Yr Ymagwedd

Llety
Gallwch ddewis i:
• Rheoli’ch llety eich hun heb gefnogaeth
• Rhannu’ch cartref gyda chefnogaeth
• Byw yn eich cartref eich hun gyda chefnogaeth
• Byw mewn llety wedi’i rannu gyda chefnogaeth
• Aros mewn llety gefnogaeth arbenigol 24-awr
• Aros mewn ysbyty

Mae anghenion a dewisiadau llety pawb yn debygol o newid dros amser, wrth i’w amgylchiadau newid. Os oes gennych afiechyd meddwl difrifol, fe fydd gennych anghenion arbennig ar adegau penodol, sydd yn debygol o feddwl bod angen arnoch rhyw fath o gefnogaeth. Fe fydd hefyd adegau pryd fyddai’n well ganddoch chi i fyw yn annibynol, nail ai ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill. Efallai mai hyn yw eich prif nodyn eich cynllun adferiad. Mae yna gwasanaethau a dewisiadau gwahanol ar gyfer pob un o’r cyfnodau hyn, a rhoddir isod mwy o wybodaeth arnynt.

  1. Rheoli eich cartref eich hun heb gefnogaeth
  2. Rhannu cartref gyda theulu, partner neu ffrindiau
  3. Byw yn eich cartref eich hun, gyda chefnogaeth
  4. Byw mewn llety wedi’i cynorthwyo
  5. Aros mewn ysbyty

1. Rheoli eich cartref eich hun heb gefnogaeth

Beth mae hyn yn golygu?

Bywyd annibynnol mewn tŷ eich hun neu tŷ wedi’i rhentu.

Darganfyddwyd ymchwil ddiweddar gan Hafal o bobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr bod 47% o ddefnyddwyr gwasanaethau yn byw ar eu pen eu hun.

Beth allai wneud?

• Prynu rhywle’n annibynnol
• Prynu gyda theulu, partner neu ffrindiau
• Prynu gyda chymdeithas llety
• Rhentu rhywle’n annibynnol
• Rhentu rhywle drwy eich awdurdod lleol (tŷ cyngor)

Beth ddylwn i wybod?

Mae byw ar eich pen eich hun yn golygu fedrwch fod yn annibynnol, on fe all fod yn unig. Hefyd, fe fydd rhaid i chi wneud y gwaith tŷ a chynhaliaeth i gyd, a fel arfer mae’n fwy ddrud oherwydd chi yn unig sy’n gyfrifol am y costau i gyd. Fodd bynnag, fe all byw ar eich pen eich hun fod yn heddychlon, a roddir llawer o ryddid i chi hefyd.

Prynu eich cartref

Dyma’r ddewisiad ddrytaf ond os rydych yn medru ei fforddio, fe fydd ganddwch mwy o ddewis ynglŷn â ble a sut rydych yn byw. Fe fyddwch yn gyfrifol am gynhaliaeth ond cewch ryddid i fyw fel yr hoffech chi, ac fe fyddech yn berchen ar eich cartref.

Morgais yw benthyciad a ddefnyddir i brynu tŷ neu fflat. Trefnir drwy banc neu gymdeithas adeiladu, a chaiff y benthyciad ei ‘sicrhau’ ar yr eiddo a brynwyd. Mae hyn yn golygu y gallwch chi golli’ch tŷ neu fflat os nad ydych yn cynnal yr ad-daliadau, neu os dorrwch unrhyw derm arall o’r morgais. Fel arfer fydd angen arnoch incwm rheolaidd er mwyn ceisio am forgais, ac fe fydd y swm y fedrwch benthyg yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. Wedyn, fe fydd gennych fenthyciad mawr i dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer 25 mlynedd.

Mae’n bwysig i:-

• siopa o gwmpas am forgais
• sicrhau annibynniaeth unrhyw gyngor rydych yn derbyn
• weithio allan faint fedrwch fforddio i fenthyg
• actio’n gyflym os ddechreuwch chi i gwympo’n ôl gyda’r ad-daliadau

Cysylltiad i’r adran ar arian am fwy o wybodaeth

Gweler hefyd: http://www.direct.gov.uk/cy/MoneyTaxAndBenefits/ManagingMoney/Mortgages/index.htm

Mae prynu gyda Chymdeithas Llety yn golygu eich bod yn rhannu perchnogaeth eich cartref gyda’r Cymdeithas Llety. Fe fedrwch brynnu rhan fwy o’ch cartref nes ymlaen. Fe fydd angen ar y ran fwyaf o bobl forgais i brynu’u rhan o’r tŷ neu fflat.

