Roedd y cwrs Agored yn hynod ddefnyddiol. Yn gymdeithasol, rwy’n teimlo yn fwy integredig. Rwyf am ddefnyddio’r cwrs fel sylfaen i adeiladu fy hunan-hyder. Mae’n cynnig meincnod ar gyfer gosod amcanion ar gyfer fy nyfodol – Michael, Gogledd Cymru
Mae Hyfforddiant ac Addysg yn medru chwarae rhan allweddol yn eich adferiad; dyma agwedd o fywyd lle y mae modd i chi wyntyllu eich diddordebau, ail-ddysgu sgiliau sylfaenol megis llythrennedd neu rifedd a chyflawni’r amcanion hynny a fydd yn eich cynorthwyo i gael y swydd honno yr ydych yn dymuno.
- 1. Beth ydych am ei gyflawni?
Fel gyda phob rhan o’ch bywyd, dylech fod yn uchel-geisiol gyda ’ch canlyniadau ar gyfer y tymor hir, yn ogystal â nodi unrhyw anghenion nad ydynt yn cael eu bodloni ar hyn o bryd. I lawer o bobl, efallai mai’r nod fydd cyrraedd targedau addysg a hyfforddiant cyffredinol neu sy’n gysylltiedig â gyrfa, boed hynny’n arwain at gymhwyster ffurfiol neu beidio.
Os ydych chi eisoes ar gwrs astudiaeth (e.e. yn yr ysgol neu’r coleg), efallai mai eich nod fydd parhau i astudio neu ailgychwyn. Efallai yr hoffech chi archwilio gwahanol ffyrdd o ddysgu: gallech ddewis astudio amser llawn neu ran amser; cael cefnogaeth arbenigol; defnyddio pecynnau dysgu o bell (fel y Brifysgol Agored); neu ddefnyddio cyfleoedd addysg a hyfforddiant i oedolion yn y gymuned.
Efallai mai eich prif nod fydd cael cymhwyster penodol fydd yn cefnogi eich diddordebau neu yn eich helpu i gael gwaith. Os ydych chi eisoes mewn gwaith cyflogedig, gallech geisio trafod gyda’ch cyflogwr pa hyfforddiant fydd o fudd i chi yn eich gwaith, ac a fyddent yn fodlon ariannu unrhyw hyfforddiant neu roi amser i chi ei wneud. Mae cyrsiau ar gael hefyd sy’n eich galluogi i ennill sgiliau bywyd, sgiliau cymdeithasol neu sgiliau i reoli eich adferiad.
Nid oes raid i chi fynd ar gwrs ffurfiol i ddechrau dysgu: os nad ydych chi’n anelu at gael cymhwyster yna gallech ddysgu eich hun drwy ddarllen, defnyddio’r rhyngrwyd a defnyddio eich llyfrgell leol ac yn y blaen.
2. Pam gamau sydd angen eu cymryd neu wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich helpu i gyflawni eich amcanion?
Nesaf, ewch ati i feddwl am ba gamau yr ydych angen eu cymryd er mwyn cyflawni eich amcanion a pha wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich cynorthwyo chi.
Gwasanaethau posibl:
● Gwasanaeth cynghori gyrfaol
● Gwasanaeth addysg o ysgolion, colegau neu brifysgolion
● Gwybodaeth a chyngor gan eich Awdurdod Addysg Lleol
● Cyngor ariannol e.e. gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Camau posibl:
● Adnabod eich sgiliau a’ch diddordebau
● Siarad â’ch cyflogwr am opsiynau hyfforddiant
● Trafod eich targedau addysg/hyfforddiant gyda chyn ghorydd gyrfaoedd
● Trafod y gefnogaeth y gallech chi ei gael i aros mewn addysg gyda’ch darpar wr addysg presennol (e.e. ysgol neu goleg)
● Dod o hyd i, a chysylltu â, darparwyr addysg fel colegau addysg bellach
● Ymchwilio pa gyrsiau sydd ar gael
● Ymchwilio i becynnau dysgu o bell
● Dod o hyd i addysg gymunedol
● Cael hyfforddiant mewn sgiliau bywyd megis rheoli eich iechyd meddwl eich hun
● Cofrestru ar gwrs astudiaeth
● Cael benthyciad neu grant myfyriwr
● Cael gafael ar wasanaethau cefnogi dysgu arbenigol
● Mynd ati i ddysgu eich hun drwy ddefnyddio eich llyfrgell leol n eu’r rhyngrwyd.
3. Pwy sydd yn medru eich cefnogi i gyflawni eich amcanion?
Mae eich Awdurdod Addysg Lleol yn ffynhonnell wybodaeth a chefnogaeth bwysig a gallant roi cyngor i chi am y cyfleoedd addysg/hyfforddiant sydd ar gael yn lleol. Gall eich Cynghorydd Gyrfaoedd hefyd drafod opsiynau hyfforddiant gyda chi.
Mae cefnogwyr eraill yn cynnwys:
● Athrawes/Athro
● Coleg/Prifysgol leol
● Y Brifysgol Agored
● Cyllid Myfyrwyr Cymru
● Canolfan Ddysgu Genedlaethol Hafal
● Gyrfa Cymru
a/neu
● Aelod o’r teulu a/neu ofalwr arall
● Cydlynydd Gofal
● Chi!
Mae mwy o adnoddau a dolenni ar gael ar Addysg a Hyfforddiant
● Mae gwybodaeth am ysgolion Cymru ar gael yma http://mylocalschool.wales.gov.uk/
● Dechrau da os ydych am chwilio am gyrsiau galwedigaethol yw Gyrfaoedd Cymru http://www.careerswales.com/en/ – cliciwch ar yr adrannau Swyddi a Hyfforddiant ac Addysg a Chyrsiau
● Mae modd canfod manylion am yr holl Golegau Addysg Bellach yng Nghymru yma http://www.collegeswales.ac.uk/en-GB/home-1.aspx
● Mae manylion am Brifysgolion Cymru ar gael yma http://www.whatuni.com/degrees/university-colleges-uk/university-colleges-wales/71/1/universities.html
● Y Brifysgol Agored yng Nghymru http://www.open.ac.uk/wales/
Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)