gan y Comisiwn Coedwigaeth, Coedigaeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, yw’r ymgais gyntaf i roi swm wedi ei roi ar fuddion llesiant y coetiroedd yn y DU.

Ar gyfer Lloegr yn benodol, mae coetiroedd yn arbed £141 miliwn o gostau yn flynyddol sy’n gysylltiedig ag afiechyd meddwl, gan gynnwys ymweliadau gyda Meddygon teulu, presgripsiynau am gyffuriau, gofal sydd yn cael ei roi i gleifion mewnol, gwasanaethau cymdeithasol a’r nifer o ddiwrnodau sydd yn cael eu colli i broblemau iechyd meddwl. Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar dystiolaeth bod yna ostyngiad yn y nifer achosion o iselder a gorbryder ar ôl ymweld yn aml gyda’r coetiroedd.

Yn ystod y pandemig  coronafeirws, mae mynediad at goed, coedwigoedd a  ac amgylchedd naturiol eraill wedi dod yn fwy pwysig i unigolion er mwyn cefnogi a chynnal eu llesiant. O’r holl ymweliadau a wnaed i fannau gwyrdd dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o dir fferm i gefn gwlad ac i barciau a meysydd chwarae, roedd 14.1% of o’r rhain wedi ymweld gyda choedwigoedd.

Mewn ardaloedd trefol, mae coed a choetiroedd yn hanfodol ar gyfer cymunedau, cefnogi llesiant, lleihau llygredd a gwella ansawdd bywyd. Yn cefnogi hyn, mae’r adroddiad yn canfod fod gwerth coed ar strydoedd drwy osgoi costau gwrthiselyddion sydd yn ymwneud gyda phroblemau iechyd meddwl yn £16 miliwn.

Yn y tymor hir, mae’r adroddiad hefyd yn canfod fod gwerth hyn dros y 100 mlynedd nesaf ychydig dros £11 biliwn o ran y buddion iechyd meddwl a ddaw o ymweld gyda choedwigoedd, a  £1 biliwn pellach o ran buddion iechyd meddwl ar gyfer coed sydd ar y strydoedd.

Dywedodd Cadeirydd Comisiwn y Coedwigaeth, Syr William Worsley:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos pa mor hanfodol yw buddsoddi mewn iechyd a choetiroedd iachus. Mae’n gwneud synnwyr meddygol oherwydd mae’n golygu iechyd gwell i bawb; mae’n gwneud synnwyr economaidd drwy arbed miliynau o bunnoedd i’r gymdeithasol ac yn gwneud synnwyr amgylcheddol, yn help ni fynd i’r afael gyda newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Yn ystod yr Wythnos Coed Cenedlaethol, gadewch i ni gamu allan, mwynhau coed a chefn gwlad a gwerthfawrogi’r buddion a ddaw o fod yn agos at natur.”

Mae bron i hanner y boblogaeth yn dweud eu bod yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored na chyn y pandemig, tra bod y mwyafrif o bobl a fu’n cymryd rhan yn arolwg  Forest Research wedi cytuno bod eu lefel o hapusrwydd pan maent coetiroedd a byd natur yn cynyddu.

Darllenwch yr adroddiad ‘Valuing the mental health benefits of woodlands’ yma.