Er mwyn prynu cartref fel hyn, gallwch wneud cais gyda’r Cymdeithas Llety yn uniongyrchol, neu cael eich enweb gan yr awdurdod lleol. Wedyn, fe ymunwch â rhestr aros, a gall fod yn hir iawn mewn rhai ardaloedd. Fe gewch blaenoriaeth os:-

• ydych yn ddi-gartref
• mae’ch cartref presenol yn rhy fach, neu’n anaddas i fyw ynddo
• oes gennych gyflwr meddygol difrifol
• oes rhaid i chi fod yn agos i’ch teulu

Cliciwch yma am restr o’r Cymdeithasau Llety yng Nghymru, cysylltiadau llywodraethol a chanolfannau cyngor.

Rhentu eich cartref

Fel arfer mae rhentu oddi wrth landlord preifat yn meddwl bod gennych mwy o ddewis dros ble rydych yn byw, ond mae’n debyg i fod yn ddrytach na rhentu oddi wrth gyngor neu Cymdeithas Llety. Yn aml nid ydynt yn derbyn pobl ar fudd-daliad llety ac mae’n debyg y fydd rhaid i chi roi blaendal (deposit) a blaendalu o leiaf rhent un mis (in advance).

Mae’r rhan fwyaf o denantiaethau yn para am 6 neu 12 mis, ac fe fydd ymestyniad eich hawliau yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych. Gweler isod esboniad byr o’r mathau o denantiaethau sydd ar gael, fe all gweithio allan p’un sy’n addas i chi fod yn gymhleth. Os nad ydych yn siwr, neu rydych yn cael problemau, fe fydd angen arnoch gyngor oddiwrth mudiad fel Shelter (http://www.sheltercymru.org.uk ), neu eich swyddfa leol Cyngor Ar Bopeth (http://www.adviceguide.org.uk/CY/wales.htm ).

Heb ystyried y fath o denantiaeth sydd gennych, fe fydd nifer o orfodaethau sylfaenol arnoch chi a’ch landlord, fel:-

• Mae’n rhaid i chi edrych ar ôl eich llety
• Rhaid i’ch landlord sicrhau bod pethau sy’n delio â dŵr, nwy, trydan, glanweithiau a chynhesi (dŵr a gwagleoedd) yn gweithio
• Rhaid i’ch landlord alluogi chi i fyw yn eich cartref mewn heddwch

Os ydych yn lletywr, yn rhannu’ch cartref gyda’ch landlord heb wagleoedd byw (e.e. cegin neu ystafell ymolchi), mae’n debyg eich bod yn breswylydd gydag ammdiffyniad sylfaenol. Os rydych yn rhannu’ch cartref, yn cynnwys gwagle byw gyda’ch landlord, mae’n debyg eich bod yn breswylydd eithriedig. Mae’r ddau yn darparu hawliau cyfyngedig yn unig, ac fe gallwch gael eich troi allan yn hawdd.

Os nad ydych yn rhannu gyda’r landlord, ac yn rheoli pwy sy’n dod i mewn i’ch cartref (a symudoch chi i fewn ar ôl 27fed Chwefror 1997), fe fyddwch yn denant deiliadaeth fer aswiriedig. Mae hyn yn golygu fod gennych hawl gyfreithiol i fyw yn eich cartref am adeg o amser, ac mae gennych yr hawl i:-

• Wybodaeth ynglŷn â’ch denantiaeth
• Reoli eich cartref fel y gallech rwystro pobl eraill rhag gael mynediad iddo
• Cael atgyweiriadau wedi’u gwneud
• Byw yn eich llety oni bod eich landlord yn cael gorchymyn y llys i’ch droi allan

Os rydych yn y sefyllfa hon, ond symudoch chi i fewn cyn 27fed Chwefror 1997, a wnaeth eich landlord ddim ysgrifennu atoch i ddweud y fyddwch yn dod yn denant deiliadaeth fer aswiriedig, fe fyddwch yn debyg i fod yn denant aswiriedig, sydd yn rhoi mwy o hawliau iddoch. Yn ogystal â’r rhai uchod, fedrwch:-

• Herio unrhyw gynnydd yn y rhent
• Pasio’ch denantiaeth ymlaen i bobl eraill mewn amodau arbennig

Mae hefyd yn fwy anodd i droi denant aswiriedig allan.

Fe all unrhyw un o’r denantiaethau uchod fod yn denantiaeth term gosodedig, ble rydych yn aros am amser gosodedig, fel 6 mis, neu denantiaeth cyfnodol, ble mae’n rolio ymlaen am wythnos neu mis ar y pryd.

Yn ogystal ag unrhyw orfodaethau a hawliau gyfreithol sydd gennych chi a’ch landlord, gallwch hefyd arwyddo cytundeb denantiaeth ysgrifenedig gyda’ch landlord, ag all gynnwys:-

• Eich enwau a chyfeiriad y tŷ neu fflat
• Y rhent – pa mor aml y caiff ei dalu a sut, a phryd fedra’r landlord ei gynyddu
• Hyd y denantiaeth a faint o rybudd sy raid ei roi gan unrhyw un ohonoch os penderfynwch i ddod â’r denantiaeth i ben

Dylai’r cytundeb gael ei arwyddo ganddoch chi a’ch landlord, a dylech chi’ch dau gadw gopi. Er nad yw cael cytundeb denantiaeth ysgrifenedig yn gyfraith, rhaid i’r landlord roi ei gyfeiriad i chi. Os dalwch flaendal, gofynnwch am daleb a gwnewch yn siwr fod gennych nod o’r rhent rydych yn talu, e.e. llyfr rhent y bydd y landlord yn arwyddo pob tro rydych yn talu.

