Mae’r diagram canlynol yn dangos dull modern i ddelio â salwch meddwl; mae ein gwefan yn canolbwyntio ar yr wyth maes, ac mae angen rhoi sylw i bob un ohonynt i sicrhau gwellhad llwyddiannus.
YR YMAGWEDD PERSON GYFLAWN I WELLA
Mae gweledigaeth fodern ar gyfer gwella yn seiliedig ar set o werthoedd craidd y gellid eu hystyried yn ganolog i ansawdd bywyd da. Trwy ddefnyddio gwerthoedd o’r fath, gellir darparu gwell ansawdd bywyd ar gyfer pobl sydd â salwch meddwl.
Ar y wefan hon rydym wedi nodi 8 elfen sydd gyda’i gilydd yn cwmpasu’n gynhwysfawr y meysydd pwysig ym mywyd unigolyn.
Argymhellir bod unigolion, a’r sawl sy’n gofalu amdanynt, yn ystyried yr holl elfennau er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol â’u hanghenion a helpu yn y broses o wella.
Nid fydd rhai pobl yng Nghymru sydd â salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr yn llwyddo i fanteisio’n llawn ar wasanaethau, yn bennaf gan nad yw’r gwasanaethau yn eu cynnwys, yn bodloni’u hanghenion fel y canfyddant hwy, nac yn eu trin â pharch. Dylai gwasanaethau newydd ddilyn eu gofynion trwy adlewyrchu’r gwerthoedd a’r materion sy’n bwysig i’r defnyddiwr a’r gofalwr. Byddai hyn yn gwneud y gofal yn fwy diogel, parhaus a chynhwysfawr.
Y gwerthoedd a nodir isod yw asgwrn cefn y materion allweddol sydd, ym marn pobl sydd â salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr, yn ganolog i’r gwaith o ddarparu unrhyw wasanaethau. O’u defnyddio wrth lunio a darparu gwasanaethau, bydd y gwerthoedd hyn yn darparu ansawdd, diogelwch a hyder cyhoeddus. O’u defnyddio mewn perthynas ag unigolion, byddant yn sicrhau gwell ansawdd bywyd sy’n cynnwys diogelwch, cael eu derbyn, a’r gallu i wella hyd eithaf eu gallu.
Y gwerthoedd allweddol yw:
- Urddas, parch a sensitifrwydd
- Dewis
- Gwybodaeth
- Y gallu i ddefnyddio gwasanaethau
- Cael llais yn y broses Gynllunio
- Cyfathrebu
- Ansawdd
- Diogelwch
- Ymatebolrwydd
- Adolygu
Gyda chefnogaeth lwyr i’r gwerthoedd hyn, byddant yn arwain at ddull cynhwysfawr o ddelio â gofal iechyd meddwl. Mae llwyddiannau gofal hyd yn hyn yn dibynnu ar y canlyniadau canlynol:-
- Defnyddwyr yn arwain cyn belled â phosibl wrth reoli eu salwch.
- Adnabod salwch meddwl yn gynnar ac ymyrryd yn gynnar.
- Asesiad cynnar a holistaidd o anghenion yr unigolyn.
- Gofal a chynhaliaeth wedi’u trefnu’n briodol, sy’n rhoi ystyriaeth i anghenion iechyd a chymdeithasol yr unigolyn.
- Adolygiadau holistaidd rheolaidd o’r cynnydd ac o’r holl anghenion gyda newidiadau wedi eu cytuno.
- Ymateb ar unwaith mewn argyfwng, 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn.
- Gwasanaethau anwahaniaethol, cynhwysfawr yn seiliedig ar waith tîm aml-ddisgyblaethol.
- Gwybodaeth gynhwysfawr.
- Cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, yn ôl dewis y cleient.
- Cynhalwyr ac aelodau eraill o’r teulu sy’n wybodus ac sy’n cael y gefnogaeth angenrheidiol.
- Llinellau cyfathrebu yn cysylltu pob agwedd ar ofal a chynhaliaeth.
- Gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gael.
- Gofal parhaus, gan gynnwys y defnydd posib o “flaen-gyfarwyddiadau”, sy’n nodi dymuniadau’r defnyddiwr os bydd ei gyflwr yn gwaethygu.