“Mae gweithio yn cynnig llawer iawn o fanteision – yn ogystal â chyflog. Mae’n medru rhoi pwrpas ac ystyr a lleihau ymdeimlad o fod ar ben eich hun. Mae canfod gwaith yn medru bod yn anodd ond nid yn amhosib; pan yn chwilio, edrychwch am waith sy’n gweddu i’ch sgiliau, ffordd o fyw ac uchelgais. Yn fwy na dim, ceisiwch fynd ati i sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn gyffredinol fel eich bod yn gwneud pob dim posib i hyrwyddo eich adferiad.” Dave Smith
Mae gweithio yn medru cael effaith sylweddol ar ansawdd eich bywyd. Mae gweithio yn medru cynnig urddas a pharch ynghyd ag annibyniaeth ariannol.
- 1. Beth ydych am ei gyflawni?
Os ydych chi mewn oed gweithio efallai mai’r targed ar gyfer y tymor hir fydd dod o hyd i waith neu aros mewn gwaith cyflogedig amser llawn neu ran amser. Fel arall, gallech osod targed o gymryd rhan mewn gweith-gareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, fel gwirfoddoli.
Mae sawl opsiwn posib os hoffech chi ddychwelyd i weithio. Gallech ddewis gweithio amser llawn neu ran amser, a chael cymorth arbenigol i’ch cynnal yn eich gwaith. Gallech hefyd ddefnyddio gwasanaeth cyflogi arbenigol fel prosiect cyflogi neu gynllun gwaith â chymorth, neu fanteisio ar wasanaethau therapi galwedigaethol.
Os ydych chi eisoes mewn gwaith gallech osod targedau ar gyfer dychwelyd i weithio neu aros gyda’ch cyflogwr presennol. Gallwch ofyn i’ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol, gan ddefnyddio eich hawl dan y ddeddfwriaeth cydraddoldeb.
Gallai targedau eraill gynnwys bod yn hyfforddai neu’n brentis neu sefydlu eich busnes eich hun.
2. Pam gamau sydd angen eu cymryd neu wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich helpu i gyflawni eich amcanion?
Nesaf, ewch ati i feddwl am ba gamau yr ydych angen eu cymryd er mwyn cyflawni eich amcanion a pha wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich cynorthwyo chi.
Gwasanaethau posibl:
● Prosiect cyflogaeth/cynllun gwaith â chymorth
● Therapi galwedigaethol
● Y Ganolfan Byd Gwaith
● Cyngor, arweiniad a gwybodaeth gan asiantaeth fel Cyngor ar Bopeth.
Camau posibl:
● Cofrestru gyda’ch Canolfan Byd Gwaith leol neu gydag asiantaeth recriwtio
● Chwilio am swyddi ar lein neu yn y papur newydd
● Ysgrifennu CV a cheisiadau swydd
● Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
● Siarad â rhywun am sut y gallai cyflogaeth effeithio ar eich budd-daliadau
● Clustnodi’r gefnogaeth y byddwch chi ei angen i aros mewn gwaith
● Canfod pa hyfforddiant neu addysg allai eich helpu i gael gwaith
● Dod o hyd i gyfleoedd fel hyfforddai neu brentis
● Trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai eich cyflogwr ei wneud i’ch helpu
● Siarad â chynghorydd Cyngor ar Bopeth am sut y gallai cyflogaeth effeithio ar eich budd-daliadau
● Cael cyngor am sefydlu busnes .
3. Pwy sydd yn medru eich cefnogi i gyflawni eich amcanion?
Gall eich cangen leol o’r Ganolfan Byd Gwaith roi amrywiaeth o gefnogaeth i chi i’ch helpu i ddod o hyd i waith.
Mae cefnogwyr eraill yn cynnwys:
● Cyflogwr
● Gwasanaeth cyflogi arbenigol
● Therapydd galwedigaethol
● Cydweithwyr
● Cyngor ar Bopeth
● Gwirfoddoli Cymru
● Cyswllt Busnes Cymru
● Gyrfa Cymru
● Ymddiriedolaeth Shaw Trust/Remploy
a/neu
● Aelod o’r teulu a/neu ofalwr arall
● Cydlynydd Gofal
● Chi!
Mae mwy o adnoddau a dolenni ar gael yn Gwaith a Galwedigaeth
● Gyrfaoedd Cymru yw’r lle gorau i gychwyn: http://www.careerswales.com/en/ – gwybodaeth helaeth ar bob agwedd o waith yng Nghymru (nid oes llawer o wybodaeth ar y safle am unrhyw swyddi gwag ac eithrio cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc)
● Universal Jobmatch yw’r fersiwn ddiweddaraf o’r rhestr o swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu gan y Ganolfan Byd Gwaith https://www.gov.uk/jobsearch
● Mae swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu ar Wales on Line (Western Mail) i’w gweld yma http://www.jobswales.co.uk/
● Mae safle Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru http://www.volunteering-wales.net/
● Ewch i ddarllen ein hadran ar Addysg a Hyfforddiant
Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)