Mae rhentu tŷ neu fflat ‘cyngor’ odd iwrth Landlord Cymdeithasol wedi’i Cofrestri (LCC)yn debyg i fod yn ratach na rhentu oddi wrth landlord preifat, ac nid oes rhaid talu blaendal. Fel arfer mae LCC yn nail ai yn awdurdod lleol neu yn gymdeithas llety, ac maent hefyd yn derbyn budd-dâl llety ond nid oes llawer o lefydd ar gael, ac mae yna restrau aros hir.

Fe fydd rhaid i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol am ffurflen gais i fynd ar y restr llety, ac efallai wnaiff hyn gynnwys tai awdurdod lleol a chymdeithasau llety. Neu, gallwch geisio gyda chymdeithas llety yn uniongyrchol. Mae llety yn cael ei ddarparu yn ôl angen, felly fe fydd blaenoriaeth eich cais yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe gewch blaenoriaeth os:-

• ydych yn ddi-gartref
• mae’ch cartref presenol yn rhy fach, neu’n anaddas i fyw ynddo
• oes gennych gyflwr meddygol difrifol
• oes rhaid i chi fod yn agos i’ch teulu
• rydych chi wedi bod mewn gofal

Gallwch fod yn denant cyflwyniadol, tenant sicr neu’n denant diraddedig. Mae rhai gynghorau yn rhoi pob un o’u tenantiau ar denantiaethau cyflwyniadol un blwyddyn pan ydynt yn dechrau bw mewn llety cyngor. Os rydych yn cadw i dermau eich cytundeb denantiaeth, rydych yn dod yn denant sicr yn awtomatic ar ben un blwyddyn. Ond, fe all eich landlord estyn y denantiaeth cyflwyniadol am chew mis mewn rhai amgylchiadau.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn denantiau sicr ar gytundebau sy heb dyddiad gorffen. Fodd bynnag, fe all eich denantiaeth gael ei newid i denantiaeth diraddedig am adeg ar brawf, os gredai eich landlord eich bod wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Mae eich hawliau yn dibynnu ar ba fath o denantiaeth sydd ganddoch, ond fe all unrhyw denantiaeth ysgrifenedig roi hawliau yn ychwanegol i’r rhain a disgrifir isod. Y prif wahaniaeth yw pa mor hawdd ydyw i’ch troi allan.

Tenantiaeth cyflwyniadol

Mae’r cyngor yn medru troi chi allan yn haws ar y math hwn o denantiaeth, ond mae’n rhaid iddynt ddilyn y drefn gywir a roi i chi o leiaf bedair wythnos o rybudd. Wedyn mae gennych 14 diwrnod i ofyn am adolygiad o’u benderfyniad. Y rhesymau mwyaf tebygol am eich troi allan yw:-

• os nad ydych wedi talu’r rhent, neu rydych wedi’i dalu’n hwyr yn reolaidd
• os rydych wedi achosi poen i’ch gymdogion
• os symudwch chi allan o’ch cartref a’i logi i rywun arall

Tenantiaeth sicr

Fe all denantiau cael eu troi allan mewn amgylchiadau arbennig yn unig, e.e. os nad yw’r rhent wedi’i dalu neu os oes ddifrod i’r eiddo. Rhaid i’r landlord fynd i’r llys i brofi bod yna reswm dda i’ch troi allan.

Mae gennych hawl i gymryd breswylydd, i gael drosglwyddiad, i gyfnewid eich cartref neu ei brynu am ostyngiad. Mae’n bosib hefyd eich bod yn medru pasio’ch tenantiaeth ymlaen e.e. i aelod o’ch teulu neu i’ch partner. Medrwch orfodi’ch hawliau heb bryderi am gael eich troi allan, e.e. drwy gael atgyweiriadau wedi’u gwneud, ac fe allech wneud rhai atgyweiriadau a welliannau eich hun. Dylech hefyd gael eich ymgynghori ar sut mae eich cartref yn cael ei reoli.

Tenantiaeth ddiraddedig
Gallwch gael eich troi allan yn haws ar denantiaeth ddiraddedig, sydd yn adeg brawf o un blwyddyn. Pan gaiff eich denantiaeth sicr ei newid i denantiaeth ddiraddedig, fe gewch lythyron oddi wrth eich landlord a’r llysoedd gyda gwybodaeth ar sut mae’ch hawliau wedi’u newid a dyddiadau dechrau a gorffen eich tenantiaeth newydd.

