“Roeddwn yn ei chael hi’n anodd i gymryd meddyginiaethau gwrth-seicotig a sefydlogi hwyl o ganlyniad i’w sgil-effeithiau. Roeddwn wedi llwyddo i gael cyngor ar sut i reoli’r rhain ac roedd adolygiad o’r meddyginiaeth wedi helpu’n fawr.” Melvyn Travenen
Mae sicrhau eich bod yn derbyn y driniaeth gywir yn medru cael effaith sylweddol ar eich adferiad. I lawer o bobl, efallai mai’r nod yw gwella’n llwyr fel nad oes angen i chi ddefnyddio meddyginiaeth neu ffurfiau eraill o driniaeth. I eraill, efallai mai’r nod hirdymor yw canfod lefel isaf posib o driniaethau sydd yn effeithiol.
- 1. Beth ydych am ei gyflawni?
Gan fod meddyginiaeth a therapïau eraill yn dod ynghyd yn yr un “rhan o fywyd” yma yn y Cynllun, bydd angen i chi ofalu bod unrhyw driniaethau anfeddygol – gan gynnwys therapi seicolegol – yn cael ei gynnwys. Gall therapïau seicolegol fod yn bwysig iawn i nifer o bobl gydag afiechyd meddyliol difrifol, ond gallant hefyd fod yn anodd cael gafael arnynt. Ein cyngor ni yw eich bod yn gofalu bod unrhyw angen am therapïau seicolegol yn cael ei gofnodi yn y Cynllun Gofal a Thriniaeth – a bod therapïau seicolegol yn cael eu cadw ar yr agenda rhag ofn i unrhyw angen godi yn y dyfodol.
Os oes angen meddyginiaeth arnoch chi, ein cyngor ni yw eich bod yn ystyried ei effeithiolrwydd, y sgil-effeithiau ac unrhyw faterion yn ymwneud â rheoli wrth i chi drafod eich opsiynau gyda’ch meddyg. Os ydych chi’n cymryd meddyginiaethau gwrth-seicotig hþn, mae’n bosib y bydd sgil-effeithiau eich meddyginiaeth yn fater pwysig i’w drafod. Un enghraifft o ganlyniad posibl yw lleihau sgil-effeithiau eich meddyginiaeth drwy geisio meddyginiaethau newydd neu leihau’r dos. Rydym yn credu’n gryf ei bod werth gwneud ymdrech ychwanegol i reoli meddyginiaeth os bydd yn gweithio’n well i chi (er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gael profion gwaed gyda rhai meddyginiaethau).
2. Pam gamau sydd angen eu cymryd neu wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich helpu i gyflawni eich amcanion?
Nesaf, ewch ati i feddwl am ba gamau yr ydych angen eu cymryd er mwyn cyflawni eich amcanion a pha wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich cynorthwyo chi.
Gwasanaethau posibl:
● Cyngor ac arweiniad am feddyginiaeth gwrth-seicotig neu therapiau seicolegol gan weithiwr iechyd proffesiynol
● Gwasanaeth therapi seicolegol.
Camau posibl:
● Gofyn i’ch meddyg pa therapiau seicolegol sydd ar gael a defnyddio eich hawl i ddewis
● Cael gafael ar wybodaeth am therapiau seicolegol, neu siarad â’ch meddyg amdanynt
● Trefnu apwyntiad gyda’ch meddyg i adolygu eich meddyginiaeth
● Cael gafael ar wybodaeth am feddyginiaethau gwrth-seicotig neu siarad â fferyllydd amdanynt
● Dewis therapydd seicolegol preifat
● Gofyn am feddyginiaeth wahanol, gan ystyried effeithiolrwydd, sgil-effeithiau a gofynion rheoli
● Trefnu i gael adolygu eich meddyginiaeth yn rheolaidd
● Archwilio ffyrdd o reoli eich meddyginiaeth yn well e.e. drwy ddatblygu strategaeth ar gyfer cofio cymryd eich meddyginiaeth
● Cael mwy o wybodaeth am therapiau amgen.
3. Pwy sydd yn medru eich cefnogi i gyflawni eich amcanion?
Y brif bobl all gynnig cefnogaeth i chi yn y maes hwn yw eich Seiciatrydd, Meddyg Teulu, Nyrs, Seicolegydd a Ffisiotherapydd.
Mae cefnogwyr eraill yn cynnwys:
● Nyrs seiciatrig gymunedol
● Cynghorydd/Cwnselydd
● Fferyllydd
● Therapydd amgen
a/neu
● Aelod o’r teulu a/neu ofalwr arall
● Cydlynydd Gofal
● Chi!
Mae mwy o adnoddau a dolenni ar gael ar Trinaethau Meddygol a Thriniaethau Eraill
Yn ychwanegol at ganllaw Hafal am driniaethau (gweler y ddolen uchod), efallai eich bod am edrych ar y canlynol…
● Mae gwybodaeth gynhwysfawr gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion am driniaethau; mae modd mynd drwy restr o’r hyn sydd ar gael yma http://www.rcpsych.ac.uk/healthadvice/treatmentswellbeing.aspx
● Canllaw Rethink ar driniaethau http://www.rethink.org/diagnosis-treatment?gclid=CJnnmY-o08gCFaQIwwodRy8LIw
● Canllaw Mind ar driniaethau http://www.mind.org.uk/information-support/drugs-and-treatments/
● Am bersbectif gwahanol, ewch i fwrw golwg ar y wybodaeth ganlynol gan gydweithwyr Americanaidd Hafal, https://www.nami.org/Learn-More/Treatment – ond cofiwch fod y wybodaeth hon yn benodol i Unol Daleithiau America
Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)