Mae iechyd yn fater o les corfforol, meddyliol a chymdeithasol ac yn llawer mwy nag absenoldeb clefyd neu lesgedd – Sefydliad Iechyd y Byd 1948
Mae iechyd corfforol yn aml yn cael ei ddiystyru wrth ofalu am rywun sydd â salwch meddwl. Dylid rhoi sylw arbennig i faterion gofal sylfaenol fel problemau deintyddol ac anadlol. Mae gofal cychwynnol, eilaidd a thrydyddol yn hawl i rywun sy’n dioddef salwch meddwl.
“Pan oeddwn yn sâl, roedd yn anodd i mi ofalu am fy lles corfforol. Un o’r agweddau pwysicaf o’m hadferiad oedd dysgu sut i aros yn iach yn gorfforol, gan gynnwys bwyta diet iachus a chadw’n heini. Nawr bod fy iechyd corfforol yn fwy iach, mae fy iechyd meddwl yn llawer gwell hefyd.” Mair Elliott
Y nod hirdymor i lawer o bobl yw sicrhau eu bod yn hollol heini ac iachus, yn weithgar yn gorfforol, yn mwynhau diet da, osgoi ysmygu ac yfed gormod o alcohol, a rheoli pwysau’r corf.
- 1. Beth ydych am ei gyflawni?
Mae’n bwysig peidio esgeuluso eich iechyd corfforol pan fyddwch chi’n derbyn gofal a thriniaeth ar gyfer afiechyd meddwl. Fodd bynnag, mae cynnal a gwella eich iechyd corfforol yn rhan hanfodol o’ch adferiad a gall hefyd weithio yn erbyn sgil-effeithiau meddyginiaethau gwrth- seicotig (fel ennill pwysau, cynnydd yn y risg o glefyd siwgr (diabetes) a phroblemau calon).
Efallai mai eich canlyniad penodol chi fydd cael gwell diet, rhoi’r gorau i ysmygu, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a lleihau faint o alcohol y byddwch chi’n ei yfed neu faint o gyffuriau anghyfreithlon y byddwch chi’n eu cymryd. Os ydych chi’n wael iawn, efallai y bydd rhai materion sylfaenol yr hoffech chi fynd i’r afael â nhw, megis cadw’n lân, bwyta’n gall a chymryd gofal ohonoch eich hun yn gyffredinol. Dylech hefyd feddwl am dargedau fydd yn lleihau effaith problemau corfforol, fel anableddau, diffyg symudedd neu reoli poen, ar eich iechyd meddyliol.
2. Pam gamau sydd angen eu cymryd neu wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich helpu i gyflawni eich amcanion?
Nesaf, ewch ati i feddwl am ba gamau yr ydych angen eu cymryd er mwyn cyflawni eich amcanion a pha wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich cynorthwyo chi.
Gwasanaethau posibl:
● Cyngor a thriniaeth gan eich Meddyg Teulu/Nyrs y Practis
● Clinigau Dynion/Merched Iach yn eich meddygfa leol
● Gwasanaethau cefnogi er mwyn rhoi’r gorau i ysmygu, lleihau faint o alcohol y byddwch yn ei yfed ac yn y blaen
● Archwiliadau deintyddol/golwg
Camau posibl:
● Cofrestru gyda Meddyg Teulu
● Paratoi ar gyfer eich apwyntiad gyda’r Meddyg Teulu drwy wneud rhestr o’r pethau yr hoffech chi eu trafod, megis rhoi’r gorau i ysmygu, ymarfer corff a rheoli cyflyrau corfforol
● Cael cyngor a gwybodaeth am fyw’n iach
● Ysgrifennu cynllun bwyta’n iach ac ymarfer corf
● Cymryd camau tuag at wella eich gofal personol drwy fwyta ac ymolchi’n rheolaidd, ac ati.
● Ymuno â champfa leol
● Ymuno â grðp rhoi’r gorau i ysmygu
● Cofrestru a gwneud apwyntiad gyda deintydd/optegydd
● Cael cefnogaeth i leihau eich defnydd o alcohol/cyffuriau
● Cael cyngor am iechyd rhywiol
● Trafod sgil-effeithiau corfforol eich meddyginiaeth gwrth-seicotig gyda’ch Meddyg Teulu.
3. Pwy sydd yn medru eich cefnogi i gyflawni eich amcanion?
Eich Meddyg Teulu a Nyrs y Practis yw’r prif weithwyr iechyd proffesiynol all eich helpu i gyrraedd eich targedau ar gyfer gofal personol a lles corfforol.
Mae cefnogwyr eraill yn cynnwys:
● NHS Direct
● Gwasanaethau alcohol a chyffuriau (camddefnyddio sylweddau)
● Dim Smygu Cymru
● Gwasanaeth hyrwyddo Iechyd
● Hyfforddwr Campfa/Gym
a/neu
● Aelod o’r teulu a/neu ofalwr arall
● Cydlynydd Gofal
● Chi!
Mae mwy o adnoddau a dolenni ar gael ar Iechyd Corfforol
● I gofrestru gyda Meddyg Teulu, ewch yn syth i’r feddygfa ac mi fyddant yn eich helpu
● Os ydych am chwilio pa feddygfeydd sydd yn eich ardal chi, defnyddiwch y ddolen ganlynol http://www.wales.nhs.uk/ourservices/directory
● Er mwyn chwilio am ddeintydd, defnyddiwch yr un ddolen a ddefnyddir wrth chwilio am Feddyg Teulu- http://www.wales.nhs.uk/ourservices/directory
● Efallai y byddwch yn cael trafferth chwilio am ddeintydd GIG – gofynnwch i’ch Bwrdd Iechyd GIG lleol am help drwy ddefnyddio’r un ddolen
● Defnyddiwch yr un ddolen http://www.wales.nhs.uk/ourservices/directory er mwyn chwilio am optegydd – cofiwch fod modd i chi gael prawf llygad yn rhad ac am ddim mewn rhai llefydd megis Tesco
● Mae adnoddau i roi’r gorau i ysmygu ar gael yma http://www.stopsmokingwales.com/home
● Mae cyngor ar alcohol ar gael yma http://www.drinkwisewales.org.uk/ ac yma http://www.alcoholconcern.org.uk
● Mae cyngor ar gyffuriau ar gael yma http://www.drugaidcymru.com/ ac yma http://drugscope.org.uk/