Manylion cytundebau tenantiaeth a beth maent yn golygu

http://www.ukhomeswap.co.uk/?gclid=CLjkxfGj5qMCFYKY2AodLHOZ_A – cynllun cyfnewid cartrefi ar gyfer denantiau tai cyngor.

Cliciwch ar eichc Awdurdod Lleol am gyswllt i’r Adran Llety:

WRECSAM: www.wrexham.gov.uk

POWYS: www.powys.gov.uk

SÎR FÔN www.anglesey.gov.uk

GWYNEDD www.gwynedd.gov.uk

CONWY www.conwy.gov.uk

DINBYCH http://www.denbighshire.gov.uk/

SIR FFLINT www.siryfflint.gov.uk

SIR BENFRO www.pembrokeshire.gov.uk

SIR GAR www.carmarthenshire.gov.uk

ABERTAWE www.swansea.gov.uk

CASTELL-NEDD PORT TALBOT www.neath-porttalbot.gov.uk

RHONDDA CYNON TAF
http://www.rhondda-cynon-taff.gov.uk/stellent/groups/public/documents/hcst/home_page.hcst?lang=en&textonly=false

MERTHYR TUDFUL www.merthyr.gov.uk

SIR FORGANNWG www.valeofglamorgan.gov.uk/

SIR FYNWY www.monmouthshire.gov.uk

TORFAEN http://www.torfaen.gov.uk/Home.aspx

CASNEWYDD www.newport.gov.uk

BLAENAU GWENT www.blaenau-gwent.gov.uk/

PEN Y BONT AR OGWR www.bridgend.gov.uk

CAERFFILI http://www.caerphilly.gov.uk/default.aspx?s=ZZYkxQBcQE7vxArctFUsiXhg3Dw/Piu8

CAERDYDD www.cardiff.gov.uk

Budd-dalidau llety

Os ydych yn derbyn incwm isel neu dim incwm, efallai byddech â hawl i fudd-daliadau llety a gostyngiadau treth cyngor oddi wrth eich awdurdod lleol. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

http://www.direct.gov.uk/cy/MoneyTaxAndBenefits/BenefitsTaxCreditsAndOtherSupport/index.htm: gwybodaeth glir ynglŷn â phob math o fudd-daliadau.

Dadleuon gyda chymdogion

Mae 1 mewn 5 o bobl wedi dadlau gyda’u cymdogion yn y DU, ac mae 1 mewn 14 wedi cysylltu â’r heddlu yngl’r heddlu ynglŷn â’u cymdogion.

Os yw ymddygiaeth eich cymydog / cymdogion yn eich drysu:

• cymerwch gyfrifoldeb am ddatrys y broblem, os oes gennych weithiwr cynhaliad, efallai ei bod yn werth siarad â nhw am y broblem yn gyntaf
• siaradwch â’ch cymdogion yn fuan, cyn i’r ddadl dyfu i mewn i rywbeth llawer yn fwy
• ysgrifennwch atynt os ydych chi neu nhw yn gwylltio pan rydych yn ceisio i siarad.
• os yw cymdogion eraill hefyd yn cael eu heffeithio, ymunwch â nhw
• darganfyddwch pwy yw eu landlord, os yw’n addas, a chwynwch iddyn nhw (fe allen nhw droi allan denantiau sy’n creu poendod, ond mae’n bosib na ddewisent wneud unrhyw beth
• cysylltwch â’ch Swyddfa Iechyd Amgylcheddol lleol os mai gormod o sŵn yw’r problem (os yw safon y sŵn yn cael ei asesu fel boendod gyfreithlon, fe allent weinyddu sylwad yn gofyn i’r sŵn ddod i ben, ac os caiff hyn ei anwybyddy fe allent erlyn y tenantiaid
• cymerwch weithred gyfreithlon, ond derbynwch gyngor amhleidiol yn gyntaf (e.e. oddi wrth eich swyddfa leol Cyngor Am Bopeth)

Os yw eich cymdogion yn cwyno amdanoch chi:

• cadwch eich tymer a gwrandewch i’r hyn sydd ganddynt i ddweud
• cysylltwch â gwasanaethau cyfryngu am gymorth (e.e. Mediation UK)
• derbynwch gefnogaeth eich gweithiwr gynhaliol (os yw’n addas) neu rhywun sy’n eich adnabod, er mwyn eich helpu i ddatrys y problem
• gwnewch eich landlord yn ymwybodol o’r sefyllfa, rhag ofn bod eich cymdogion yn bygwth i gysylltu ag ef

Os oes gennych ofn o’ch cymdogion:

• fe all yr awdurdod lleol gymryd weithred yn erbyn ymddygiad wrthgymdeithasol, hyd yn oed os nad yw’r pobl yn rhentu oddi wrthynt
• hysbyswch yr heddlu amdanynt os ydynt yn gwneud pethau anghyfreithlon (e.e. ymosodiad, difrod eiddo neu ymddygiaeth sy’n frawychus ar bwrpas)

Beth sy’n digwydd mewn cyfryngaeth?

Fe fydd pobl annibynnol, wedi’u hyfforddi, yn ymweld â phawb sydd yn y dadl, a byddent yn gwrando i bob un ohonynt. Mae unrhywbeth sy’n cael ei ddweud yn breifat ac yn gyfrinachol. Fe fyddent yn gofyn i bob person sut ydynt yn gweld y sefyllfa, a beth meant yn credo sy angen ei wneud er mwyn ei ddatrys. Os yw pawb yn cytuno, efallai gynhelir cyfarfod cyd, lle bydd y cyfryngwyr yn sicrhau bod pawb yn cael dweud eu barn, ac yn eich helpu i ffeindio datrysiad yr ydych chi gyd yn hapus gyda. Fe all gytundeb ysgrifenedig gael ei arwyddo, er na fydd yn gyfrwymol yn gyfreithiol.

http://www.ukmediation.net/cms/ – cymdeithas annibynnol, gwirfoddol sy’n darparu cyfryngu yn y DU. Fel arfer, mae cyfryngaeth mewn dadlau cymdogion yn rhad ac am ddim.

Cynnal eich cartref

Os ydyn yn berchen ar y tŷ, fe fyddwch yn gyfrifol am gynhaliad. Er mwyn darganfod gweithwyr a chrefftwyr fedrwch ymddiried yn:

• gofynnwch i ffrindiau, teulu neu cymdogion ac ymwelwch â gwaith ddiweddar y crefftwyr
• derbynwch dyfynbrisiau ysgrifenedig
• paratowch cytundeb ysgrifenedig (gallwch lawrlwytho un am ddim oddiwrth y Ffederasiwn Pen-Adeiladwyr)
• gwiriwch statws yswiriant eich adeiladwr

Mae TrustMark yn gynllun a chefnogir gan y Llywodraeth, y diwydiant adeiladu a grwpiau defnyddwyr sy’n eich helpu i ddod o hyd i weithwyr dibynadwy er mwyn wneud gwelliannau at atgyweiriadau i’ch cartref. Mae’r wefan hwn yn eich galluogi i chwilio am weithwyr dibynadwy yn eich ardal chi. Gallwch hefyd eu galw ar 01344 630804.

Os yw eich cartref mewn ansawdd gwael, efallai medrwch ymgeisio i’ch gyngor lleol am grawnt ar gyfer atgyweiriadau, yn enwedig os rydych yn oedrannus neu’n anabl. Mae Asiantau Gofal ac Atgyweirio yn darparu gyngor a gwybodaeth, yn eich helpu i ymgeisio am gymorth grawnt ble sy angen, cymorth ymarferol trwy wneud atgyweiriadau yn gyflym, a darparu manylion o adeiladwyr dibynadwy.

Care & Repair Cymru: ewch i’r wefan hwn i ddod o hyd i’ch asiantaeth gofal ac atgyweirio leol.

Os ydych yn rhentu’n breifat ac mae’ch landlord yn gwrthod gwneud atgyweiriadau, gallwch ofyn i’ch cyngor lleol i gymryd weithrediad ar eich cyfer, neu gallwch ymgeisio i’r llysoedd. Mae’n syniad da i gysylltu ag asiantaeth cyngor fel swyddfa Cymorth Am Bopeth.

2. Rhannu cartref gyda theulu, partner neu ffrindiau

Beth mae hyn yn golygu?

Byw gyda rhieni, perthnasau eraill, partner neu prif ofalwr.

Darganfyddodd ymchwil ddiweddar gan Hafal o bobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr bod 38% o ddefnyddwyr gwasanaethau yn byw gyda’u teuluoedd.

Beth allai wneud?

Mae’n bosib fydd eich dewisiadau wedi’u cyfyngu wrth ystyried ble i fyw, oherwydd gan amlaf bydd y pobl rydych yn rhannu gydag yn penderfynu. Fodd bynnag, efallai byddwch yn penderfynu bod byw gyda phobl yn hytrach na byw ar eich pen eich hun, a cael rhywun sy’n eich adnabod chi i ddarparu rhan o’r cymorth rydych yn ei angen, yn fwy pwysig na byw yn annibynnol.

Beth ddylwn i wybod?

Asesiad Gofalwr

Os yw rhywun rydych yn byw gyda yn darparu llawer o’r cymorth sy angen arnoch er mwyn byw adref, fe allen nhw ofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am ‘Asesiad Gofalwr’. Mae gennynt hawl i wneud hwn hyd yn oed os nad oes gennych asesiad ddefnyddiwr gwasanaethau.

Mae asesiad gofalwr yn nodi eu anghenion er mwyn iddyn nhw roi cefnogaeth i chi. Gallen nhw ddisgwyl gael cynnig cefnogaeth ar gyfer eu cyfrifoldebau gofalu, e.e. cael help gyda gwaith tŷ neu cefnogaeth i’w galluogi i gymryd seibiant oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu.

Fe fydd gwasanaethau cymdeithasol yn medru darparu gwybodaeth ar nifer o gymdeithasau cefnogol, ac mae’n bosib y byddent â hawl ar budd-daliadau fel lwfans gofalwr a gostyngiad treth cyngor.

http://www.direct.gov.uk/cy/CaringForSomeone/index.htm: gwybodaeth ar fudd-daliadau a chymorth sydd ar gael ar gyfer gofalwyr.

http://wales.gov.uk/topics/health/socialcare/carers/?skip=1&lang=cy: gwybodaeth ar gyfer gofalwyr yng Nghymru o’r Cynulliad Cenedlaethol. Yn cynnwys restr o gymdeithasau sydd yn cynnig cefnogaeth a manylion ar hawliau gofalwyr.

3. Byw yn eich cartref eich hun gyda chefnogaeth

Beth mae hyn yn golygu?

Byw mewn llety y dewiswch, gyda chefnogaeth dros dro oddi wrth bobl broffessiynol arbenigol.

Darganfyddodd ymchwil ddiweddar gan Hafal o bobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr bod47% o ddefnyddwyr gwasanaethau yn byw ar eu pen eu hun.

Beth allai wneud?

Llety: gweler rheoli eich llety eich hyn

Mae yna dewisiadau o gwmpas ddarpariaeth unrhyw gymorth sy angen arnoch er mwyn cyflawni eich anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Gall rhain fod yn un neu mwy nag un o’r canlynol:

• Defnyddio eich arian eich hun neu ‘taliadau uniongyrchol’ i brynu cymorth
• Derbyn cymorth oddi wrth gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol
• Gwasanaethau cymorth gwirfoddol oddi wrth elusen neu cymdeithas gwirfoddol

Beth ddylwn i wybod?

Cefnogi Pobl

Mae’r menter Cefnogi Pobl yn darparu cefnogaeth er mwyn galluogi pobl i fyw yn annibynnol ac i gynnal denantiaeth neu aros yn eu cartref eu hun. Gall hyn fod yn ychwanegol i unrhyw gymorth rydych â hawl i er mwyn cyflawni eich anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r math hwn o gefnogaeth yn dibynnu ar amgylchiadau unigol ac fe all gynnwys:-

• Cyngor a chymorth gyda chyllido a delio â biliau
• Cymorth i ddatblygu sgiliau coginio a glanhau
• Eiriolaeth a chefnogaeth i ddarganfod help arbenigol arall, e.e. cyfreithwyr neu gwasanaethau cyffuriau neu alcohol

Mae Cefnogi Pobl yn dosbarthu arian i ddarparwyr cefnogaeth leol, e.e. Landlords Cymdeithasol wedi’u Cofrestri, awdurdodau lleol a chymdeithasau gwirfoddol. Mae’n hybu’r darparwyr lleol i weithio gyda’i gilydd er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sydd yn galluogi i bobl fregus i fyw yn annibynnol.

Dyma restr o dudalennau awdurdodau lleol ynglŷn â darpariaeth gwasanaethau cymorth.

Dyma gyfeiriadur o ddarparwyr gwasanaethau ar gyfer y DU i gyd, yn cynnwys Cymru.

4. Byw mewn llety wedi’i cynorthwyo

Beth mae hyn yn golygu?

LLety cysgodol, nyrsio neu preswyl gyda chymorth oddi wrth arbenigwyr mewn iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys sawl math o lety ble rydych yn byw rhywle sy’n darparu mynediad uniongyrchol i gymorth. Gall lefel y cymorth ystodi rhwng llety arbenigol, wedi’i cefnogi 24-awr i gymorth lefel isel ar adegau arbennig. Fe fydd lefel annibynniaeth hefyd yn newid, ac eich hawliau fel denant.

Darganfyddodd ymchwil ddiweddar gan Hafal o bobl gydag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr bod 10% o ddefnyddwyr gwasanaethau yn byw mewn llety wedi’i cynorthwyo.

Beth allai wneud?

Mae’r nifer o lefydd mewn llety wedi’i cynorthwyo amrywiol iawn ar draws Gymru, felly fe fydd rhaid i chi ymchwilio beth sydd ar gael yn eich ardal chi. Gallwch ddechrau gyda’ch dîm iechyd meddwl cymunedol neu gwasanaethau cymdeithasol lleol, neu gyda’n restr ni o wefannau. May byw rhywle y fedrwch ei alw yn gartref yn bwysig iawn, felly efallai dylech ystyried materion fel annibyniaeth a rhyddid symudiad.

Os na fedrwch fforddio talu am y math yma o ofal, fe fydd rhaid i asesiad ddefnyddiwr gwasanaethau cael ei gario allan, er mwyn cyrchu cyllid awdurdod lleol. Cysyslltwch ag eich adran leol gwasanaethau cymdeithasol am wybodaeth ynglŷn â chael asesiad.

Beth ddylwn i wybod?

Fe fydd y math yma o lety yn ddrytach na’r rhan fwyaf o lety wedi’i rhentu oherwhydd mae’n cynnwys cymorth, ac fe fydd hyd eich arhosiad yn dibynnu ar ba mor hir mae angen y cymorth ychwanegol arnoch.

Yn aml mae yna restr aros ar gyfer llety wedi’i cynorthwyo, ac mae’n debyg y byddech yn cael cyfweliad cyn ennill le, neu efallai fe fydd eich tîm iechyd meddwl cymdeithasol yn eich cyfeirio. Os cafodd eich llety mewn tai cynhaliedig ei drefnu gan eich awdurdod lleol, mae cyfrifoldeb ganddyn nhw i sicrhau eich bod yn derbyn ansawdd da o ofal. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydynt wedi contraction cymdeithas breifat neu wirfoddol i ddarparu’r llety.

Mae’n debyg fydd y cyntundeb denantiaeth y byddech yn ei arwyddo yn debyg ag un ar gyfer llety wedi’i rhentio (gweler uchod), yn enwedig os yw eich llety yn weddol annibynnol. Os nad oes gennych gytundeb denantiaeth, fodd bynnag, mae’n debyg fydd gennych drwydded neu denantiaeth arbennig, sy’n ystyried y cymorth ychwanegol rydych yn derbyn. Mae hyn yn golygu bod ganddoch caniatàd arbennig i fyw yno, yn hytrach na hawl gyfreithiol, ac mae’n haws i’ch troi allan. Fodd bynnag, mae natur y llety yn gynorthwyol, felly nid ydych yn debygol o body n y sefyllfa hon. Os rydych yn cael problemau gyda’ch denantiaeth, mae’n syniad da i’w drafod gyda’ch gweithiwr cynorthwyol yn gyntaf. Neu, fe all eich swyddfa Shelter neu’ch swyddfa Cyngor am Bopeth lleol eich cynghori ynglŷn â’ch hawliau o dan y gyfraith.

Ewch i http://www.ssiacymru.org.uk/index.cfm?articleid=1702 am restr o awdurdodau lleol a’u gwasanaethau cynorthwyol, ac am restr o ddarparwyr llety cynorthwyol yng Nghymru.

5. Aros mewn ybyty

Meth mae hyn yn golygu?

Cynorthwyiad arbenigol am 24 awr y dydd, fel claf preswyl. Mae’r rhan fwyaf o bobl yno yn wirfoddol, ond mae rhai yno diolch i drefniant ffurfiol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn Saesneg, gelwir hyn hefyd yn ‘being sectioned’.

Beth allai wneud?

Nid yw’n debygol bod ddewis ganddwch ynglŷn â pha ysbyty yr ydych yn mynd i, yn enwedig os rydych yn cael eich derbyn fel argyfwng. Fe fyddwch, mor bell sy’n bosib, yn mynd i’r ysbyty sy’n agosaf at eich cartref.

Pan adewch yr ysbyty, efallai byddwch yn dewis i:-

• Ddychwelyd i ble’r oeddwch yn byw cyn mynd i’r ysbyty, gyda chymorth ychwanegol tra fyddwch yn ei angen
• Fyw mewn llety wedi’i cynorthwyo am sbel

Beth ddylai wybod?

Tra fyddech yn delio ag argyfwng, nid yw’n hawdd i feddwl am ble fyddech yn byw pan gadewch chi’r ysbyty, ond os yw’n bosib i chi (neu rhywun sy’n eich cynorthwyo yn reolaidd) yn medru gwneud ambell i beth ar y pryd, fe fydd hyn yn sicrhau eich bod yn medru dychwelyd i’ch cartref pan gadewch, os hyn fyddai’n orau i chi.

• Os rydych yn derbyn budd-daliadau llety, rhowch wybod i’r swyddfa budd-daliadau lleol eich bod yn mynd i’r ysbyty. Nid yw’r budd-daliad hwn yn debyg o gael ei effeithio os rydych yn yr ysbyty am llai na blwyddyn, ond mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt pryd rydych yn mynd i mewn a phryd rydych yn dod allan.
• Sicrhewch bod eich rhent neu morgais yn cael ei dalu tra fyddech yn yr ysbyty fel na fyddech yn cwympo tu ôl gyda’ch taliadau ac yn eich rhoi eich hun mewn peryg o gael eich troi allan
• Trefnwch i rywun cadw llygad ar eich cartref, er mwyn lleihau’r posibilrwydd o gael lladron, ac i’w gadw’n addas i fyw ynddo ar gyfer eich dychweliad.

Gadael yr ysbyty

Cyn i chi adael yr ysbyty, fe ddylai’ch swyddog meddygol sicrhau bod eich anghenion iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hasesu, gan gynnwys eich anghenion llety. Fe ddylai’r aseswyr siarad gyda chi cyn penderfynu pa fath o cymorth ddylech chi dderbyn, ac fe ddylwch chi roi gwybod iddynt beth credwch chi bod angen arnoch. Os mae ffrind neu perthynas yn eich cynorthwyo’n reolaidd, fe allen nhw hefyd gymryd rhan yn y trafodaethau.

Dylai eich ryddhad o’r ysbyty gynnwys:-

• Asesiad o’ch anghenion, amgylchedd byw a rhwydwaith cynorthwyol
• Cynllun gofal ysgrifenedig sy’n nodi’r anghenion hyn
• Asesiad o’ch gallu i dalu am unrhyw wasanaethau na chaiff eu darparu am ddim
• Cadarnhad bod unrhyw wasanaethau sy angen arnoch yn barod ar gyfer pan dych yn cael eich rhyddhau
• System i archwilio ac, os oes angen, addasu’ch cynllun gofal er mwyn ystyried unrhyw newidiad yn eich anghenion

Dyma dudalen gwybodaeth y swyddfa Cymorth Am Bopeth ar hawliau cleifion.

Adran 117

Os rydych yn cael eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, mae gennych yr hawl i unrhryw wasanaethau gofal iechyd neu cymdeithasol mae angen arnoch, yn ôl yr asesiad a gafoch pan gadawoch chi’r ysbyty. Gelwir hwn hefyd yn Adran 117, neu ‘dyletswydd gofal’. Ni fydd rhaid i chi dalu am ôl-ofal adran 117, ac fe fydd yn parhau nes nad oes angen arnoch ar y gwasanaethau hyn. Gallent gynnwys eich anghenion llety, yn enwedig os oes rhaid i chi aros mewn llety wedi’i cynorthwyo.

Rhaid i’ch Swyddog Meddygol Gyfrifol drefnu cynhadledd achos aml-ddisgyblaeth er mwyn cytuno’r cynllyn ôl-ofal o fewn chwech wythnos wedi i chi gael eich derbyn i mewn i’r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae yna hefyd gofyniad statudol i gynnwys unrhyw ffrindiau neu perthnasau sy’n darparu cymorth reolaidd, gwasanaethau cymdeithasol a’r sector gwirfoddol. Rhaid i gynhadledd achos arall cymryd lle cyn i chi adael yr ysbyty, er mwyn sicrhau bod pob agwedd o’r cynllun gofal yn eu lle, gan gynnwys eich llety ac anghenion cymorth.

Bod yn ddi-gartref

Os rydych mewn peryg o fod yn ddi-gartref pan ydych yn gadael yr ysbyty, fe ddylech chi esbonio’ch anghenion llety fel rhan o’ch cynllun gofal. Ni ddylech chi gael eich rhyddhau os rydych chi’n debygol o fod yn ddi-gartref.

Os, fodd bynnag, rydych yn dod yn ddi-gartref a mae’r cyngor lleol yn cytuno eich bod yn dd-gartref, mae ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol i roi llety i chi ac fe fydden nhw’n trefnu llety argyfwng i chi. Efallai fydden nhw’n cynnig lle mewn gwesty Gwely a Brecwast, mewn llety dros-dro y cyngor, gyda chymdeithas llety neu gyda landlord preifat. Fe fyddech yn medru aros yn y llety dros dro nes eich bod yn medru symud i rywle yn fwy parhaol. Fe all hyn fod yn rywle rydych yn dod o hyd i ar eich pen eich hun. Efallai bydd y cyngor yn cynnig denantiaeth cyngor parhaol (mae pobl ddi-gartref yn cael blaenoriaeth ar y restri aros) neu denantiaeth aswiriedig gyda chymdeithas llety neu landlord preifat.

Gweler y gwefannau isod am fwy o wybodaeth:

http://www.sheltercymru.org.uk: Mae gan Shelter Cymru gweithwyr achos a chyfreithwyr sy’n darparu cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol ar broblemau llety. Galwch Shelterline am ddim ar 0808 800 4444 am gyngor llety .

http://www.adviceguide.org.uk/CY/wales.htm: Swyddfa Cyngor Am Bopeth yng Nghymru ar gyfer gwybodaeth a chyngor ar nifer fawr o faterion, yn cynnwys llety.

http://tpas.arrow.uk.net/: Mae TPAS Cymru yn gymdeithas cyfranogaeth denantiau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod pobl lleol yn cael dweud eu barn mewn penderfyniadau sy’n effeithio’u cartrefi a’u cymdeithasau.

http://www.cymorthcymru.org.uk: Cymdeithas Gymraeg ar gyfer llety wedi’i cynorthwyo.